Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Roedd rhaglen grantiau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (y Cynllun) Llywodraeth Cymru yn fuddsoddiad sylweddol mewn newid diwylliannol gwrth-hiliol. Mae’r crynodeb gweithredol hwn yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad a archwiliodd sut y cyflawnwyd y rhaglen a’r hyn a gyflawnwyd mewn tri maes, sy’n rhychwantu sefydliadau cenedlaethol, lleol a llawr gwlad.

Mae’r Cynllun, a gyhoeddwyd yn 2022 ac a ddiweddarwyd yn 2024, yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol. O fewn hyn, nodau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon y Cynllun yw sicrhau mynediad cyfartal i ddiwylliant, treftadaeth a chwaraeon ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a chynrychiolaeth ynddynt. Ceisiodd rhaglen grantiau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon y Cynllun gefnogi’r uchelgais hon drwy ariannu gweithgareddau ar lefel genedlaethol, lefel leol ac ar lawr gwlad.

Roedd y rhaglen grantiau yn weithredol ar draws tri maes

Maes 1

Cyllid ar gyfer Cyrff Hyd Braich gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Amgueddfa Cymru, Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi newid mewnol a sectoraidd.

Maes 2

Grantiau cystadleuol ar gyfer sefydliadau diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon lleol i gyflawni prosiectau sy’n cyd-fynd â nodau’r Cynllun.

Maes 3

Cafodd y gwerthusiad ei ategu gan ddull gwerthuso realaidd, a oedd yn archwilio’r hyn oedd yn gweithio, i bwy, ym mha gyd-destunau a pham. Roedd hyn yn cynnwys canolbwyntio ar brosesau gweithredu, canlyniadau a gyflawnwyd, a’r cyd-destunau a oedd yn llywio cyflawniadau ac effaith. Defnyddiwyd sawl dull casglu data, gan gynnwys:

  • arolygon a chyfweliadau gydag arweinwyr prosiectau a ariannwyd ar draws pob maes
  • arolygon gyda chyfranogwyr prosiectau, hyfforddeion, a’r staff a oedd yn ymwneud â chyflawni
  • ymweliadau wyneb yn wyneb ac ar-lein â phrosiectau yn cynnwys cyfranogwyr mewn gweithgareddau a ariennir
  • dadansoddi adroddiadau diwedd prosiect a monitro data
  • ymgysylltu â Phanel Cynghori Arbenigol profiad bywyd a mentoriaid cymunedol i gefnogi cyd-ddylunio a dehongli canfyddiadau

Mae’r crynodeb hwn yn nodi canfyddiadau cyffredinol ar draws y tri maes, gan roi sylw i’r ffordd y rheolwyd y rhaglen a pha newidiadau y cyfrannodd atynt ar lefelau unigol, sefydliadol a sectoraidd.

Canfyddiadau allweddol

Dylunio a rheoli grantiau

Ar draws y tri maes, cafodd y rhaglen ei chydnabod yn gyffredinol am ganolbwyntio ar werthoedd gwrth-hiliol, nid yn unig yn ei hamcanion ond hefyd yn ei strwythur a’i ffordd o gyflawni. Roedd hyn yn arbennig o amlwg o ran rolau mentoriaid cymunedol, trefniadau adrodd hyblyg, a chefnogaeth i ymgeiswyr ac arweinwyr prosiectau.

Manteisiodd Maes 1 (Cyrff Hyd Braich) ar ymgysylltiad agos â Llywodraeth Cymru. Nododd prosiectau fod y broses rheoli grantiau yn gefnogol i raddau helaeth, gyda chyfarfodydd monitro chwarterol a oedd yn creu lle ar gyfer trafodaeth onest ac addasiadau ymatebol. Gwnaeth presenoldeb mentoriaid cymunedol yn y cyfarfodydd hyn ychwanegu gwerth, herio rhagdybiaethau ac ymgorffori profiad bywyd. Fodd bynnag, ymhlith yr heriau a wynebwyd roedd oedi wrth ryddhau cyllid, camalinio rhwng amserlenni talu ac amserlenni cyflawni, a darpariaeth gyfyngedig ar gyfer gofal bugeiliol.

