Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn ydy’r trydydd a‘r adroddiad terfynol o’r Gwerthusiad o’r Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD).

Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar y drydedd flwyddyn o weithgaredd gwerthuso, a’r flwyddyn olaf ac yn canolbwyntio ar adrodd ar astudiaethau achos manwl gyda 22 o ysgolion a gyflawnwyd yn 2013/14 a 2014/15, ac ymweliadau dilynol I 14 o’r ysgolion hyn yn 2015/16 I alluogi ystyried cynydd a waned new newid mewn ymagwedda allai fod wedi digwydd yn y cyfamser.

Mae’r adroddia hefyd yn cynnwys casgliadau o ddadansoddia o ddata o’r Gronfa Ddata Disgyblion Cenedlaethol a gyflawnwyd yn 2015.

Gofynnwyd i'r adroddiad hwn ystyried y cynnydd a arsylwyd dros y tair blynedd o werthuso a darparu unrhyw gymhariaeth berthnasol a welwyd dros yr amser hwn

Canfyddiadau allweddol

  • Mae’r GAD yn cynrychioli ffynhonnell arwyddocaol o gyllid ar gyfer ysgolion i fuddsoddi mewn dulliau i daclo anfantais ac fe’i hystyrir i fod yn ffynhonnell ‘amrhisiadwy’ o gyllid ar gyfer mathau penodol o weithgaredd i leihau’r bwlch cyrhaeddiad. 
  • Teimlai rhai o’r ysgolion fod y PDG wedi codi proffil anfantais yn sylweddol a sut y dylai ysgolion ddarparu ar gyfer dysgwyr difreintiedig. 
  • Roedd ysgolion astudiaethau achos yn defnyddio systemau olrhain soffistigedig ar y cyd â‘u dealltwriaeth eu hunain o amgylchiadau disgyblion I nodi disgyblion yr oeddynt yn ystyried I fod yn ddifreintiedig ac/neu angen cefnogaeth dargedig atodol. 
  • Mae astudiaethau achos diweddar yn amlygu nifer o enghreifftiau o ymarfer effeithiol iawn o ran cau’r bwlch cyrhaeddiad. Ar draws yr astudiaethau achos, roedd sawl enghraifft o ysgolion yn datblygu dulliau arloesol i ymgysylltu gyda disgyblion a rhieni. 
  • Nododd ysgolion yr astudiaeth achos er bod tystiolaeth fesuradwy o effaith yn nod dymor hir fydd angen amser i ddod i’r amlwg, yn y tymor byr maent wedi nodi gwelliannau arwyddocaol mewn ‘deilliannau meddal’ fel llesiant, hyder a hunan-barch disgyblion. 
  • Yn gyffredinol, mae’r dadansoddiad yn cael bod y bwlch rhwng disgyblion eFSM ac nad ydynt yn FSM wedi culhau yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac yn cydnabod mae yna bellach batrwm yn dod i’r amlwg o lwyddiant yn lleihau ‘effaith’ bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar fesurau cynnydd addysgol rhwng Cyfnod Allweddol 2 a Cyfnod Allweddol 4 mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. 

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Grant Amddifadedd Disgyblion: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

David Roberts

Rhif ffôn: 0300 062 5485

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.