Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ddau weithrediad yn dyfarnu grantiau ar gyfer datblygwyr i ariannu'r gwaith o adnewyddu neu ddatblygu adeiladau busnes newydd, ac ar gyfer busnesau i ehangu a buddsoddi yn eu heiddo presennol.

Mae'r ddau weithrediad yn cyd-fynd yn dda  â  strategaethau  a pholisïau Llywodraeth Cymru. Mae strategaethau Llywodraeth Cymru sy'n tanlinellu pwysigrwydd creu cyflogaeth mewn ardaloedd difreintiedig wedi'u hymgorffori yn y gweithrediadau hyn. Mae'r ddau weithrediad yn gyson â'r blaenoriaethau sy'n nodi diffyg o safleoedd o safon uchel a'r angen am ymyrraeth gyhoeddus.

Mae tystiolaeth dda o'r angen am ymyrryd. Mae'r adroddiad yn nodi tystiolaeth dda bod y gweithrediadau hyn yn diwallu'r angen am gyfleoedd swyddi newydd mewn rhannau o Gymru sydd â  chyfraddau diweithdra uchel a'r angen am ofod cyflogaeth o ansawdd uchel. 

Defnyddiodd y broses ar gyfer dewis safleoedd ddull sefydledig wedi gweithio'n dda i bob golwg Cyflawnodd y meini prawf sgorio gydbwysedd da rhwng adeiladu ar gyfleoedd am dwf a mynd i'r afael ag anfantais yn y farchnad lafur. Ar sail adolygiad o'r ceisiadau am gymorth ymddengys i'r prosiectau gorau gael eu symud ymlaen.

Mae'r adroddiad yn nodi rhai gwelliannau i'r broses ar gyfer dewis prosiectau.

Mae'r prosiectau a ddewiswyd i gyd yn addas wrth gyfrannu at nodau ac amcanion y gweithrediadau sef gwell perfformiad economaidd, cefnogi agendâu twf lleol a rhanbarthol, cadw a chreu swyddi o ansawdd mewn sectorau gwerth uchel, a chefnogi dyheadau twf (PBDG).

Mae'r cynnydd tuag at dargedau allbwn yn gymysg ac mae wedi cael ei lesteirio gan bandemig y coronafeirws.

Mae systemau rheoli prosiectau yn gadarn ond tanlinellwyd diffyg profiad swyddogion achos fel her ar gyfer PBDG.

Mae systemau monitro'n gadarn ond mae angen mwy o eglurder ynghylch rôl swyddogion achos pan fydd prosiectau'n cael eu cyflenwi.

Mae systemau ar gyfer monitro cynnydd prosiectau sy'n dal i fyd trwy'r broses ymgeisio yn gweithio'n dda. Er hynny, mae diffyg eglurder ar gyfer rhai swyddogion achos PBGD ynghylch beth yw eu rôl pan fydd cyflenwi wedi dechrau.

Mae angen cryfhau gorfodi a monitro yn achos themâu trawsbynciol.

Mae'r mwyafrif o'r cyfraniadau at Themâu Trawsbynciol wedi ymwreiddio ym mhrosesau, safonau a gofynion Llywodraeth Cymru.

Er hynny, nid oes unrhyw systemau na chanllawiau ffurfiol ar gyfer sut y dylid gorfodi neu fonitro'r cyfraniadau hyn. Mae hyn yn golygu bod dulliau gweithredu anghyson yn cael eu defnyddio gan swyddogion achos pan fydd prosiectau'n cael eu cyflenwi.

Adroddiadau

Gwerthusiad interim o'r gronfa seilwaith eiddo a'r grant eiddo ar gyfer datblygu busnes , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Heledd Jenkins

Rhif ffôn: 0300 025 6255

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.