Prif nod y cynllun peilot oedd archwilio ffyrdd o gynyddu hyblygrwydd wrth ddarparu’r Cyfnod Sylfaen.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Dau brif nod y gwerthusiad oedd:
- gwerthuso sut cafodd y cynlluniau peilot eu gweithredu
- gwerthuso effaith y cynnydd mewn hyblygrwydd ar deuluoedd.
Roedd y gwerthusiad yn werthusiad proses yn bennaf, a ystyriodd sut y cynigiwyd yr hyblygrwydd o ran darpariaeth a sut y cafodd ei weithredu ar draws ardaloedd y pedwar awdurdod lleol a gymerodd ran.
Yn ogystal, ystyriwyd y berthynas rhwng y pedair elfen allweddol (galw, darpariaeth, ansawdd ac effaith) o ddarpariaeth hyblyg a’r pedwar prif grŵp o randdeiliaid (awdurdodau lleol, darparwyr, rhieni a phlant).
Er mwyn gwneud hyn, defnyddiwyd cyfuniad o’r canlynol wrth wneud y gwerthusiad:
- cyfweliadau ag awdurdodau lleol, staff addysgu, staff rheoli a rhieni
- arolygon ymhlith staff a rhieni
- ymweliadau ag ysgolion ac arsylwi mewn dosbarthiadau.