Dilynodd Maes 2 (Sefydliadau Lleol) broses grant gystadleuol fwy confensiynol. Nodwyd bod y broses yn un deg yn gyffredinol ac wedi’i gweinyddu’n dda, ond soniodd staff Llywodraeth Cymru am bwysau amser yn ystod y cam asesu. Gwnaeth rhai arweinwyr prosiect wynebu rhwystrau oherwydd gofynion talu ôl-weithredol a monitro ariannol cymhleth, yn enwedig y rhai o sefydliadau llai neu’r rhai oedd â seilwaith cyfyngedig. Er gwaethaf hyn, roedd sefydliadau a ariannwyd o’r farn bod staff Llywodraeth Cymru yn hyblyg ac yn hawdd mynd atynt, gydag amrywiadau i gontractau yn cael eu defnyddio i ddarparu ar gyfer oedi wrth recriwtio, heriau cyflawni, neu newidiadau yn ffocws y prosiect.

Cyflawnwyd Maes 3 (Sefydliadau ar Lawr Gwlad) gan Diverse Cymru, gyda phwyslais penodol ar hygyrchedd. Cafodd y broses ymgeisio ei chanmol yn eang gan arweinwyr prosiect am fod yn fwy cynhwysol na chynlluniau cyllido blaenorol, a manteisiodd llawer ohonynt ar y cymorth a gynigiwyd yn ystod y cam ymgeisio. Cyflwynodd Diverse Cymru gardiau rhagdalu i gefnogi microsefydliadau heb gyfrifon banc, er i lai o sefydliadau na’r disgwyl fanteisio arnynt. Roedd gofynion monitro yn ysgafnach nag ar gyfer y meysydd eraill, ac roedd prosiectau’n gwerthfawrogi’r perthnasoedd seiliedig ar ymddiriedaeth a sefydlwyd gyda staff y rhaglen. Fodd bynnag, soniodd rhai arweinwyr prosiectau am faterion o ran cyfathrebu, oedi wrth dalu, a dryswch rhwng cyllid refeniw a chyllid cyfalaf.

Ar draws pob maes, nodwyd bod presenoldeb mentoriaid cymunedol yn gryfder. Roedd mentoriaid yn cynnig her adeiladol, arbenigedd, a phrofiad bywyd a gyfoethogodd y gwaith o oruchwylio’r rhaglen. Fodd bynnag, roedd eu hamser yn gyfyngedig, ac awgrymodd mentoriaid a’r rhai a gafodd grantiau y byddai eu rôl yn elwa ar adnoddau ychwanegol ac ar gael ei ffurfioli.

Yn gyffredinol, ystyriwyd bod cyfarfodydd monitro yn ddefnyddiol ac yn gefnogol, er i rai o’r rheini a gafodd grantiau nodi bod templedi adrodd yn ailadroddus neu’n canolbwyntio’n ormodol ar ganlyniadau uniongyrchol, yn hytrach nag ar newid hirdymor. Croesawyd yr hyblygrwydd i addasu’r hyn a gyflawnwyd trwy amrywio contractau, ond roedd eglurder ynghylch prosesau a disgwyliadau yn amrywio ar draws meysydd.

Canlyniadau ac effaith

Canfu’r gwerthusiad fod y rhaglen wedi gwneud cynnydd ystyrlon tuag at gyflawni ei nodau gwrth-hiliol, gydag effeithiau cadarnhaol ar sawl lefel; unigol, sefydliadol, a sectoraidd. Roedd yr effeithiau’n amrywio ar draws meysydd, ond roedd rhai canlyniadau cyffredin yn amlwg.

