Gwerthusiad o weithgareddau Ewros y Menywod 2025 a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru: crynodeb
Asesodd y gwerthusiad hwn y gweithgareddau a ariannwyd gan lywodraeth blaenorol Cymru yn dilyn llwyddiant tim pel-droed Merched Cymru i gyrreadd UEFA Euros y Menywod 2025.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad a chefndir
Comisiynodd Llywodraeth Cymru gwmni ymchwil Arad i gynnal gwerthusiad o'i rhaglen o weithgareddau i hyrwyddo Cymru fel rhan o Bencampwriaeth Ewropeaidd y Menywod UEFA 2025 (Ewros y Menywod). Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau'r gwerthusiad.
Amcanion y gwerthusiad
Prif amcanion y gwerthusiad oedd:
- asesu aliniad yr hyn a gyflawnwyd gyda nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ystod o weithgareddau ac amcanion polisi strategol eraill
- asesu i ba raddau y llwyddodd y gweithgareddau a gefnogwyd i gyflawni’r hyn a fwriadwyd
- asesu, cyn belled ag y bo modd, cyfraniad y gweithgareddau a gyflawnwyd tuag at amcanion cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewros y Menywod 2025
- cynnig argymhellion a gwersi a ddysgwyd ar gyfer cyfleoedd posibl yn y dyfodol
Cefndir y gweithgareddau a ariannwyd
Ar ôl i dîm pêl-droed menywod Cymru ennill ei le ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd y Menywod UEFA yn y Swistir, ceisiodd Llywodraeth Cymru wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a'r manteision a fyddai’n deillio o gyfranogiad y tîm. Roedd proffil y digwyddiad yn gyfle marchnata a diplomyddiaeth chwaraeon sylweddol i Lywodraeth Cymru.
Amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer ei rhaglen o weithgareddau yn ymwneud ag Ewros y Menywod oedd:
- hyrwyddo Cymru i gynulleidfa fyd-eang
- cyfleu gwerthoedd Cymru, yn enwedig mewn perthynas â chydraddoldeb a chynhwysiant
- hyrwyddo chwaraeon menywod ac annog mwy o gyfranogiad a sicrhau gwaddol o'r gystadleuaeth
Gweithgareddau a ariannwyd
- Cronfa Cymorth i Bartneriaid (PSF) gwerth £1m, a oedd ar gael i sefydliadau chwaraeon, diwylliant, creadigol ac addysg i gyflwyno gweithgareddau er mwyn dathlu Cymru yn yr Ewros. Roedd modd i bartneriaid wneud cais am gymorth drwy broses grant. Llwyddodd 16 partner i sicrhau cyllid. Un o ddibenion y grant oedd sicrhau gwaddol o’r Ewros a fyddai’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fechgyn a merched, gan annog cynnydd mewn lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon er mwyn cefnogi iechyd a lles y genedl.
- Ymgyrch farchnata o £300,000, dan arweiniad Brand Cymru Wales i arddangos y genedl ar y llwyfan byd-eang. Defnyddiwyd hwn ar gyfer ymgyrch farchnata ddigidol, ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu awyr agored wedi’i dargedu mewn marchnadoedd allweddol (yn bennaf yn Ffrainc, yr Iseldiroedd, y Swistir a'r Almaen) a gweithgareddau wedi’u targedu, gan ddefnyddio llysgenhadon Lleisiau Cymru, i ymgysylltu â’r cyfryngau yn y marchnadoedd targed.
- Rhaglen o weithgareddau yn seiliedig ar broses ymgysylltu gweinidogol yn y bencampwriaeth, er mwyn gwneud y gorau o’r gwaith ymgysylltu diplomataidd, yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau economaidd, chwaraeon a diwylliannol. Cost y rhaglen hon o weithgareddau oedd tua £35,000.
