Neidio i'r prif gynnwy

Nod y rhaglen yw dod â band eang y genhedlaeth nesaf i eiddo nad oedd disgwyl yn wreiddiol iddynt gael eu cynnwys mewn rhaglen i gyflwyno i eiddo masnachol.

Rhwng 2015 a 2018, darparodd y Rhaglen fynediad at seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf i 101,202 o eiddo ledled Cymru. 

Mae sefyllfa Cymru wedi newid o fod y wlad yn y DU sydd â’r lefel isaf o fynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf yn 2014 i un o’r rheini â’r lefel mynediad orau. 

Mae nifer y rhai sy’n manteisio ar fand eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru gyda’r isaf o holl wledydd y DU, sef 38%. Fodd bynnag, mae’n sylweddol uwch ymhlith eiddo a gafodd eu cysylltu drwy’r Rhaglen, sef tua 50%. 

Dyma rai o ganfyddiadau y cyfweliadau a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid:

  • cafodd rhwystrau rhag cyflawni eu goresgyn drwy gyfathrebu’n dda yn fewnol a gweithgarwch hyrwyddwyr lleol
  • cyflawnodd prosesau rheoli a llywodraethu yn effeithiol
  • cafodd gweithdrefn Profi a Gwirio arloesol ei datblygu a ddarparodd data monitro mwy cywir a dibynadwy i BT/Openreach
  • roedd y prosesau ar gyfer cyfathrebu rhwng rhanddeiliaid mewnol wedi gweithio’n dda ac roedd yr ymgais i fynd i’r afael â’r feirniadaeth a gafwyd cyn hynny o ddulliau cyfathrebu allanol yn rhannol lwyddiannus.

Adroddiadau

Gwerthusiad o raglen Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru: 2015 to 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o raglen Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru: 2015 to 2018 (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 727 KB

PDF
727 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Tom Stevenson

Rhif ffôn: 0300 062 2570

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.