Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith o ganolfannau rhanbarthol yw Seren a gynlluniwyd i gynorthwyo myfyrwyr chweched dosbarth disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd a chael lle mewn prifysgolion blaenllaw.

Comisiynwyd gwerthusiad ffurfiannol a phroses o’r Rhwydwaith Seren i lywio penderfyniadau ynghylch y meini prawf ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc a dylunio darpariaeth y rhaglen ar lefel genedlaethol a lleol. 

Amcanion y gwerthusiad oedd:

  • asesu sut mae pob hwb Seren yn gweithredu- ymgysylltu â meini prawf, costau’r rhaglen, lefelau cyfranogiad a’r rhaglen darpariaeth
  • adnabod y rhwystrau a’r galluogwyr darpariaeth ar gyfer hybiau Seren a chyfranogwyr
  • asesu i ba raddau y mae gweithgareddau’r hybiau yn cyfrannu tuag at amcanion y rhwydwaith Seren
  • dylunio methodoleg a gwneud argymhellion ar gyfer cynnal gwerthusiad effaith o’r rhaglen.

Daw’r gwerthusiad i’r casgliad fod menter Rhwydwaith Seren, ers iddi gael ei threialu yn ystod 2015/16, wedi cael ei hymestyn yn llwyddiannus dros gyfnod cymharol fyr er mwyn cynnig rhaglen lawn o ddarpariaeth ledled Cymru erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd 2017/18.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Rhwydwaith Seren , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o Rhwydwaith Seren: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 417 KB

PDF
417 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Heledd Jenkins

Rhif ffôn: 0300 025 6255

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.