Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gwerthusiad yn ymchwilio effeithlonrwydd rôl Swyddogion Galluogi Tai Gwledig, rheolaeth a dull cyllido'r swyddi.

Daw cyfran bresennol cyllid Llywodraeth Cymru i ben ym mis Mawrth 2014 ac ysgogodd hyn werthusiad o'r Rhaglen Swyddogion Galluogi Tai Gwledig.

Nodau

  • Asesu ar ba radd y mae'r prosiectau Swyddogion Galluogi Tai Gwledig wedi gweithredu fel cyswllt uniongyrchol i gymunedau gwledig a rhanddeiliad lleol i adnabod a dod o hyd i awgrymiadau datrys anghenion tai.
  • Gwerthuso ar ba radd y mae’r prosiectau Swyddogion Galluogi Tai Gwledig wedi dylanwadu ar y dirwedd strategol o dai fforddiadwy.
  • Darparu casgliadau ac argymhellion ar yr uchod gan gynnwys opsiynau cyllido yn mynd ymlaen.

Canfyddiadau allweddol

  • Mae Swyddogion Galluogi Tai Gwledig wedi llwyddo i sicrhau'r dystiolaeth ac ymgysylltu â'r gymuned sy'n anhepgor ar gyfer cyflenwi tai gwledig fforddiadwy. Caiff eu mewnbwn ei werthfawrogi gan awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a chymunedau.
  • Mae'r Swyddogion Galluogi Tai Gwledig wedi helpu i gyflenwi 186 o gartrefi fforddiadwy mewn chwe ardal ers 2004, gyda 240 arall yn yr arfaeth. Yn anffodus, mae prinder data ar gyflenwi drwy lwybrau eraill.
  • Ystyrir yn gyffredinol y byddai colli prosiect cyfredol Swyddog Galluogi Tai Gwledig yn gostwng lefelau cyflenwi tai gwledig fforddiadwy, sydd eisoes yn isel.
  • Ymddengys fod y cyfnod y bu swydd mewn bodolaeth ac am ba mor hir y cyflogwyd Swyddog Galluogi Tai Gwledig unigol yn cael effaith sylweddol ar ganlyniadau ac allbynnau. Rhoddodd chwe ardal ddata ar gyflenwi a rhyngddynt maent wedi cwblhau 186 uned ers creu swyddi Swyddogion Galluogi Tai Gwledig. Roedd 89% o'r holl unedau a gwblhawyd yng Ngwynedd, Sir Fynwy a De Powys, oll yn ardaloedd lle bu Swyddog Galluogi Tai Gwledig mewn swydd ers 2009.
  • Fodd bynnag, y canfyddiad yw bod diffyg cyllid cyfalaf, cyflenwad cyfyngedig o safleoedd, cynlluniau lleol sydd wedi darfod, polisïau cynllunio nad ydynt yn rhoi ystyriaeth i hyfywedd ariannol a diffyg arweinyddiaeth strategol yn llesteirio cyflenwi. Gall y Swyddogion Galluogi Tai Gwledig ddylanwadu ar yr holl faterion hyn ond maent tu allan i'w rheolaeth uniongyrchol.
  • Mae'r ymchwil yn argymell dilyn dull gweithredu cyfochrog i wella cyflenwi a chadw'r swyddi Swyddogion Galluogi Tai Gwledig. Ar lefel leol mae hyn yn cynnwys defnyddio dull gweithredu tîm cyflenwi sy'n cynnwys yr holl bartneriaid a gydlynir gan y Swyddog Galluogi Tai Gwledig, ac arweinyddiaeth strategol gryfach gan y rhai sy'n rheoli ac ariannu rôl Swyddogion Galluogi Tal Gwledig. Ar lefel Llywodraeth Cymru maent yn cynnwys ystyried targedu peth o'i chyllid cyfalaf ar gyfer cyflenwi gwledig, a newid polisi cynllunio i alluogi croes-gymhorthdal ar safleoedd eithriad gwledig.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Swyddogion Galluogi Tai Gwledig yng Nghymru , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o Swyddogion Galluogi Tai Gwledig yng Nghymru: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 359 KB

PDF
359 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o Swyddogion Galluogi Tai Gwledig yng Nghymru: adolygiad o lenyddiaeth , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 724 KB

PDF
Saesneg yn unig
724 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Clara Hunt

Rhif ffôn: 0300 062 8208

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.