Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg gwerthuso

Mae’r Gwasanaeth Di-waith yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), a Byrddau Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau, sy’n darparu cymorth cyflogaeth cyfannol trwy fentoriaid cymheiriaid sy’n defnyddio’u profiad bywyd eu hunain i ddarparu cymorth empathetig a heb farnu, a chanllawiau i gyfranogwyr.

Comisiynwyd ICF gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2022 i ymgymryd ag ail werthusiad o’r Gwasanaeth Di-waith, yn dilyn gwerthusiad cynharach a gomisiynwyd yn 2018 ac a gwblhawyd yn 2020. Roedd yr ail werthusiad yn cynnwys pedwar prif amcan.

  1. Diweddaru canfyddiadau’r gwerthusiad cyntaf, gan ddarparu asesiad sy’n egluro perfformiad presennol a’r modd y mae COVID-19 wedi effeithio ar gyflawni targedau a dangosyddion Themâu Trawsbynciol.
  2. Archwilio effaith y pandemig COVID-19 ar y Gwasanaeth Di-waith, gan gynnwys profiadau ar gyfer cyfranogwyr a’r rheiny sy’n darparu’r gwasanaeth.
  3. Archwilio’r graddau y bodlonwyd yr argymhellion o’r gwerthusiad cyntaf.
  4. Nodi dysgu ac arfer gorau ar gyfer Llywodraeth Cymru a phartneriaid.

Prif nodau’r Gwasanaeth Di-waith oedd lleihau nifer y rhai 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a lleihau nifer y bobl 25 oed a hŷn (sydd â materion camddefnyddio sylweddau a/neu, faterion iechyd meddwl), sy’n ddi-waith yn yr hirdymor neu’n economaidd anweithgar. Gwnaed hyn trwy gynnig cymorth un i un gan fentoriaid cymheiriaid a thrwy gynorthwyo cyfranogwyr i ennill cymwysterau, chwilio am waith, cymryd rhan mewn profiad gwaith neu gyfleoedd gwirfoddoli, a mynd i mewn i gyflogaeth. Ers dechrau’r pandemig COVID-19 ym mis Mawrth 2020, mae’r Gwasanaeth Di-waith wedi cael ei ddarparu o bell/ar-lein yn bennaf, gan olygu bod cyswllt rhwng mentoriaid cymheiriaid a chyfranogwyr wedi’i wneud i raddau helaeth dros y ffôn, drwy negeseuon testun a thrwy lwyfannau ar-lein.

Roedd y gwerthusiad wedi’i seilio’n bennaf ar dystiolaeth a gasglwyd drwy gyfweliadau astudiaethau achos ym mhob un o’r saith o ‘Lotiau’ ardal ledled Cymru: Gogledd Cymru, Gwent, Dyfed, Bae’r Gorllewin, Cwm Taf, Powys, a Chaerdydd a’r Fro. Ar draws y saith Lot, cynhaliwyd cyfweliadau rhwng misoedd Mai ac Awst 2022 gyda naw o arweinwyr Lotiau, 22 o fentoriaid cymheiriaid, pump o arbenigwyr cyflogaeth, 10 o bartneriaid darparu, 4 cyflogwr, a 35 o gyfranogwyr (defnyddwyr gwasanaeth). Hefyd, llywiwyd y gwerthusiad gan ddadansoddiad o wybodaeth monitro rifyddol a gasglwyd gan ddarparwyr gwasanaeth.

Prif ganfyddiadau

Recriwtio cyfranogwyr

Llywiwyd y canfyddiadau ar recriwtio cyfranogwyr i raddau helaeth gan ddadansoddiad o wybodaeth monitro rhaglenni a gasglwyd gan ddarparwyr y Gwasanaeth Di-waith rhwng Awst 2016 a Mai 2022. Yn ôl y data, cafodd 18,110 o gyfranogwyr eu recriwtio i’r Gwasanaeth Di-waith hyd at fis Mai 2022, ac ar yr adeg hon roedd bob un o’r Lotiau ardal wedi cyflawni o leiaf 89% o’u targed recriwtio.