Methodoleg
Roedd y fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwerthusiad yn cynnwys cyfuniad o gyfweliadau ansoddol ac ymchwil desg. Roedd hyn yn cynnwys:
- datblygu fframwaith gwerthuso, a oedd yn mapio prif themâu’r ymchwil yn erbyn y ffynonellau tystiolaeth a'r offerynnau ymchwil a ddefnyddiwyd er mwyn casglu data
- cyfweliadau gydag 20 o randdeiliaid gan gynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr Llysgenhadaeth Prydain yn y Swistir, Cenhadon Lleisiau Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Chwaraeon Cymru a phartneriaid PSF
- adolygu dogfennaeth a data, gan gynnwys:
- data monitro PSF ac adroddiadau cwblhau’r prosiect
- data a gasglwyd yn erbyn fframwaith mesur marchnata Llywodraeth Cymru
Mae’n bwysig cydnabod rhai o gyfyngiadau’r fethodoleg ar gyfer y gwerthusiad. Roedd y gwaith ymchwil yn casglu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau a fu’n ymwneud â’r gwaith o gynllunio a darparu gweithgareddau. Nid oedd yn ymarferol casglu tystiolaeth gan y sawl a fynychodd ddigwyddiadau neu a oedd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau, oherwydd i’r gwerthusiad gael ei gynnal 9 mis ar ôl i’r gweithgareddau gael eu darparu. Lliniarwyd y cyfyngiad hwn drwy ofyn i bartneriaid fyfyrio ar y rhaglen ehangach o ddigwyddiadau a gweithgareddau a ddarparwyd gan bartneriaid eraill, yn ogystal â chasglu eu safbwyntiau am eu gweithgareddau eu hunain. Nid oedd yn ymarferol cyfweld holl bartneriaid y PSF yn ystod y gwerthusiad oherwydd yr amseru a’r gyllideb; lliniarwyd hyn drwy adolygu’r dystiolaeth o’r holl ddata monitro ac adroddiadau cwblhau’r prosiect. Ni ystyrir bod y cyfyngiadau hyn wedi cael effaith arwyddocaol ar y gwerthusiad.
Canfyddiadau'r gwerthusiad
Cynllunio gweithgareddau Ewros y Menywod a’u rhoi ar waith
Datblygodd Llywodraeth Cymru’r dull ‘Tîm Cymru’, sef dull a ddatblygwyd ar gyfer y gweithgareddau a ariannwyd gan y Llywodraeth mewn perthynas â Chwpan y Byd 2022 y Dynion yn Qatar, ymhellach i gynllunio a darparu gweithgareddau yn ymwneud ag Ewros y Menywod. Croesawyd y dull hwn, a ddaeth â phartneriaid o'r sectorau chwaraeon, y cyfryngau a diwylliant ynghyd, gan yr holl randdeiliaid fel ffordd effeithiol o gefnogi nodau cyffredinol y gweithgareddau.
Roedd rhanddeiliaid yn teimlo bod nodau strategol a gwerthoedd y gweithgareddau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd yn dda ag ethos Ewros y Menywod, yn enwedig y pwyslais ar gynhwysiant, amrywiaeth ac annog cyfranogiad menywod mewn chwaraeon.
Roedd rhanddeiliaid yn cydnabod pa mor fyr oedd yr amserlen rhwng i dîm menywod Cymru ennill ei le yn y bencampwriaeth a dechrau’r gystadleuaeth. Er y byddai rhanddeiliaid wedi hoffi rhagor o amser i gynllunio a rhoi’r gweithgareddau ar waith, roeddent yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymatebol o fewn amserlen heriol a bod partneriaid priodol wedi bod yn rhan o'r broses.
Mynegodd rhanddeiliaid farn gadarnhaol ar yr ystod o brosiectau a ariannwyd drwy'r PSF a tynnodd nifer sylw at y ffaith fod llawer o arweinwyr y prosiectau yn fenywod. Er bod partneriaid yn teimlo bod y pwysau amser wedi cyfyngu ar faint o gynllunio gweithredol yr oedd modd ei wneud yn ystod y gweithdai PSF cychwynnol, roeddent yn croesawu'r cyfleoedd i gyfarfod, gyflwyno eu cynlluniau cychwynnol, osgoi dyblygu ac adnabod cyfleoedd i gydweithio yn ystod y gweithdai a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru.
Croesawodd yr holl bartneriaid a rhanddeiliaid PSF bod Grŵp Llywio Rhanddeiliaid wedi cael ei greu fel rhan o’r broses o gynllunio a rhoi gweithgareddau Ewros y Menywod ar waith. Serch hynny, roedd rhai rhanddeiliaid a phartneriaid PSF o'r farn y byddai mwy o gydlynu a mwy o gyfleoedd i gydweithio drwy'r grŵp hwn wedi cefnogi dull mwy cyson a chreadigol o ddylunio a gweithredu ar draws y PSF.
Dosbarthwyd calendr cyffredinol o weithgareddau gan Llywodraeth Cymru i'r holl bartneriaid cyn y bencampwriaeth. Fodd bynnag, nid oedd rhai yn cofio gweld yr adnodd canolog hwn ac roedd rhai eraill o'r farn nad oedd pob partner PSF wedi cydweithio i hyrwyddo gwaith ei gilydd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Croesawodd rhanddeiliaid y gweithgareddau marchnata a rhyngwladol a gynlluniwyd ac a gyflwynwyd ochr yn ochr â’r gweithgaredd PSF, gan nodi bod cynnwys y gweithgareddau hyn wedi cyd-fynd â gweithgareddau sefydliadau partner.
