Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a chefndir

Ym mis Chwefror 2020 comisiynodd Llywodraeth Cymru gwmni Wavehill a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith i gynnal gwerthusiad ffurfiannol o’r rhaglen Gradd-brentisiaeth yng Nghymru i asesu ei heffeithiolrwydd, ei heffeithlonrwydd a’i heffaith.  Dyma grynodeb o ganfyddiadau ymchwil cam cwmpasu’r gwerthusiad a gynhaliwyd rhwng Awst 2020 a Chwefror 2021.

Yn sgil nodi bod y rhaglen Gradd-brentisiaeth yn nod allweddol yng nghynllun polisi Prentisiaeth a Sgiliau Llywodraeth Cymru (2017) a’i bod yn argymhelliad penodol yn Adolygiad Diamond o Gyllid Addysg Uwch (2017), fe’i lansiwyd yng Nghymru ym mis Ionawr 2018.

I ddechrau arni, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid o tua £20 miliwn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar gyfer tair blynedd gyntaf y rhaglen, gyda’r prentisiaid cyntaf yn cofrestru ar y rhaglen ym mis Medi 2018.

Mae’r rhaglen Gradd-brentisiaeth yn cyflawni yn erbyn ystod eang o amcanion polisi; fodd bynnag, rhoddwyd y ffocws cychwynnol ar gefnogi’r canlynol:

  • adlinio’r system brentisiaethau i ddarparu sgiliau lefel uwch yn ôl anghenion cyflogwyr ac economi Cymru, fel y’u mynegir drwy flaenoriaethau gweinidogol
  • sicrhau dilyniannau o’r rhaglen brentisiaeth bresennol i addysg uwch, gan gryfhau cryn dipyn ar hygrededd a hygyrchedd cynnig prentisiaeth Llywodraeth Cymru i’r rhai sydd â dyheadau uwch, yn enwedig y rhai nad ydynt wedi dilyn llwybr y chweched dosbarth/coleg

Nododd Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (RSP) gyfres o feysydd allweddol mewn sectorau allweddol sydd â phrinder sgiliau mewn galwedigaethau technegol a medrus iawn. Yn dilyn y broses hon, comisiynodd Llywodraeth Cymru fframweithiau Gradd-brentisiaethau ar gyfer y meysydd Digidol a Gweithgynhyrchu Uwch.

CCAUC sydd wedi goruchwylio’r cylchoedd ymgeisio cystadleuol blynyddol i ariannu rhaglenni cyflenwi unigol gan sefydliadau AU a ariennir gan CCAUC o fewn y fframweithiau hyn (er bod oedi wrth gwblhau’r fframwaith Gweithgynhyrchu Uwch wedi golygu bod cynigion ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen wedi bod yn gysylltiedig â’r fframwaith Digidol yn unig). Yn y canllawiau ar ddarparu’r gradd-brentisiaethau, rhoddir blaenoriaeth gan CCAUC ar gydweithio rhwng sefydliadau Addysg Uwch, colegau Addysg Bellach, a darparwyr eraill dysgu seiliedig ar waith.

Ac eithrio un ohonynt,[1] mae pob sefydliad AU a ariennir gan CCAUC wedi cyflwyno cynnig i’r rhaglen ar gyfer pob blwyddyn academaidd ers i’r rhaglen ddechrau. Mae cyllid cam cyntaf y rhaglen Gradd-brentisiaethau yn dod i ben yn 2021.

Ym mis Tachwedd 2019 lansiodd Senedd Cymru ymchwiliad i edrych ar gam cychwynnol y rhaglen Gradd-brentisiaeth ac ar gyfeiriad a photensial gradd-brentisiaethau yn y dyfodol. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ac ynddo roedd 12 argymhelliad ar gyfer y rhaglen. Roedd y rhain yn cynnwys ystod y gradd-brentisiaethau sydd ar gael, sut y cânt eu hariannu, ehangu cyfranogiad a hyrwyddo’r Gymraeg ynddynt. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ei hymateb i’r argymhellion hyn, gan dderbyn neu rannol dderbyn pob un ohonynt.

[1] Mae’r sefydliadau AU canlynol a ariannir gan CCAUC yn cynnig gradd-brentisiaethau: Prifysgol Abertawe, y Brifysgol Agored yng Nghymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Y gwerthusiad

Mae’r gwerthusiad yn cael ei gynnal mewn dau gam:

  1. Cam cwmpasu (y cam hwn) sy’n cynnwys casglu tystiolaeth drwy adolygu llenyddiaeth a thrwy ymgysylltu cychwynnol â 22 o randdeiliaid a oedd yn rhan o gynllunio, gweithredu, rheoli a chyflenwi gradd-brentisiaethau. Mae’r dystiolaeth a gasglwyd wedyn wedi bod yn sail i ddatblygu theori newid ar gyfer y rhaglen. Er mwyn cynorthwyo â datblygu theori newid, cynhaliwyd gweithdy â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, CCAUC a Phrifysgolion Cymru.
  2. Cam olaf; bydd hwn yn cynnwys gwaith maes gyda chyflogwyr, prentisiaid, darparwyr AU, colegau AB, a darparwyr dysgu seiliedig ar waith i gasglu adborth ar y profiadau o weithredu a chymryd rhan yn y rhaglen Gradd-brentisiaeth.

