Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar ddwy fenter cynhwysiant digidol blaenorol ond yn mabwysiadu ymagwedd cyflenwi mwy anuniongyrchol.

Mae'n canolbwyntio ar hwyluso a chydlynu gweithgareddau cynhwysiant digidol gyda sefydliadau partner ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i leihau allgáu digidol ac yn helpu i gyrraedd y nodau polisi yn y Fframwaith Cynhwysiant Digidol a'r Cynllun Cyflawni.

Mae'r contract yn rhedeg o 1 Ebrill 2015 hyd at 31 Mawrth 2017 gydag opsiwn i ymestyn am ddwy flynedd bellach.

Nod y gwerthusiad oedd adnabod effeithiau’r rhaglen sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys ei ffurf strwythurol ac arfer gweithredol yn ogystal â'i effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gweithredol.

Mae’r dulliau yn cynnwys ymchwil eilaidd a sylfaenol, gyda'r ail yn cynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig, arsylwi a gwaith arolwg gyda staff cyflenwi ar y rheng flaen a gwirfoddolwyr, defnyddwyr y wasanaeth a rhanddeiliaid y rhaglen (e.e. staff y Ganolfan Cydweithredol Cymru, swyddogion Llywodraeth Cymru, aelodau o'r Bwrdd y Rhaglen Cynhwysiant Digidol).

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Rhaglen Cymunedau Digodol Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o’r Rhaglen Cymunedau Digodol Cymru: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 348 KB

PDF
348 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Semele Mylona

Rhif ffôn: 0300 025 6942

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.