Allbynnau, canlyniadau ac effaith
Mae canfyddiadau'n awgrymu bod y gweithgareddau wedi llwyddo i gyflawni eu canlyniadau arfaethedig, gan gyfrannu tuag at amcanion strategol Llywodraeth Cymru. Ar draws pob prosiect PSF, cyflawnwyd neu ragorwyd ar dargedau ar gyfer pob un o'r 16 dangosydd perfformiad allweddol. Dangosodd adroddiadau cwblhau’r partneriaid PSF hefyd eu bod wedi cyflawni mwyafrif llethol eu targedau unigol. Dengys adroddiadau’r PSF hefyd fod partneriaid wedi parhau i fonitro cynnydd yn erbyn rhai dangosyddion ac yn rhagweld cyflawniadau pellach yn seiliedig ar eu gweithgareddau.
Cynhaliwyd cyfanswm o 241 o ddigwyddiadau gan bartneriaid PSF, gyda 33,993 o bobl yn cymryd rhan neu'n mynychu’r rhain. Mi wnaeth cyfanswm o:
- 6,364 o blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a gynhaliwyd gan bartneriaid PSF
- 136,404 o blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol
- 1,234 o gyfranogwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi
Cynhyrchodd y gweithgareddau PSF hefyd amrywiaeth o fideos, erthyglau, sylw yn y cyfryngau a gyrhaeddodd ystod eang o gynulleidfaoedd ac ennyn dros 3.4 miliwn o ymgysylltiadau (er enghraifft, hoffiadau, ymatebion, ail-bostiadau) ar gyfryngau cymdeithasol.
Cyrhaeddodd hysbysebion ar y teledu a ariannwyd drwy'r ymgyrch farchnata 12.2 miliwn o wylwyr ledled Ffrainc a'r Iseldiroedd tra y sicrhaodd ymgyrchoedd digidol 8 miliwn o argraffiadau, 3.5 miliwn o sesiynau gwylio fideo, a 27,000 o ymweliadau â gwefannau, a oedd yn uwch na'r targedau a osodwyd ar draws pob marchnad.
Cyflawnwyd ymgysylltiad pellach drwy weithgarwch cysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys 26 o gyfweliadau ar gyfer Cenhadon Lleisiau Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Mi wnaeth ymgyrch "hysbysebu awyr agored" a digwyddiadau hefyd gynnwys hysbysebion yn cael eu gosod ar 57 o sgriniau digidol ar draws Zurich, St Gallen a Lucerne (y dinasoedd a gynhaliodd gemau tîm Cymru), ochr yn ochr â gweithrediadau wedi'u brandio mewn ardaloedd cefnogwyr, fel Bws Cymru Wales, a hysbysebion mewn canolfannau trafnidiaeth mawr.
Cynhyrchodd yr ymgyrch farchnata ganlyniadau sylweddol a oedd yn cyd-fynd ag amcanion diwylliannol a rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Cyfrannodd hyn at gynyddu proffil rhyngwladol Cymru, gan bwysleisio ei hunaniaeth fel cenedl gynhwysol, greadigol sy’n cael ei harwain gan werthoedd.
Roedd rhanddeiliaid o'r farn bod yr ymweliadau gweinidogol â'r Swistir yn ystod y bencampwriaeth wedi cyfrannu at godi statws Cymru a sicrhau ei bod yn weladwy, yn enwedig lle cynhaliwyd trafodaethau uniongyrchol gyda cynrychiolwyr o dramor, er bod rhai wedi mynegi siom nad oedd presenoldeb gweinidogol ym mhob un o'r tair gêm.
Tynnodd rhanddeiliaid sylw at bwysigrwydd y gweithgareddau diplomyddol hyn wrth hyrwyddo Cymru a'i gwerthoedd ar lefel ryngwladol. Fe wnaethant hefyd dynnu sylw at y cyfleoedd i adeiladu ar yr ymgysylltiad rhyngwladol hwn drwy geisiadau yn y dyfodol i gynnal Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr y Menywod a Chwpan y Byd i Fenywod 2035 (ledled y DU).
