Neidio i'r prif gynnwy

Nod y fframwaith yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth ddilynol fer a gomisiynwyd yn hydref 2015. Nod yr astudiaeth oedd casglu gwybodaeth am gynnydd yr awdurdodau lleol a'u partneriaid, ers y gwerthusiad diwethaf y llynedd, wrth iddynt barhau i roi'r fframwaith ar waith.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys:

  • adolygiad o ddogfennau
  • cyfweliadau â rhanddeiliaid cenedlaethol allweddol a staff craidd ym mhob ardal awdurdod lleol.
  • arolwg ar-lein ar gyfer bron 1,300 o bartneriaid lleol, a gafodd dros 430 o ymatebion.
  • astudiaeth achos o'r ffordd y rhoddodd partneriaeth rhanbarth y Gogledd y fframwaith ar waith.

Canfyddiadau allweddol

  • Mae cynnydd o ran adnabod yn gynnar, broceriaeth ac olrhain wedi parhau i fod yn dda, yn enwedig mewn perthynas â phobl ifanc hyd at 18 oed. Nid oes llawer o awdurdodau yn datblygu trefniadau sy'n cynnwys yr holl fframwaith. Cyflogadwyedd yw'r elfen sydd wedi ei datblygu lleiaf.
  • Roedd mwy o gyfathrebu a chydweithredu rhwng rhanddeiliaid yn sgil y Fframwaith. Mae partneriaid yn parhau i fod yn gadarnhaol yn ei gylch, er bod yr ALlau'n dweud bod gostyngiadau yn y cyllid ac ailstrwythuro'n amharu ar gynnydd. Roeddent yn dweud hefyd bod rôl hanfodol y Cydgysylltydd Ymgysylltu a Datblygu mewn perygl os nad yw Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol.
  • Mae'n rhy gynnar i'r fframwaith effeithio ar nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Er hynny, mae llawer o awdurdodau lleol wedi adrodd am welliannau o ran y niferoedd.
  • Mae adnabod yn gynnar ar gyfer pobl ifanc dan 16 oed wedi ehangu ers y prif werthusiad ffurfiannol. Roedd y dull rhanbarthol ar waith yn y Gogledd yn effeithiol yn y meysydd hyn. 
  • Mae cronfa ddata Gyrfa Cymru yn hanfodol i systemau adnabod yn gynnar, broceriaeth ac olrhain awdurdodau lleol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r awdurdod lleol yn gwirio, yn cywiro ac yn defnyddio'r data hyn. Er hynny, oherwydd bod amrywiaeth o ran casglu data gan yr awdurdodau lleol, mae ansawdd a defnyddioldeb y data'n gyfyngedig.
  • Yn aml iawn mae data adnabod yn gynnar darparwyr ôl-16 oed yn amrywio o ran ansawdd. Mae atebolrwydd ar gyfer darparwyr ôl-18 oed heb ei ddatblygu’n ddigonol ac mae bylchau yn narpariaeth gweithwyr arweiniol ar gyfer y grŵp hwn.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid: astudiaeth ddilynol i’r gwerthusiad ffurfiannol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.