Diben y rhaglen yw ceisio cryfhau sgiliau a gallu'r sector cyhoeddus yng Nghymru ym maes caffael.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r rhaglen defnyddio doniau i Wella'r Byd Caffael
Mae'r rhaglen yn cynnwys pum rhan wahanol:
- Arweinyddiaeth
- Cyrsiau hyfforddiant
- Rhaglen Swyddogion Gweithredol Caffael dan Hyfforddiant
- Cymorth ar gyfer prosiectau e-gaffael
- Cymorth ar gyfer prosiectau arloesi.
Nodau’r gwerthusiad terfynol
Yn 2013, cwblhawyd gwerthusiad canol tymor o’r rhaglen Wella'r Byd Caffael. Bryd hynny, roedd tair o’r pum cainc yn mynd rhagddynt. Mae’r gwerthusiad terfynol yn adeiladu ar ganfyddiadau’r gwerthusiad canol tymor. Prif amcanion y gwerthusiad hwn yw:
- asesu cynnydd ar draws pob un o bum cainc y gwerthusiad a ph’un a fodlonwyd amcanion y rhaglen ai peidio
- asesu sut mae’r rhaglen wedi rhoi’r argymhellion o’r gwerthusiad canol tymor ar waith
- deall y mewnbynnau, gweithgareddau a’r prosesau sydd wedi gwneud y canlyniadau a gyflawnwyd gan y rhaglen yn bosibl (adrodd ar y
ffactorau allweddol sydd wedi helpu neu lesteirio cynnydd) - asesu effaith y rhaglen, i’r graddau y mae’n bosibl ei chanfod yn yr amser ers rhoi’r gweithgareddau ar waith
- amlinellu’r prif wersi a ddysgwyd wrth gyflwyno’r rhaglen hon, a gwneud argymhellion ar gyfer cyflwyno rhaglenni gwaith tebyg yn y dyfodol.
