Neidio i'r prif gynnwy

Dyma’r gwerthusiad terfynol ynglŷn â dau o brosiectau Amgylchedd ar gyfer Twf (E4G) a gafodd eu datblygu a’u rheoli gan Groeso Cymru.

Nodau’r prosiectau oedd:

  • gwella atyniad cyfleusterau naturiol ac adeiledig
  • datblygu “Canolfannau Rhagoriaeth” a gweithgareddau deillio
  • datblygu marinâu, llwybrau beicio a cherdded
  • gwella mynediad i’r arfordir a chefn gwlad
  • datblygu’r potensial ar gyfer hamdden a gweithgarwch economaidd cynaliadwy.

Tynnodd y prosiect amrywiaeth o feysydd gwerthuso gan gynnwys:

  • adolygu cynlluniau busnes y prosiectau, ffurflenni monitro ac adroddiadau blynyddol y prosiect yn ei grynswth a rhai’r Canolfannau Rhagoriaeth
  • ymgynghori â rheolwyr y prosiectau, rheolwyr y Canolfannau Rhagoriaeth, a’r swyddogion cyfrifol, y partneriaid perthnasol a’r rhanddeiliaid mewn llawer o’r 50 a rhagor o weithgareddau buddsoddi a ariannwyd
  • ystyried y dystiolaeth sylfaenol, tystiolaeth y gwaith monitro a thystiolaeth y gwaith gwerthuso a wnaed ar gyfer y gweithgareddau buddsoddi
  • Ymchwil gomisiwn benodol ynglŷn â’r ddau brosiect fel yr ymchwil a wnaed gan Ysgol Fusnes Caerdydd i amcangyfrif effaith economaidd yn gysylltiedig â gwariant ymwelwyr a gwariant ar adeiladu. 

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Prosiectau Twristiaeth Arfordirol a Thwristiaeth Gynaliadwy , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o’r Prosiectau Twristiaeth Arfordirol a Thwristiaeth Gynaliadwy: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 495 KB

PDF
495 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Tom Stevenson

Rhif ffôn: 0300 062 2570

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.