Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r gwerthusiad hwn yn ystyried llwyddiant cyffredinol y rhaglen beilot wrth baratoi'r cyfranogwyr i wneud ceisiadau llwyddiannus i fyrddau.

Yn 2015, ar y cyd â Chanolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG, lansiodd Llywodraeth Cymru Raglen Beilot i hyfforddi, datblygu a chefnogi ym maes penodiadau cyhoeddus. Roedd chwech o Fyrddau Iechyd Lleol y GIG a thair Ymddiriedolaeth y GIG yng Nghymru yn cefnogi’r rhaglen, gyda 18 o unigolion yn cymryd rhan ynddi dros gyfnod o 12 mis.

Mae’r gwerthusiad hwn yn ystyried llwyddiant cyffredinol y rhaglen beilot wrth baratoi'r cyfranogwyr i wneud ceisiadau llwyddiannus i fyrddau, ac yn benodol ceisio canfod pa elfen neu elfennau yn y rhaglen oedd yn fwyaf effeithiol wrth wneud hyn. Mae hefyd yn ystyried cryfderau a gwendidau y modd y rhoddwyd y rhaglen beilot ar waith, gan edrych yn benodol ar yr hyn a weithiodd yn ymddangosiadol dda a'r hyn na weithiodd cystal, a pham.

Mae'r adroddiad yn gorffen gyda sylwadau cyffredinol am y rhaglen beilot, ynghyd ag argymhellion pwysig allweddol i fyrddau cyhoeddus eu hystyried wrth gyflwyno rhaglenni tebyg.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Rhaglen Beilot i Hyfforddi, Datblygu a Chefnogi grwpiau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol wrth wneud penodiadau cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 746 KB

PDF
746 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.