Neidio i'r prif gynnwy

Ynni’r Fro yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa gymunedol.

Roedd pedair elfen i’r gwerthusiad canol tymor

  1. Adolygiad desg o hanes diweddar a chyd-destun polisi Ynni’r Fro.
  2. Arolwg ar-lein o grwpiau cymunedol sydd wedi gwneud cais am gymorth gan Ynni’r Fro.
  3. Cyfweliadau dilynol gyda detholiad o grwpiau cymunedol a ymatebodd i’r arolwg.
  4. Cyfweliadau gyda rhanddeiliaid i drafod dyluniad a’r modd y mae’r rhaglen yn cael ei chyflawni.

Prif bwyntiau

  • Cwmpas eang a safon y gwasanaeth cynghori a’r ffaith ei fod yn cael ei ddefnyddio’n genedlaethol.
  • Y cymorth ariannol sydd ar gael drwy Ynni’r Fro.
  • Y ffaith fod Ynni’r Fro yn rhaglen gymorth fwy hirdymor na mentrau eraill yn y maes.

Prif ganfyddiadau

Nododd y gwerthusiad nifer o heriau o ran datblygu prosiect ynni adnewyddadwy cymunedol, gan graffu ar sut y mae Ynni’r Fro eisoes yn ateb yr heriau hynny, a gwnaeth argymhellion am sut y gellid datblygu’r gwaith hwnnw yn y dyfodol.

Y prif heriau a nodwyd oedd:

  • diffyg capasiti, sgiliau a phrofiad o fewn grwpiau cymunedol
  • anawsterau o ran cael caniatadau a chydsyniadau cynllunio
  • heriau o ran dod o hyd i gyllid ar gyfer gwneud gwaith paratoi a chyfalaf ar gyfer datblygu cynlluniau.

Adroddiadau

Gwerthusiad o Ynni’r Fro , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o Ynni’r Fro: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 260 KB

PDF
260 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Charlotte Gibson

Rhif ffôn: 0300 025 1681

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.