Y llwybr atgyfeirio mwyaf cyffredin at y gwasanaeth oedd drwy asiantaethau allanol, y Ganolfan Byd Gwaith fel arfer. Roedd llwybrau eraill yn cynnwys gweithiwr meddygol proffesiynol, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, neu elusennau iechyd meddwl. Roedd cyfranogwyr yn cael eu denu at y Gwasanaeth Di-waith yn y lle cyntaf i gael cymorth â heriau iechyd a lles. Roedd cael cyflogaeth a hyfforddiant yn gysylltiedig â gwaith yn rheswm llai cyffredin dros ymuno â’r rhaglen.

Dywedodd mentoriaid cymheiriaid ac arweinwyr Lotiau fod COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar eu gallu i recriwtio cyfranogwyr newydd i’r rhaglen. Heb fod yn syndod, yn ystod y cyfnod pan gyflwynwyd y cyfnodau clo cenedlaethol cyntaf (blwyddyn pedwar, chwarter pedwar), gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cyfranogwyr a recriwtiwyd i’r rhaglen.

Roedd arweinwyr darparwyr a mentoriaid cymheiriaid o’r farn fod cyfran dda o’r atgyfeiriadau yn amhriodol rywsut oherwydd bod anghenion lefel uchel gan y cyfranogwyr neu fod ganddynt broblemau iechyd meddwl cymhleth, a’u bod, felly, ymhell o fod yn gallu mynd i mewn i gyflogaeth. Mae’n debygol bod hyn yn gysylltiedig ag amodau’r pandemig lle’r oedd pobl yn wynebu heriau sylweddol ac roedd gwasanaethau yn llai hygyrch na’r arfer.

At ei gilydd, fe wnaeth 8,366 (46%) o’r cyfranogwyr adael y rhaglen yn gynharach na’r disgwyl. Roedd amrywio sylweddol yng nghyfran y rhai a adawodd yn gynnar rhwng yr ardaloedd gweithredol. Gwelodd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd gyfran uwch o ymadawyr ar draws yr holl gategorïau (58%) na Dwyrain Cymru (44%). Mae’n debygol mai’r prif resymau dros ymadael yn gynnar dros gyfnod y pandemig oedd problemau o ran ymgysylltu â llwyfannau ar-lein, llai o gymhelliant i ddod o hyd i waith, a disgwyliadau heb eu bodloni o ran anghenion penodol, fel darparu nwyddau a gwasanaethau a mynediad i gyrsiau hyfforddiant.

O ran yr heriau a wynebwyd gan gyfranogwyr, afiechyd meddwl oedd y brif ystyriaeth ar gyfer cyfranogwyr; roedd dros hanner wedi’u cofnodi yn y categori hwn. Roedd cyfran is o lawer (10%) wedi’u categoreiddio fel rhai a oedd yn ymadfer o gamddefnyddio sylweddau yn unig. Roedd y gweddill yn dioddef o afiechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

Gweithredu’r Gwasanaeth Di-waith

Roedd y defnydd o fentoriaid cymheiriaid yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan gyfranogwyr a phartneriaid darparu. Fodd bynnag, roedd trosiant uchel mentoriaid cymheiriaid yn her allweddol, ac mae’r rhesymau dros hynny’n cynnwys straen (wedi’i achosi weithiau gan y rôl, ac mewn rhai achosion, yn sgil materion iechyd meddwl a oedd yn bodoli eisoes), peidio â bod â’r set sgiliau a/neu brofiad cywir i ymgymryd â’r rôl, heriau wrth ddelio ag agweddau gweithdrefnol ac agweddau data’r rôl (fel dangos tystiolaeth bod targedau wedi’u cyflawni) ac anfodlonrwydd â lefelau tâl.

Yn gyffredinol, roedd yr hyfforddiant gorfodol cychwynnol ar gyfer mentoriaid cymheiriaid yn cael ei barchu’n fawr. Roedd hyd yr hyfforddiant dilynol mewn swydd a’r cysgodi yn amrywio yn ôl darparwr, gyda rhai yn cynnig ychydig ddyddiau’n unig, a rhai yn cynnig hyd at chwe wythnos. Teimlai rhai mentoriaid cymheiriaid bod amserlenni byrrach yn annigonol. Mae meysydd hyfforddiant allweddol a fyddai’n fuddiol yn y dyfodol yn cynnwys cynorthwyo â phroblemau iechyd meddwl mwy difrifol a sefyllfaoedd argyfwng fel risg hunanladdiad, a chynnal ffiniau (h.y. y llinell rhwng cwnsela a mentora).

