Mae Cyngor Gwell, Bywydau Gwell (BABL) yn darparu cyngor ar fudd-daliadau penodol i grwpiau targed penodol mewn amrywiaeth o ffyrdd, gyda nod cyffredinol i gynyddu incwm budd-dal.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nodau'r ymchwil oedd asesu sut mae BABL yn gweithredu a pa gyngor sy’n cael ei ddarparu ac i bwy. Defnyddir ystod o ddulliau gan gynnwys cyfweliadau strategol gyda Llywodraeth Cymru a staff Cyngor ar Bopeth Cymru, cyfweliadau gyda chynrychiolwyr o Ganolfannau Cyngor ar Bopeth a sefydliadau partneriaid, adolygiad o'r data monitro, a chyfweliadau gyda sampl o 38 o ddefnyddwyr gwasanaethau.
