Diben y gwerthusiad oedd asesu effeithiau ac effeithlonrwydd y Rhaglen i fod yn sail i’w datblygiad yn y dyfodol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cynhaliwyd y gwerthusiad hwn rhwng mis Medi 2007 a mis Mawrth 2010.
Nodir yn Iaith Pawb, Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer creu Cymru Ddwyieithog, bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddatblygu’r rhaglen Cymraeg i Oedolion mewn ffordd gydlynol ar lefel genedlaethol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys adolygu’r ffordd y mae’r rhaglen yn cael ei chynllunio a’i darparu er mwyn sicrhau bod Cymraeg i Oedolion yn dod yn rhan o’r prif ffrwd cynllunio ac er mwyn codi proffil dysgu Cymraeg.