Yng nghyd-destun y pandemig, roedd cyfranogwyr yn aml yn dangos anghenion cymharol lefel uchel a chymhleth yn gysylltiedig ag iechyd meddwl, gan gynnwys gorbryder cymdeithasol, ynysigrwydd cymdeithasol, ofn gadael y tŷ a defnyddio sylweddau, i’r graddau bod cyfran fawr o gyfranogwyr ymhell o fod yn gallu mynd i mewn i gyflogaeth ac y gallai fod angen cymorth tymor hwy arnynt i fynd i’r afael â rhwystrau cymhleth. O ganlyniad, roedd pwyslais cymorth yn gysylltiedig â ‘lles’ yn hytrach na’n uniongyrchol gysylltiedig â chyflogaeth.

Er i’r broses o newid at fodelau darparu ar-lein/o bell greu heriau, un fantais allweddol hyn oedd bod cyfranogwyr â materion yn ymwneud â gorbryder cymdeithasol yn gallu rheoli rhyngweithiadau cymdeithasol yn well, ac nid oedd angen iddynt adael y tŷ os oedd hyn yn rhy heriol iddynt. Roedd cyswllt o bell yn cynnig mwy o hygyrchedd i rai cyfranogwyr hefyd, yn enwedig lle ceir rhwystrau o ran trafnidiaeth. Roedd gan fentoriaid cymheiriaid fwy o hyblygrwydd yn eu diwrnod gwaith am nad oedd angen iddynt weithio yn ôl apwyntiadau wyneb yn wyneb sefydlog, a gallent wneud galwadau pan oedd yn gyfleus a phriodol.

Roedd mentoriaid cymheiriaid a chyfranogwyr yn ystyried bod cyswllt cymdeithasol, ‘gwirio’, a sgyrsiau’n gysylltiedig â lles yn elfennau hanfodol i gynnal lles a symud ymlaen tuag at gyflogaeth ac addysg. Ochr yn ochr â hyn, roedd mentoriaid cymheiriaid yn darparu help yr oedd mawr ei angen gyda thasgau bywyd ymarferol, ac roeddent yn gallu atgyfeirio cyfranogwyr at weithgareddau a chyrsiau lles mewnol, yn cwmpasu hyder, deall gorbryder, ymwybyddiaeth o straen, rheoli iechyd meddwl. Roedd gweithgareddau eraill yn ymwneud â’r ochr gymdeithasol, a diben hynny oedd cael pobl allan o’r tŷ ac i ryngweithio â phobl eraill.

Roedd y ffaith bod gan fentoriaid cymheiriaid brofiad bywyd o faterion iechyd meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan gyfranogwyr. Credir bod y cymorth a roddir yn fwy tebygol o fod yn anfarnol ac yn empathetig. Fodd bynnag, er bod gan fentoriaid cymheiriaid set sgiliau cryf yn deillio o’u profiad bywyd, un her bosibl yw y gallai fod diffyg sgiliau a chymwyseddau technegol a phroffesiynol lefel uwch ganddynt. Yng nghyd-destun cyfranogwyr yn dangos anghenion iechyd meddwl cymhleth, lefel uchel dros y pandemig, her arall oedd bod mentoriaid cymheiriaid dan risg o gael eu tynnu i mewn i gynnig ymyriadau therapiwtig seicolegol, sef rhywbeth nad oeddent yn gymwys ar ei gyfer.

Mae amseriad a chydbwysedd cymorth yn gysylltiedig â lles gyda chymorth yn gysylltiedig â chyflogadwyedd yn hanfodol i gynnal ymgysylltiad a chyflawni deilliannau swydd ac addysg tymor hwy. Nid oedd rhai mentoriaid cymheiriaid yn teimlo’n ddigon cymwys nac yn hyderus i gynnig cymorth yn gysylltiedig â chyflogadwyedd, ac felly gall rôl arbenigol cyflogaeth ychwanegu gwerth pendant.

Mae cyfleoedd gwirfoddoli yn opsiwn gwerthfawr i lawer o gyfranogwyr am eu bod yn aml yn gysylltiedig â’u diddordebau a’u nodau, yn canolbwyntio ar y gymuned, ac yn hyblyg gan ddibynnu ar anghenion cyfranogwyr. Roedd cynnig cyrsiau byr, yn enwedig gyda gogwydd galwedigaethol, yn gweithio’n dda hefyd, gan fod yn gam agosach at waith yn aml, neu â’r potensial i arwain yn uniongyrchol at waith.