Ar lefel unigol, gwnaeth y rhaglen gynorthwyo amrywiaeth eang o bobl i ymgysylltu â diwylliant, treftadaeth a chwaraeon mewn ffyrdd newydd a chadarnhaol. Nododd cyfranogwyr ym mhrosiectau maes 3 eu bod wedi magu mwy o hyder, eu bod wedi cael mynediad i fannau newydd, a soniwyd am ymdeimlad o welededd diwylliannol. I’r rhai a gyflogwyd neu a gomisiynwyd trwy brosiectau a ariannwyd (yn enwedig ym meysydd 1 a 2), roedd y profiad yn aml yn cryfhau sgiliau proffesiynol, rhwydweithiau a chyflogadwyedd yn y dyfodol.

Ar lefel sefydliadol, adroddodd y rhai a gafodd grantiau ar draws pob maes fod mwy o gapasiti i ymgysylltu ag arferion gwrth-hiliol. Ym maes 1, gwelodd rai cyrff hyd braich newidiadau mewnol sylweddol, megis adolygu casgliadau a naratifau cyhoeddus, gwella amrywiaeth staff, ac ymgorffori cyd-greu yn eu rhaglennu. Ym meysydd 2 a 3, roedd prosiectau yn aml yn helpu sefydliadau i feithrin perthnasoedd â chymunedau newydd, mabwysiadu dulliau mwy cynhwysol, a datblygu llwybrau arweinyddiaeth ar gyfer pobl o leiafrifoedd ethnig. Fodd bynnag, nid oedd dysgu sefydliadol bob amser wedi’i ymwreiddio, ac roedd rhai newidiadau yn parhau i fod yn gysylltiedig ag unigolion penodol neu gyllid dros dro.

Ar lefel sectoraidd, cyfrannodd y rhaglen at newidiadau ehangach yn y ffordd y mae diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yn cael eu llunio a’u cyflawni. Sicrhaodd y grantiau fod modd i sefydliadau ar lawr gwlad a sefydliadau sefydledig gydweithredu, a chreodd le ar gyfer gweithgarwch adrodd straeon a arweiniwyd gan y gymuned, digwyddiadau a mannau a oedd yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru. Mae datblygiadau arloesol wrth ddylunio’r rhaglen, gan gynnwys defnyddio Diverse Cymru, dulliau rhagdalu, a gwerthuso wedi’i gyd-ddylunio, wedi rhoi model ar gyfer arferion cyllido mwy cynhwysol. Fodd bynnag, mae cynaliadwyedd yn parhau i fod yn her, gyda llawer o sefydliadau yn mynegi ansicrwydd ynghylch sut i gynnal momentwm heb fuddsoddiad parhaus.

Yn nodedig, roedd y rhaglen yn cefnogi cynrychiolaeth a chynhwysiant ar draws amrywiaeth o hunaniaethau a chymunedau, gan gynnwys gweithgarwch ymgysylltu â ffocws gyda grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ym maes 3. Er bod hwn yn gam pwysig, nododd rhanddeiliaid fod angen ystyriaeth ddyfnach o groestoriadedd, yn enwedig y ffordd y mae hil yn croestorri ag anabledd, rhywedd a dosbarth o ran mynediad i fywyd diwylliannol.

Yn gryno, mae’r rhaglen wedi gwneud cyfraniadau gwirioneddol at nodau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon y Cynllun. Er bod cyfyngiadau ynghylch amserlen, cylchoedd cyllido a gwaddol yn parhau, canfu’r gwerthusiad dystiolaeth glir o newid cadarnhaol, ac awydd cryf gan sefydliadau a chymunedau i adeiladu ar y sylfaen hon.

Casgliadau & argymhellion

Dangosodd Rhaglen Grantiau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn llwyddiannus sut y gall menter a ariennir drwy gyllid wedi’i dargedu ddechrau ymdrin â rhwystrau strwythurol a meithrin newid gwrth-hiliol yn y sector diwylliannol yng Nghymru. Trwy ddarparu adnoddau ar gyfer gweithgarwch ar sawl lefel, sefydliadau cenedlaethol, sefydliadau lleol, a grwpiau ar lawr gwlad, creodd y rhaglen gyfleoedd i ymgysylltu, arbrofi a thrawsnewid ar draws amrywiaeth eang o leoliadau.

