Dull newydd o weithio gyda phobl ifanc â phrofiad o’r system cyfiawnder ieuenctid yw’r dull Rheoli Achosion Uwch (ECM).
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r dull yn seiliedig ar y Model Gwella o Drawma, sef model saith cam sy’n paru ymyrraeth/cymorth ag ymddygiadau a welir ac anghenion sylfaenol. Datblygwyd ECM ar y cyd gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, Llywodraeth Cymru, y Timau Troseddau Ieuenctid (YOTs) a Gwasanaeth Triniaeth ac Ymgynghori Fforensig y Glasoed Cymru Gyfan.
Gwirfoddolodd tri YOT i dreialu’r dull, a gynhaliwyd gyda 21 o bobl ifanc â hanes o droseddu ac anghenion cymhleth.
