Mae Esgyn yn rhaglen i fynd i’r afael â diweithdra, a luniwyd i ymateb i Gynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi 2013 Llywodraeth Cymru.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o Raglen Esgyn
Mae Esgyn yn rhaglen i fynd i’r afael â diweithdra, a luniwyd i ymateb i Gynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi 2013 Llywodraeth Cymru ac yn fwy penodol, i ymateb i ymrwymiad i ddarparu 5,000 o gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl o aelwydydd di-waith am gyfnod hir erbyn diwedd 2017.
Y rhaglen
Mae Esgyn yn gweithredu mewn naw maes darparu sy’n seiliedig ar ddeuddeg Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf ar hyd a lled Cymru. Ym mhob maes darparu, mae timau bach o froceriaid swyddi wedi’u recriwtio i ymgysylltu ag oedolion o oedran gweithio sy’n byw mewn aelwydydd di-waith am gyfnod hir.
Nodau gwerthuso
Roedd ddwy nod gyffredinol i’r gwerthusiad:
- asesu sut y cafodd y Rhaglen ei sefydlu ym mhob un o’r naw ardal ynghyd a sut y câi ei gweithredu yno.
- rhoi syniad o’i heffeithiolrwydd wrth helpu cyfranogwyr i ddod o hyd i waith neu i wneud gweithgareddau a fyddai’n rhoi hwb sylweddol i’w rhagolygon i gael swydd.