Canfu’r gwerthusiad fod dull dylunio a chyflawni’r rhaglen yn ffactor galluogi allweddol o ran ei heffaith. Yn benodol, nodwyd dro ar ôl tro bod cyfranogiad mentoriaid cymunedol, ymrwymiad i gyd-gynhyrchu, a ffordd hyblyg o reoli grantiau yn nodweddion cadarnhaol ac arbennig. Hefyd, gwnaeth y penderfyniad i ddefnyddio Diverse Cymru i weinyddu maes 3 sicrhau bod modd ymgysylltu’n ystyrlon â sefydliadau sydd wedi cael eu heithrio o ffrydiau cyllido prif ffrwd yn draddodiadol.

Fodd bynnag, gwnaeth rhai heriau gyfyngu ar gyrhaeddiad a chynaliadwyedd y rhaglen. Yn eu plith roedd: arian yn cael ei dalu’n hwyr, amserlenni cyfyngedig ar gyfer cyflawni, gofynion monitro ariannol beichus, a darpariaeth annigonol ar gyfer gofal bugeiliol. Ar ben hynny, er i lawer o sefydliadau ddangos cynnydd da tuag at ymwreiddio gwerthoedd gwrth-hiliol, bydd angen i’r gefnogaeth a gweithgarwch meithrin capasiti barhau er mwyn sicrhau newid yn y tymor hwy. 

Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r gwerthusiad, mae’r adroddiad yn amlinellu mwy na 30 o argymhellion, wedi’u grwpio’n feysydd thematig e.e., rheoli grantiau, cyfathrebu, cyd-gynhyrchu, gwaddol, a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru fel cyllidwr. Yn fras, gellir crynhoi’r argymhellion fel a ganlyn:

  • Cynnal arferion rhoi grantiau cynhwysol a’u defnyddio’n fwy eang, gan gynnwys prosesau symlach, dulliau talu hyblyg, a chymorth cyn ymgeisio, yn enwedig ar gyfer sefydliadau ar lawr gwlad.
  • Cryfhau strwythurau cymorth ar gyfer y rhai sy’n cael grantiau, gan gynnwys amser a chyllid pwrpasol ar gyfer gofal bugeiliol, dysgu gan gymheiriaid, a rhwydweithio ar draws prosiectau.
  • Ymwreiddio profiad bywyd yn ystyrlon ar bob lefel wrth ddylunio a chyflwyno rhaglenni, gan gynnwys wrth asesu, monitro a gwerthuso grantiau.
  • Adolygu a symleiddio trefniadau monitro ac adrodd i sicrhau atebolrwydd ac i alluogi’r rhai sy’n cael grantiau i adrodd stori lawn eu gwaith, gan gynnwys canlyniadau ansoddol a rhai wedi’u diffinio gan y gymuned.
  • Sicrhau bod amseroedd arwain digonol a chyllid aml-flwyddyn, er mwyn galluogi prosiectau i gynllunio, recriwtio a chyflawni’n effeithiol, ac i gefnogi newid sefydliadol parhaus.
  • Buddsoddi mewn gwaddol a seilwaith dysgu, megis cymunedau ymarfer, llyfrgelloedd astudiaethau achos, a llwybrau cyllido dilynol sy’n cefnogi parhad gwaith effeithiol.

Gyda’i gilydd, mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod Rhaglen Grantiau Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon y Cynllun wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr at weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Gyda buddsoddiad ac ymrwymiad parhaus, gall ei sylfeini gefnogi newid systemig ar draws y sectorau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yng Nghymru.

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Dr Holly Taylor-Dunn, Emily Preston-Jones, Caroline White, Sophi Ducie a Sarah Bristol-Abbott

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Is-adran Diwylliant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: diwylliant@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 86/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-387-5

GSR logo