Gwaddol
Roedd rhanddeiliaid o'r farn bod y gweithgareddau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cyfrannu’n gadarnhaol at gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon menywod yn ogystal â chael effaith gadarnhaol - ac o bosibl yn gynaliadwy - ar yr artistiaid a’r sefydliadau dan sylw.
Cyfeiriodd llawer o randdeiliaid at gyflawni carreg filltir Cymdeithas Bêl-droed Cymru o 20,000 o ferched a menywod yn cael eu cofrestru i chwarae pêl-droed yng Nghymru fel gwaddol gadarnhaol ac roedd llawer yn teimlo bod y gweithgareddau, ochr yn ochr ag effaith ehangach y bencampwriaeth, wedi cyfrannu at hyn.
Cyfrannodd y gweithgareddau hefyd at greu mwy o ymwybyddiaeth a brwdfrydedd dros chwaraeon menywod, er enghraifft, cefnogi ffurfio timau newydd a hyfforddwyr a dyfarnwyr benywaidd newydd gymhwyso.
Mi wnaeth y gweithgareddau a ariannwyd arwain at gyfleoedd pellach i’r artistiaid a gymerodd rhan, megis cyfleoedd i gerddorion berfformio ac awduron i archwilio cyhoeddi eu gwaith. Crëwyd partneriaethau cynaliadwy rhwng sefydliadau'r celfyddydau, diwylliant a chymunedol, a allai annog ymgysylltiad pellach â'r celfyddydau a chwaraeon yn y dyfodol. Fodd bynnag, nododd rhai rhanddeiliaid bwysigrwydd cyllid parhaus i gynnal momentwm ac i greu diwylliant o fuddsoddiad tymor hwy mewn chwaraeon a'r celfyddydau.
Ategwyd y partneriaethau gan allbynnau gweledol a chreadigol fel fideos, celf, caneuon ac erthyglau a gafodd eu gwylio, eu dosbarthu a'u defnyddio gan amrywiaeth o unigolion a sefydliadau. Roedd rhanddeiliaid o'r farn y gallai'r rhain ysbrydoli cyfranogiad mewn gweithgareddau chwaraeon a diwylliannol yn y dyfodol.
Roedd rhai rhanddeiliaid o'r farn bod cymryd rhan yn y gweithgareddau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i adeiladu hygrededd ac enw da eu sefydliad, a allai fod o fudd iddynt wrth geisio sicrhau cyllid ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Gallai hyn greu gwaddol yn y dyfodol i rai sefydliadau llai sy'n ymwneud â chyrraedd cynulleidfaoedd tangynrychioledig ac amrywiol.
Argymhellion
Ystyriwyd bod cynrychiolaeth weinidogol yng ngemau Ewros y Menywod ac mewn gweithgareddau cysylltiedig wedi cyfrannu at godi statws Cymru, a sicrhau ei bod yn fwy gweladwy. Felly, dylai Llywodraeth Cymru ystyried cael cynrychiolaeth weinidogol ym mhob gêm a digwyddiad pwysig yn y dyfodol.
Llwyddodd y rhaglen PSF i gynorthwyo ystod eang ac amrywiol o sefydliadau ac artistiaid, gan gynnig rhagor o gyfleoedd i fenywod, pobl ifanc a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyfleoedd cyllido ychwanegol er mwyn cynnal y gwaddol a’r momentwm hwn wrth baratoi ar gyfer cynnal Ewros y Dynion 2028 ar y cyd.
Mae’r gweithgareddau marchnata wedi darparu ystod o allbynnau creadigol a gweledol o ansawdd. Gallai’r rhain gael eu defnyddio i ysbrydoli cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol yn y dyfodol, yn ogystal ag ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol i hyrwyddo Cymru ar lefel ryngwladol, er enghraifft Grand Depart y Tour de France yn 2027.
Mae dull ‘Tîm Cymru’ wedi llwyddo i ddwyn sefydliadau chwaraeon a chelfyddydol ynghyd i gefnogi uchelgeisiau domestig a rhyngwladol. Mae cyfle pellach yn bodoli i Lywodraeth Cymru ddatblygu ac ymwreiddio’r dull hwn a’i gysylltu â blaenoriaethau eraill megis iechyd a lles ac addysg.
Manylion cyswllt
Awduron: Martin Jones, Hefin Thomas, Jennifer Lane a Kara Stedman. Cwmni ymchwil Arad
Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy'n cael eu mynegi yn yr adroddiad hwn ac nid o reidrwydd safbwyntiau Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Yr Is-adran Chwaraeon
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SportDivision@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 72/2026
ISBN digidol: 978-1-83745-660-4

