Gwella Sgiliau Arwain a Rheoli yn cynnig nifer o gyfleoedd hyfforddi.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r Rhaglen gwella Sgiliau Arwain a Rheoli
Mae adolygiad annibynnol wedi’i gynnal ac mae tri adroddiad wedi eu cyhoeddi, sef:
- Gwerthusiad ELMS - yn canolbwyntio'n bennaf ar y gweithdai, y gronfa ddisgresiynol ac elfennau hyfforddi a mentora’r rhaglen
- Gwerthusiad y Ganolfan Rhagoriaeth Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru (LMW)
- Gwerthusiad y Teclyn Diagnostig Cymraeg ‘Cymraeg yn y Gweithle’.
At ei gilydd, mae'r gwerthusiad yn dod i'r casgliad bod ELMS, er gwaethaf yr amrywiol heriau o ran perfformiad a gweithredu, wedi llwyddo i sbarduno ystod o effeithiau cadarnhaol. Mae hyfforddiant ELMS wedi bod o ansawdd da, wedi denu ymateb da, wedi ei ddefnyddio’n dda ac wedi bod o fudd i'r cwmnïau a'r unigolion a gefnogwyd yng Nghymru.
Mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