Prif ganfyddiadau

Gradd-brentisiaethau yn rhyngwladol

Yn yr adolygiad llenyddiaeth gwelwyd tuedd yn rhyngwladol tuag at ehangu cyfleoedd prentisiaeth, gyda rhaglenni yn ymgorffori darpariaeth hyfforddiant a sgiliau ar lefel uwch a oedd yn draddodiadol yn rhan o gyrsiau gradd israddedig neu ôl-raddedig.[2] Fodd bynnag, mae gwahaniaethau sylweddol yn natur a graddau diwygiadau’r system brentisiaethau yn rhyngwladol gan gynnwys rhychwant cynnwys academaidd drydyddol ac yn y rôl sydd gan sefydliadau AU yn cydlynu a chyflenwi prentisiaethau. Mae’r berthynas a oedd eisoes yn bodoli rhwng sefydliadau AU a darparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, a diwydiant a busnes yn ehangach, hefyd wedi llywio natur a chyfeiriad diwygiadau prentisiaethau i fod yn wahanol ym mhob gwlad.[3]

Ymddengys mai ychydig iawn o ymchwil ryngwladol drwyadl sy’n bodoli sy’n archwilio effaith gradd-brentisiaethau. Fodd bynnag, mae ymchwil ehangach ar fuddion economaidd hyfforddiant ac addysg (a phrentisiaethau yn benodol) fel rheol wedi gweld buddion sylweddol a chadarnhaol i unigolion sydd wedi cymryd rhan mewn prentisiaethau o’u cymharu ag unigolion nad ydynt wedi gwneud hynny.[4]

[2] Govender, C.M. a Valand, T.I. (2021) Work Integrated Learning for Students: Challenges and Solutions for Enhancing Employability, Cambridge Scholars Publishing, Newcastle.  

[3] Bauer, W. a Gessler, M., 2016. Dual vocational education and training systems in Europe: lessons learned from Austria, Germany and Switzerland yn Vocational Education and Training in Sub-Saharan Africa, t.48

[4] Overman H. et al. (2015) Apprenticeships, Evidence Review, What Works for Local Economic Growth.

Y rhaglen gradd-brentisiaethau yng Nghymru

Ym mlwyddyn academaidd 2020/21, roedd 1,160 o lefydd prentisiaethau wedi’u dyrannu i gam cyntaf y rhaglen Gradd-brentisiaethau yng Nghymru. Mae 660 o brentisiaid wedi cofrestru ar y rhaglen, sef 57 y cant o’r dyraniad hwnnw. Mae’r ddau fframwaith wedi methu â chyrraedd nifer eu dyraniadau gyda chyfanswm o 320 o brentisiaid ar radd-brentisiaethau yn y fframwaith Digidol a 340 o brentisiaid ar radd-brentisiaethau yn y fframwaith Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch.

Lluniwyd theori newid ar gyfer y rhaglen gradd-brentisiaeth ar sail datblygu llwybrau canlyniadau i bedwar grŵp o randdeiliaid allweddol (h.y. y Prentisiaid, sefydliadau AU a cholegau AB, a chyflogwyr). Nod cyffredinol a gynigiwyd ar gyfer y rhaglen gradd-brentisiaethau yw datblygu ‘gweithlu sydd â sgiliau i ateb cyfleoedd a heriau’r dyfodol’.

Cyfranna’r rhaglen Gradd-brentisiaethau yng Nghymru at ehangder o bolisïau Llywodraeth Cymru ac fe’i cynlluniwyd yn benodol i ganolbwyntio ar feysydd penodol mewn dau sector (TG/Cyfrifiadura a Pheirianneg/Gweithgynhyrchu Uwch) lle credir bod mwy o anghenion sgiliau ar lefel uwch a lle credir bod enillion cynhyrchiant yn fwyaf tebygol.

Mae’r rhaglen yn eang ei chwmpas ac iddi’r potensial i ehangu cyfranogiad mewn darpariaeth sgiliau ar lefel uwch, cynyddu symudedd cymdeithasol, gwella cynhyrchiant a chynyddu lefelau arloesedd a chystadleurwydd. Fodd bynnag, fel buddsoddiad cychwynnol, mae nifer o risgiau a rhwystrau a allai effeithio ar ei llwyddiant.

