Neidio i'r prif gynnwy

Ym mis Ebrill 2022 comisiynodd Llywodraeth Cymru Ecorys UK a Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) i gynnal gwerthusiad aml-ffrwd dull cymysg o Gyllid Adfer COVID-19 ar gyfer y sector ôl-16.

Achosodd y pandemig COVID-19 aflonyddwch eang i addysgu a dysgu ar draws Cymru. Roedd hyn yn cynnwys effeithiau negyddol cryfion ar ddysgwyr, staff a sefydliadau/darparwyr ar draws y sector ôl-16. Er mwyn i ddysgu barhau ac i ymdrin â’r effeithiau negyddol hyn, dosbarthodd Llywodraeth Cymru oddeutu £295 miliwn o Gyllid Adferiad COVID-19 i’r sector. Roedd hyn yn cynnwys tua £233 miliwn o gyllid gysylltiedig â COVID-19 ym mlwyddyn ariannol 2020/21, a £62 miliwn yn 2021/22.

Ym mis Ebrill 2022 comisiynodd Llywodraeth Cymru Ecorys UK a Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) i gynnal gwerthusiad aml-ffrwd dull cymysg o Gyllid Adfer COVID-19 ar gyfer y sector ôl-16.

Un o’r prif ganfyddiadau oedd bod y sector ôl-16 yn gwerthfawrogi’r cyllid; roedd arweinwyr sefydliadau yn gwerthfawrogi hyblygrwydd y cyllid a’r cydweithio gofynnol rhwng sefydliadau a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod penderfyniadau effeithlon yn cael eu gwneud.

Defnyddiwyd y cyllid i gefnogi nifer o feysydd blaenoriaeth, gan gynnwys cefnogi dysgu ar-lein a chyfunol, cynhwysiant digidol, iechyd meddwl a lles, cymorth i gau bylchau yn academaidd, a phontio o fewn addysg ôl-16. Yn ogystal, defnyddiwyd y cyllid ar y dechrau ar gyfer cyfarpar diogelu personol a mesurau iechyd a diogelwch yn ymwneud â Covid-19, cyn darparu cymorth ariannol ac ymarferol uniongyrchol i ddysgwyr yn nes ymlaen yn ystod y pandemig.

Ystyrid yn unfrydol fod iechyd meddwl a lles yn her nodedig a pharhaus a oedd yn galw am gymorth cyson.

Ymhlith yr heriau a oedd yn ymwneud yn benodol â’r broses gyllido oedd yr angen am fwy o amser cyn gwneud cais a chyfnodau cyllido hirach. Roedd rhanddeiliaid yn teimlo y byddai ymrwymiad i gyllido ar sail fwy hirdymor yn caniatáu i ffyrdd newydd o weithio ennill eu plwyf yn y sector.

Mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ar sail canfyddiadau’r gwerthusiad i gefnogi’r defnydd o gyllid yn y sector ôl-16, a sut i’w ddefnyddio i’r dyfodol.

Amlinellir yr argymhellion hyn o dan y themâu canlynol:

  • Eglurder gwybodaeth
  • Monitro a rheoli gwybodaeth
  • Cydweithio a rhannu gwybodaeth
  • Y broses a gweithredu
  • Anghenion y gweithlu a dysgwyr i’r dyfodol
  • Fframwaith gwerthuso i’r dyfodol

Caiff cyfres o astudiaethau achos ar sail arweinwyr yn sefydliadau’r sector ôl-16 eu darparu yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol hwn maes o law.

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r Cyllid Adferiad COVID-19 ôl-16 2022 i 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o'r Cyllid Adferiad COVID-19 ôl-16 2022 i 2023 (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 340 KB

PDF
340 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

James Lundie

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.