Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen hyfforddi a ariennir ac a reolir gan Llywodraeth Cymru yw Rhaglen Datblygu'r Gweithlu (RhDG).

Ariannodd y RhDG weithgareddau rhwydwaith o Ymgynghorwyr Datblygu’r Gweithlu i helpu busnesau yng Nghymru i adolygu eu gweithgareddau datblygu staff ac i nodi eu hanghenion hyfforddi. Roedd y RhDG hefyd yn cynnwys cronfa ddewisol a allai ddarparu cefnogaeth ariannol i gwmnïau fedru cwrdd â’r gost o hyfforddi eu staff.

Canfyddiadau allweddol

  • Mae’r RhDG wedi llwyddo i ymgysylltu ag ystod eang o fusnesau ar draws nifer o sectorau ac ar draws gwahanol rannau o Gymru. Cefnogwyd oddeutu 4,315 o fusnesau rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2015, a pherfformiodd y rhaglen yn gadarn yn erbyn ei ddangosyddion perfformiad allweddol.
  • Canfu'r gwerthusiad fod hyfforddiant y RhDG yn ychwanegu gwerth ac yn arwain at amrywiaeth o effeithiau cadarnhaol i fusnesau a gefnogwyd. Canfu'r gwerthusiad hefyd dystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer hyfforddeion mewn perthynas â’u parodrwydd i gymryd rhan a bod yn barod i gymryd cyfrifoldeb o fewn y gwaith.
  • Mae'r adroddiad gwerthuso yn gwneud cyfres o bum argymhelliad mewn perthynas â dylunio a gweithredu rhaglenni yn y dyfodol.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Rhaglen Datblygu’r Gweithlu , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o Rhaglen Datblygu’r Gweithlu: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 383 KB

PDF
383 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Sian Williams

Rhif ffôn: 0300 025 3991

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.