Cyflawni deilliannau’r prosiect  

Roedd y Gwasanaeth Di-waith yn arbennig o lwyddiannus yn cynorthwyo cyfranogwyr i ennill cymwysterau. Rhagorwyd ar y targed gan raglen 16 i 24 Gorllewin Cymru a’r Cymoedd 33%, tra bod dwy raglen Dwyrain Cymru (grwpiau oedran 16 i 24 a 25 a hŷn) wedi rhagori ar y targed 15%. Fe wnaeth rhaglen 25 a hŷn Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ragori ar y targed ar gyfer ennill cymwysterau 14%.

O ran y targed deilliannau ar gyfer cyfranogwyr i fynd i mewn i gyflogaeth wrth adael y gwasanaeth, o fis Mai 2022, ar gyfer y grŵp oedran 16 i 24, yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, cyflawnwyd 68% o’r targed, ac yn Nwyrain Cymru, cyflawnwyd 77% o’r targed. Ar gyfer y grŵp 25 oed a hŷn, cyflawnwyd 55% o’r targed yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, a 71% yn Nwyrain Cymru. Felly, ar draws y rhaglen yn gyffredinol, roedd 10% o gyfranogwyr wedi mynd i mewn i gyflogaeth erbyn mis Mai 2022 yn erbyn targed cyffredinol o 15%. Yn nodedig, cynhaliwyd y gyfradd llwyddiant dros gyfnod mesurau diogelu COVID-19. Mae’r ffigur yn disgyn i 2% o gyfranogwyr mewn cyflogaeth gynaledig chwe mis ar ôl gadael y gwasanaeth. Fodd bynnag, roedd heriau o ran cadw cyswllt gyda chyfranogwyr wedi iddynt adael y gwasanaeth, felly efallai nad yw hyn yn adlewyrchu’r hyn a gyflawnwyd yn ymarferol.

Roedd yn gymharol fwy heriol i gynorthwyo cyfranogwyr i fynd i mewn i addysg neu hyfforddiant wrth adael y gwasanaeth. O fis Mai 2022, ar gyfer y grŵp oedran 16 i 24, yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, cyflawnwyd 41% o’r targed. Yn Nwyrain Cymru, cyflawnwyd 21% o’r targed (nid oedd y targed hwn yn berthnasol i’r rheiny yn y grŵp 25 oed a hŷn).

Erbyn Mai 2022, roedd 10% o gyfranogwyr wedi cwblhau lleoliad profiad gwaith neu gyfle gwirfoddoli. O ran targedau, ar gyfer y grŵp oedran 16 i 24, yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, cyflawnwyd 62% o’r targed, ac yn Nwyrain Cymru, cyflawnwyd 47% o’r targed. Ar gyfer y grŵp 25 oed a hŷn, roedd y cyflawniad yn debyg: 67% yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, a 49% yn Nwyrain Cymru. Nid oedd y gyfradd lwyddiant yn sylweddol islaw’r gyfradd yn ystod cyfnod mesurau diogelu COVID-19 er y cwtogwyd yn sylweddol ar ddigwyddiadau gwirfoddoli a chyfleoedd lleoliad yn ystod y cyfnod hwn.

O ystyried bod lefelau angen a chymhlethdod wedi cynyddu ers dechrau COVID-19, mae cyflawni deilliannau meddal yn bwysicach fyth na’r sefyllfa cyn y pandemig. Adroddwyd bod gan lawer o ddefnyddwyr y gwasanaeth ffordd bell i fynd cyn iddynt fod yn barod ar gyfer swydd, a disgrifiwyd bod camau bach, fel mynd tu allan am y tro cyntaf mewn misoedd, yn rhai pwysig iawn. Atseiniwyd hyn gan gyfweleion cyfranogol a adroddodd am welliannau sylweddol mewn iechyd meddwl, lles cyffredinol, a hyder. Roedd goresgyn ynysigrwydd cymdeithasol yn fynych yn mynd law yn llaw ag ymdeimlad adferedig o ddiben a hyder yn deillio o dreulio mwy o amser gyda phobl eraill o fewn y gymuned, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, grwpiau cymorth neu leoliadau gwirfoddoli.

