Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen o gynlluniau effeithlonrwydd ynni seiliedig ar ardaloedd yw Arbed Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy’n targedu gwelliannau i gartrefi mewn ardaloedd ledled Cymru lle mae teuluoedd yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi tanwydd llym. Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Arbed am Byth i gyflawni’r cynllun hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Miller Research i gyflawni gwerthusiad o’r rhaglen Arbed. Amcan y gwerthusiad hwn yn deall y ffordd y caiff Arbed ei reoli a’i weithredu, asesu ei berfformiad ochr yn ochr â’r allbynnau a’r amcanion a bennwyd ar ei gyfer ac archwilio canlyniadau ac effaith ehangach.

Fel rhan o’r gwerthusiad hwn, bydd Miller Research yn casglu gwybodaeth trwy arolwg ffôn gydag unigolion sydd wedi derbyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn eu cartref gyda chymorth rhaglen Arbed. Bydd Beaufort Research yn cynnal yr arolwg ffôn hwn ar ran Miller Research.

Llywodraeth Cymru yw rheolydd y data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Miller Research a Beaufort Research yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd trwy’r arolwg, ac yn datgysylltu’r data amrwd oddi wrth unrhyw enwau, cyn iddo gael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Miller Research a Llywodraeth Cymru.

Rydych chi’n cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich safbwyntiau a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cymru.

Y person cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Miller Research yw Kerry KilBride.

E-bost: kerry@miller-research.co.uk
Rhif ffôn: 01873 851886

Pa ddata personol ydym ni’n ei ddal ac o le’r ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Caiff data personol ei ddiffinio o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â  pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodydd’.

Er mwyn derbyn cymorth gan y rhaglen Arbed Cartrefi Clyd, roedd ar Lywodraeth Cymru angen casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi i ddibenion gweithredu, monitro a gwerthuso’r rhaglen.  Arbed am Byth yw prosesydd data eich gwybodaeth bersonol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae rhywfaint o’r wybodaeth bersonol hon – eich enw a’ch rhif ffôn – wedi cael ei rannu gan Lywodraeth Cymru gyda Miller Research a Beaufort Research i gyflawni’r arolwg ffôn. Bydd Llywodraeth Cymru’n dileu’r wybodaeth bersonol mae’n ei derbyn gan Arbed am Byth ar ôl iddi gael ei throsglwyddo.

Rydych yn cymryd rhan yn wirfoddol ac os nad ydych chi’n dymuno cymryd rhan, bydd eich manylion yn cael eu dileu o’r gronfa ddata a ddelir gan Miller Research a Beaufort Research. Bydd Miller Research a Beaufort Research yn defnyddio’ch cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn i ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig.

Bydd yr arolwg yn gofyn rhai cwestiynau ichi a all olygu y bydd angen ichi ddarparu rhywfaint o ddata ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys cwestiynau ynghylch:

  • y nifer o bobl yn eich cartref a’u hoedrannau
  • newidiadau yn eich iechyd chi neu iechyd eich cyd-letywyr
  • ymweliadau â meddyg teulu
  • incwm eich cartref
  • statws cyflogaeth

Gallwch ddewis peidio ag ateb y cwestiynau hyn.

Fel rhan o’r arolwg, gofynnir ichi roi eich cyfeiriad e-bost pe baech chi’n fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad dilynol. Lle’r ydych chi’n nodi y byddech chi’n fodlon, gall eich cyfeiriad e-bost gael ei ddefnyddio i gysylltu â chi i drefnu’r cyfweliad ffôn dilynol. Eich dewis chi yw cymryd rhan yn y cyfweliad neu beidio.

Os ydych chi’n dewis cyflwyno data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil, ni fyddwn yn eich adnabod trwy’r ymatebion a roddwch nac yn eich cysylltu â hwy. Os ydych yn gwneud ymholiad neu’n cyflwyno cŵyn ac yn rhoi data personol wrth ofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen a bydd wedyn yn ei ddileu o’r data ymchwil.

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarferiad casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; sef, gweithredu ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhywfaint o’r data rydym yn ei gasglu yn ‘ddata categori arbennig’ (yn yr achos hwn gwybodaeth am eich iechyd) a’r sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth hon yw ei bod i ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Mae cymryd rhan ynddo yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth ystyrlon ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gellid defnyddio’r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, i archwilio sut mae Arbed wedi cael ei reoli a’i weithredu ac a ddylai Llywodraeth Cymru gefnogi cynlluniau tebyg yn y dyfodol a’r ffyrdd gorau o wneud hyn.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Bydd pob gwybodaeth bersonol yn cael ei dal yn electronig. Caiff gwybodaeth bersonol a ddarperir i Miller Research a Beaufort Research ei storio ar weinydd diogel bob amser. Os ydych wedi cytuno i gyfweliad dilynol yna, unwaith y bydd eich cyfweliad ffôn wedi’i gwblhau, bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio ar wahân oddi wrth data eich cyfweliad er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ffordd o’ch adnabod chi nac o’ch cysylltu â’r ymatebion rydych wedi eu rhoi. Ni ellir cyrchu’r data ond gan nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn.  I ddibenion ymchwil yn unig y bydd Miller Research a Beaufort Research yn defnyddio’r data hwn. Mae gan Miller Research a Beaufort Research ardystiad Cyber Essentials.

Mae gan Miller Research a Beaufort Research weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuon o dorri diogelwch data. Os amheuir bod torri wedi digwydd, bydd Miller Research yn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol inni wneud hynny.

Bydd yr holl ddata a gesglir trwy’r ymchwil hwn yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd Miller Research a Beaufort Research yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Pa mor hir ydym ni’n cadw eich data personol?

Bydd Miller Research a Beaufort Research yn dal gafael ar eich data personol yn ystod cyfnod y contract (Mai 2020 i Awst 2021), a bydd unrhyw ddata personol na chafodd ei ddileu eisoes yn ystod y cyfnod trawsgrifio yn cael ei ddileu gan Miller Research a Beaufort Research dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Bydd Miller Research a Beaufort Research yn rhoi i Lywodraeth Cymru fersiwn ddienw o’r data na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod.

Hawliau unigolion

O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol sy’n ymwneud â’r wybodaeth bersonol a roddwch fel rhan o’r gwerthusiad hwn:

  • gweld copi o’ch data eich hun
  • ein cael ni i gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • gosod cŵyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy’n gweithredu fel ein rheoleiddiwr annibynnol diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut fydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu’n dymuno gweithredu eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Katy Marrin
Rhif ffôn: 0300 062 5103

Gweler y manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru isod:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru