Datblygwyd y Pecyn Rheilffordd Cymoedd Canolog i annog newid moddol o'r car i'r rheilffyrdd drwy ddarparu seilwaith rheilffyrdd gwell.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nodwyd tri amcan ar gyfer y Pecyn Rheilffordd Cymoedd Canolog.
- Amcan 1: Darparu seilwaith gwell i annog newid moddol i leihau lefel y defnydd o geir, a theithiau gyrrwr yn unig yn arbennig.
- Amcan 2: Gwella hygyrchedd i gyfleoedd cyflogaeth a gwasanaethau allweddol drwy ddulliau cynaliadwy, yn galluogi pobl leol i gael mynediad at addysg a chyfleoedd hyfforddiant a'r lleoliadau cyflogaeth mawr yng Nghymru.
- Amcan 3: Lleihau lefelau allyriadau nwy tŷ gwydr niweidiol drwy wasanaethau rheilffyrdd ychwanegol.
Archwiliodd y gwerthusiad weithrediad ac effaith y prosiect. Mae'r adroddiad terfynol yn nodi nifer o wersi a allai helpu i gyflenwi prosiectau rheilffyrdd well yng Nghymru yn y dyfodol.
