Mae'r gwerthusiad yn canolbwyntio ar ddeall sut y mae proses a mecanweithiau cyflawni'r Rhaglen yn gweithio, ac a yw buddsoddiadau'n cael eu targedu yn y ffordd orau i gyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Bydd y canfyddiadau'n llywio'r gwaith o gynllunio a chyflawni rhaglen 2022/23.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau’r adolygiad desg, cyfweliadau â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol, yn ogystal â gwaith maes gydag ymgeiswyr llwyddiannus a’r rhai a oedd yn gymwys i wneud cais ond nad oeddent wedi gwneud hynny eto.
