Gwerthusiad o'r Gronfa Tai â Gofal: crynodeb
Nod y gwerthusiad yw adolygu gweithrediad ac effeithiau’r Gronfa Tai â Gofal (HCF) er mwyn llywio datblygiad polisi a rhaglenni yn y maes tai gyda chymorth a gofal yn y dyfodol.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Nod y gwerthusiad yw adolygu’r modd y darparwyd y Gronfa Gyfalaf Tai (HCF) a’i heffeithiau er mwyn llywio datblygiad polisïau a rhaglenni yn y dyfodol sy’n ymwneud ag agenda tai gyda chymorth a gofal.
Mae’r adroddiad gwerthuso canol tymor hwn yn amlinellu’r Theori Newid a’r Fframwaith Gwerthuso a ddatblygwyd yn dilyn y gwaith cwmpasu.
Nodau’r prosiect
Mae’r gwaith cychwynnol hwn yn cyfrannu at y nodau gwerthuso canlynol:
- pa mor effeithiol fu’r HCF o ran cyflawni ei hamcanion, a pha mor effeithiol fu ei drefniadau llywodraethu a’i gweinyddiaeth?
- i ba raddau y mae’r HCF wedi cefnogi poblogaethau sy’n heneiddio i fyw’n annibynnol, gyda gofal a chymorth yn y cartref?
- i ba raddau y mae’r HCF wedi sicrhau bod y llety a ddarperir ar gyfer grwpiau agored i niwed mor agos â phosibl at eu cartrefi?
- sut mae’r HCF wedi integreiddio â’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol (RIF) a’r Gronfa Integreiddio ac Ailgydbwyso Cyllid Refeniw (IRCF), ac i ba raddau y mae’r HCF wedi cyfrannu at newidiadau mewn modelau gofal?
Methodoleg
Roedd y gwaith cychwynnol yn cynnwys:
- adolygiad tystiolaeth systematig a strwythuredig ar sail desg o ddogfennau polisi a rhaglenni
- adolygiad ar sail desg o ddata monitro’r rhaglen
- trafodaethau cwmpasu gyda phedwar swyddog Llywodraeth Cymru a 24 o gynrychiolwyr o’r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh), ynghyd ag un Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC)
- gweithdy Theori Newid gyda swyddogion Llywodraeth Cymru
Prif ganfyddiadau
Yn ogystal â helpu i lywio theori newid a fframwaith gwerthuso ar gyfer cronfeydd a fydd yn olynu’r HCF, canfu’r ymchwil gychwynnol y canlynol (lle na nodir math penodol o gyfranogwr, adroddwyd y farn hon yn gyson):
- roedd y modd o gyflawni prosiectau a lefelau’r gwariant cyffredinol yn amrywio rhwng rhanbarthau, er bod yr holl ddyraniadau wedi’u gwario yn y pen draw
- cyfeiriwyd y cyllid yn bennaf at ddarpariaethau Preswyl i Blant a Gofal Ychwanegol
- roedd y cyfweleion yn gweld cydweddiad cryf rhwng yr HCF ac uchelgeisiau polisi a fframweithiau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru
- roedd safbwyntiau’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ynghylch y dirwedd gyffredinol ar gyfer cyllid cyfalaf yn gymysg; er bod gwahaniaethau rhwng model gweinyddu rhaglen yr HCF a model y Gronfa Gofal Integredig (ICF) wedi dod â manteision o ran cysondeb a thegwch, maent hefyd wedi creu tagfeydd yn y broses
- mynegodd rhai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol bryder nad yw canllawiau HCF Llywodraeth Cymru wedi newid, er eu bod wedi darparu adborth ac wedi awgrymu diwygiadau
- nid oedd amserlenni cyflawni prosiectau cyfalaf yn cael eu hystyried yn rhai sy’n cyd-fynd yn dda â chylchoedd cyllido blynyddol
- ystyrid bod diffyg cyllid refeniw i gefnogi asedau newydd a ariannwyd drwy’r HCF yn her barhaus.
- roedd capasiti cyfyngedig staff ar y lefelau canolog a rhanbarthol i ddatblygu a gweithredu fframwaith monitro canlyniadau ar gyfer y gronfa yn rhwystr allweddol
- tynnodd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sylw at y manteision sylweddol y mae’r gronfa wedi’u darparu i unigolion. Mae’r rhain yn cynnwys galluogi pobl i fyw’n annibynnol am gyfnod hirach yn eu cartrefi a’u cymunedau, gan leihau’r angen am gymorth iechyd a gofal cymdeithasol mwy dwys
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer dyfodol y cynllun.
Manylion cyswllt
Awduron: Nia Bryer, Heledd Bebb, yr Athro Mark Llewellyn, Dr Daniel Bowers a Dr Nyle Davies
Safbwyntiau'r ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: TimYmchwilTai@llyw.cymru
Rhif ymchwil cymdeithasol: 90/2026

