Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad annibynnol o Raglen Trawsnewid Integreiddio Blynyddoedd Cynnar i lywio'r broses o'i chyflwyno i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus pellach yn y dyfodol.

Mae Rhaglen Trawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar wedi'i chynllunio i ddod â dull mwy cydlynol a chydgysylltiol o ddarparu cymorth i blant ifanc a theuluoedd.

Cymerodd naw Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a elwir yn fraenarwyr, ran yn y rhaglen gychwynnol. Roeddent yn ymwneud â datblygu a threialu ffyrdd integredig o weithio.

Canfyddiadau

  • Mae’r holl ardaloedd braenaru, hyd yn oed y rhai mwyaf datblygedig yn y rhaglen, yn dal yng nghamau cynnar integreiddio.
  • Mae ardaloedd braenaru sydd â gweledigaeth ar gyfer integreiddio gwasanaethau, wedi creu cyd-ddealltwriaeth o anghenion plant bach a theuluoedd, ac mae ganddynt well cydweithio rhwng gwasanaethau awdurdod lleol a gwasanaethau iechyd.
  • Mae’r dybiaeth fod graddau uwch o angen ymysg teuluoedd nad ydynt yn ymwneud â’r rhaglenni presennol wedi cael ei dangos i fod yn gywir.
  • Mae’r rhaglen wedi herio’n llwyddiannus dybiaethau ynghylch bod integreiddio’n cynyddu costau, colli gwasanaethau i deuluoedd trwy symleiddio, diffyg canlyniadau cadarnhaol, a’r gred fod dull seilo o weithio (sefydliadau sy'n gweithio ar wahân) wedi ymwreiddio’n rhy ddwfn yn y sector blynyddoedd cynnar.
  • Mae gweithredu’r rhaglen yn effeithiol mewn gweithgareddau peilot yn dibynnu ar ymrwymiad gan uwch reolwyr a staff gweithredol.
  • Caiff gweithredu’r rhaglen ei lesteirio gan bresenoldeb rhaglenni lluosog blynyddoedd cynnar yn gweithredu’n gyfochrog i’w gilydd.
  • Mae coronafeirws (COVID-19) wedi gohirio gweithredu'r rhaglen ac wedi cyfyngu ar ddarparu gwasanaethau blynyddoedd cynnar.
  • O fewn ardaloedd braenaru mae mwy o ymwybyddiaeth o anghenion teuluoedd ac, yn bennaf o fewn ardaloedd peilot, mae gwybodaeth o’r ffordd orau o fynd i’r afael â hwy mewn ffordd fwy integredig.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Raglen Drawsnewid Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Huw Bowen

Rhif ffôn: 0300 025 1385

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.