Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr adroddiadau yw gwerthuso effeithiolrwydd y gwaith cyflenwi, ac effaith y ddarpariaeth sgiliau sylfaenol ôl-16 yn y gweithle yng Nghymru.

Adroddiad diweddaraf

Gwerthuso sgiliau hanfodol yn y gweithle

Roedd Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle (ESiW) yn rhaglen Llywodraeth Cymru oedd yn cynnig hyfforddiant mewn sgiliau hanfodol.  Mae sgiliau hanfodol yn cynnwys darllen, ysgrifennu, cyfathrebu, rhifedd a sgiliau cyfrifiadurol. Roedd y rhaglen yn cynnig cyfle i ddysgwyr astudio ar gyfer cymwysterau  Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Fe’i cyllidwyd drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) o Ebrill 2010 tan Ebrill 2015.

Mae’r rhaglen wedi perfformio’n dda a chafodd ei gwerthfawrogi’n fawr gan yr holl randdeiliaid allweddol (darparwyr, cyflogwyr a dysgwyr). Cafodd y rhaglen ei rheoli’n dda, a chyrhaeddwyd ymgysylltiad dysgwyr allweddol a thargedau cyrhaeddiad am lai o arian nag a ddyrannwyd yn wreiddiol. Mae ymwybyddiaeth o anghenion sgiliau hanfodol yn llawer cryfach nawr ymysg cyflogwyr a’r gweithlu, ac mae’r galw am hyfforddiant yn debygol o barhau. Gwelwyd effaith gadarnhaol ar fusnesau gan gyflogwyr o ran gwell morâl staff, hyder yn y gwaith, datblygu sgiliau a chynhyrchiant.

Argymhellion

  • Adolygu perfformiad darparwyr gan ystyried y cyfraddau trosi er mwyn deall pam fod y cyfraddau’n amrywio’n eithaf sylweddol o ddarparwr i ddarparwr.
  • Adolygu statws cymwysterau blaenorol dysgwyr ac ystyried cynnwys  targed i ddarparwyr hyfforddiant i ennyn diddordeb dysgwyr sydd heb unrhyw gymwysterau.
  • Os bydd model rhanbarthol yn cael ei fabwysiadu, dylid ystyried dichonoldeb i ddarparwyr i weithredu dros Gymru Gyfan i sicrhau parhad perthynas darparwr/cyflogwr.
  • Adolygu lefel isel y ddarpariaeth ar gyfer ESOL i sicrhau fod dysgwyr sydd ag anghenion iaith yn cael cymorth priodol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru fonitro’r galw am ac adolygu’r ddarpariaeth o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw gyflwyno sgiliau hanfodol yn y dyfodol.
  • Dylai cynllun rhaglen y dyfodol benderfynu ar yr agweddau allweddol o’r rhaglen allai effeithio’r canlyniadau o amgylch cydraddoldeb a chynaliadwyedd, ac integreiddio’r agweddau hyn drwy’r cyflwyno i ganlyniadau a thargedau sydd wedi eu diffinio’n dda. Dylid hefyd ystyried sut y gellir cael tystiolaeth o hyn.

Adroddiadau

Gwerthusiad o sgiliau hanfodol yn y gweithle: adroddiad terfynol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
Saesneg yn unig
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o sgiliau hanfodol yn y gweithle:crynodeb , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 493 KB

PDF
Saesneg yn unig
493 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Faye Gracey

Rhif ffôn: 0300 025 7459

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.