Allbynnau o werthusiad tri cham y cynllun peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd yn Nwyfor, Gwynedd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Ymdrin â chanfyddiadau cyfweliadau
- Mae'r rhai sy'n cael eu cyfweld yn rhoi adborth cadarnhaol ar Cymorth Prynu – Cymru, gan dynnu sylw at lefelau cynyddol o ddiddordeb.
- Cafodd y Grant Cartrefi Gwag ei ystyried yn enghraifft gadarnhaol o'r dull cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru a'r partneriaid cyflenwi.
- Bu diddordeb gan y cyhoedd mewn Hunanadeiladu Cymru. Fodd bynnag, roedd agweddau ymarferol fel diffyg cynnyrch morgeisi sydd ar gael i gefnogi pobl sy'n defnyddio'r cynllun yn creu ansicrwydd.
- Roedd y rhai a gyfwelwyd yn teimlo y gallai Erthygl 4 gael effaith gadarnhaol sylweddol ar farchnad dai Gwynedd. Fodd bynnag, fe wnaethant hefyd nodi nifer o risgiau a allai effeithio ar bobl leol a phartneriaid cyflenwi.
- Cafodd premiwm y dreth gyngor ei ddisgrifio fel cynigion ariannu o fewn Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd.
Cyfweliadau a grwpiau ffocws
- Roedd mwyafrif y bobl ifanc, ymgeiswyr tai fforddiadwy, ac aelodau y gymuned leol yn teimlo nad yw tai yn fforddiadwy yn Nwyfor.
- Roedd ymatebwyr yn teimlo bod ail gartrefi a llety gwyliau yn yr ardal yn cael effeithiau negyddol ar gydlyniant cymunedol a'r Gymraeg.
- Fodd bynnag, dywedodd rhai o'r rhai a holwyd hefyd fod yr ardal yn ddibynnol ar dwristiaeth ac y gall yr eiddo yma greu cyfleoedd cyflogaeth.
- Roedd ymwybyddiaeth gymysg o weithgareddau peilot ymhlith pobl ifanc, ymgeiswyr tai fforddiadwy, ac aelodau'r gymuned leol. Roedd yr ymwybyddiaeth fwyaf am y premiwm treth gyngor ar gyfer ail gartrefi, Erthygl 4, a chefnogaeth drwy Tai Teg.
- Roedd perchnogion ail gartref a llety tymor byr yn ymwybodol o'r cynllun peilot, ond dim ond un oedd yn teimlo bod cyfiawnhad dros y mesurau. Buont yn trafod effeithiau peilot fel gorfod gwerthu eiddo, ansicrwydd ynghylch Erthygl 4, ac effeithiau cadarnhaol Cymorth Prynu – Cymru.
Canfyddiadau'r arolwg
- Yn groes i ganfyddiadau'r cyfweliadau, roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yr arolwg rhwng 18 a 35 oed yn teimlo bod eu sefyllfa dai bresennol yn fforddiadwy.
- Mynegodd mwyafrif yr ymatebwyr 18-35 oed fod ail gartrefi a llety gwyliau yn cael effaith negyddol gyffredinol ar eu hardal. Roeddent yn teimlo bod y rhain yn cael effaith negyddol ar (i) ymdeimlad o gymuned, (ii) iaith Gymraeg, a (iii) fforddiadwyedd tai.
- Fodd bynnag, roedd rhywfaint o anghysondeb rhwng barn y rhai 18–35 oed a'r ymatebwyr 36+ oed. Roedd y grŵp oedran 36+ yn teimlo bod ail gartrefi wedi cael effaith gadarnhaol ar yr ardal leol.
Adroddiadau

Gwerthusiad o'r Cynllun Peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd: cyfnod 1 a 2023 i 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.