Nod yr astudiaeth oedd gwerthuso effaith ac effeithlonrwydd ReAct, gan wneud argymhellion ar gyfer cyfeiriad y rhaglen a’i darpariaeth yn y dyfodol.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o raglen Gweithredu Diswyddiadau (ReAct)
Mae ReAct yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o liniaru effeithiau niweidiol colli swyddi drwy alluogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt i ddatblygu eu sgiliau a sicrhau cyflogaeth newydd cyn gynted ag sydd modd. Mae’n ymyriad unigryw gan ei fod yn rhoi cefnogaeth ynghynt na chynlluniau yn rhannau eraill o’r DU i unigolion a gollodd eu swyddi.