Argymhellion

Argymhelliad 1

I gadw mentoriaid cymheiriaid, dylai cyllidwyr a darparwyr sicrhau bod cyflogau’n gystadleuol yn lleol, bod contractau cyflogaeth yn ddigonol o ran eu hyd, a bod cynllun dilyniant a hyfforddiant clir.

Argymhelliad 2

Dylai hyfforddiant a datblygiad mentoriaid cymheiriaid fod wedi’u ffurfioli ac yn systematig, gan gynnwys opsiynau datblygiad proffesiynol parhaus fel cyrsiau achrededig ar Lefel 3 neu Lefel 4.

Argymhelliad 3

Er bod gan lawer o fentoriaid cymheiriaid set sgiliau unigryw yn seiliedig ar eu profiad bywyd, a’u bod yn llawn cymhelliant i helpu pobl, dylai darparwyr roi ystyriaeth lawnach i ddiffinio a chyfyngu eu rôl er mwyn osgoi bod mentoriaid cymheiriaid yn cael eu tynnu i mewn i ddarparu ymyriadau therapiwtig seicolegol nad ydynt wedi’u hyfforddi ar eu cyfer efallai.

Argymhelliad 4

O ystyried anghenion lefel uchel llawer o gyfranogwyr, dylai fod gan ddarparwyr a mentoriaid cymheiriaid weithdrefnau a llwybrau ar waith i nodi pa bryd y dylai cyfranogwr symud o gymorth yn gysylltiedig â lles i dderbyn cymorth cyflogadwyedd/dechrau chwilio am swydd a mynd i mewn i gyflogaeth. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys defnyddio pecynnau cymorth i ganfod pa mor barod yw rhywun i ddechrau gwaith.  

Argymhelliad 5

Gall arbenigwyr cyflogaeth chwarae rhan nodedig a gwerthfawr, a gallant helpu dod o hyd i leoliadau gwirfoddoli hefyd. Dylai darparwyr sefydlu arbenigwyr cyflogaeth a sicrhau bod eu rôl gyda mentoriaid cymheiriaid wedi’i diffinio, a bod llwybrau clir rhwng y ddwy rôl.

Argymhelliad 6

Dylai darparwyr ddatblygu modelau cymorth hybrid (ar-lein ac wyneb yn wyneb) a all sicrhau bod hygyrchedd a hyblygrwydd yn cael eu hyrwyddo i’r eithaf. Gellir gwneud hyn trwy ddatblygu neu gaffael cyrsiau byr neu gyrsiau galwedigaethol a ddarperir ar-lein.

Argymhelliad 7

Dylai darparwyr roi blaenoriaeth i gyrsiau byr fel mecanwaith ymgysylltu ac fel cam at waith, tra dylai cyllidwyr gydnabod y canlyniad hwn mewn strwythurau contractiol/tâl.

Argymhelliad 8

Dylai darparwyr ddatblygu rolau a ffrydiau gwaith yn llawnach i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli. Gallai hyn olygu cyflogi cydlynydd gwirfoddoli pwrpasol i frocera lleoliadau gwirfoddoli a chynorthwyo cyfranogwyr tra’u bod ar leoliad. Hefyd, dylai darparwyr gael cymorth i ddatblygu lleoliad strwythuredig lle caiff amcanion dysgu neu amcanion sgiliau meddal eu nodi ar gyfer y cyfranogwr hwnnw. 

Argymhelliad 9

Dylai cyllidwyr a darparwyr sicrhau bod gan fentoriaid cymheiriaid ymwybyddiaeth a dealltwriaeth lawn o wasanaethau lleol a’r gweithdrefnau ar gyfer cyfeirio a/neu atgyfeirio. Gallai hyn fynnu cydlynu gwasanaethau lleol yn systematig hefyd er mwyn cysylltu â gwasanaeth mentora cymheiriaid. 

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Lucy Loveless, David Scott, Oli Taylor, Izabela Jamrozik, ac Emma Lovatt (ICF Consulting Services Ltd.)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Laura Entwistle
Ebost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 11/2023
ISBN digidol 978-1-80535-271-6

Image
European Social Fund logo

 

 

 

 

 

 

Image
GSR logo