Heriol fu’r gwaith o bennu dyraniadau cyllid ar gyfer y rhaglen a sefydlu’r seilwaith ar gyfer ei chyflenwi (yn enwedig y fframweithiau prentisiaeth) ac ni aethpwyd ati i farchnata’r rhaglen oherwydd pryderon na ellid ateb lefelau’r galw yn seiliedig ar yr adnoddau oedd ar gael. Awgryma tystiolaeth gychwynnol ar lefel y rhaglen gyfan fod gor-ddyrannu lleoedd prentisiaeth wedi digwydd ar gyfer y cam cychwynnol hwn gyda’r data diweddaraf (blwyddyn academaidd 2020/21) yn dangos 43 y cant yn llai o brentisiaid na lleoedd a neilltuwyd. Fodd bynnag, roedd cyhoeddi rhaglen tair blynedd i gychwyn arni, y cyhoeddiadau cyllid blynyddol, amserlenni’r cyllid a ddyfernir ac, yn fwy diweddar pandemig COVID-19, oll wedi dylanwadu ar gynnydd.

Argymhellion

  • Os bydd cyllid blynyddol yn parhau, byddai cyhoeddiadau yn gynt (yn y flwyddyn) ynghylch y dyraniad blynyddol, yn ogystal â gweithredu’r broses cynigion a’u cymeradwyo yn gynt, yn cefnogi cynnydd a llwyddiant y rhaglen.
  • Drwy’r gwerthusiad, dylid dadansoddi gwybodaeth reoli a gedwir gan bob sefydliad AU er mwyn nodi patrymau cynnydd a pherfformiad a llywio trafodaethau dilynol gyda sefydliadau AU, colegau AB, a darparwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae strwythur llywodraethu’r rhaglen i’w weld yn llwyddiant arbennig a deellir ei fod wedi arwain at gryfhau’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a CCAUC. Arweiniodd adolygiad trylwyr o’r opsiynau at gyllid grant i CCAUC i gyflenwi’r rhaglen ac ymddengys mai hwn yn dal yw’r model mwyaf priodol i’w ddefnyddio. Bydd risgiau a nodwyd wrth fabwysiadu’r dull hwn yn cael eu harchwilio yn ystod gwaith maes cam nesaf y gwerthusiad.

Argymhelliad

  • Dylai colegau Addysg Bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith, ynghyd â chynrychiolwyr sefydliadau Addysg Uwch, gael eu cynnwys yng nghylch nesaf yr ymgynghori â rhanddeiliaid ar gyfer y gwerthusiad.

Mae tystiolaeth bod y rhaglen wedi cefnogi mwy o ymgysylltu rhwng sefydliadau AU a chyflogwyr ac mae hefyd wedi cryfhau partneriaethau rhwng sefydliadau AU, colegau AB a darparwyr dysgu seiliedig ar waith. Bydd strwythur y partneriaethau hyn, sut maent yn esblygu a’r dyheadau ar eu cyfer, oll yn feysydd i’w hystyried yn y gwaith maes gyda’r grwpiau hyn.

Cyflogeion presennol a geir yn bennaf ymysg y rhai sy’n cofrestru ar radd-brentisiaethau yng Nghymru, sy’n gwrthgyferbynnu â’r dystiolaeth am radd-brentisiaethau yn Lloegr. Maes allweddol ar gyfer gweddill y gwerthusiad fydd teithiau’r cyflogeion hyn i mewn i’r rhaglen (gan gynnwys y prif elfennau sy’n eu sbarduno i gymryd rhan) o’i gymharu â’r cyflogeion hynny sydd newydd gael eu recriwtio. 

Y camau nesaf

Bydd cam nesaf y gwerthusiad yn cynnwys casglu gwybodaeth reoli gan sefydliadau AU er mwyn gallu dadansoddi tueddiadau a phatrymau perfformio ac i nodi meysydd eraill i’w harchwilio mewn trafodaethau dilynol â’r rhai sy’n ymwneud â rheoli a chyflenwi’r rhaglen. Bydd y data hwn hefyd yn sail i’r ffrâm sampl ar gyfer gwaith maes gyda chyflogwyr a phrentisiaid.

Yna cynhelir cyfweliadau â rhanddeiliaid sy’n ymwneud â chyflenwi’r rhaglen gan gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau AU, colegau AB a darparwyr dysgu seiliedig ar waith i drafod y prosesau sy’n gysylltiedig â chyflenwi gradd-brentisiaethau. I ategu’r cyfweliadau hyn, ymgysylltir â rhanddeiliaid ehangach megis Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, Prifysgolion Cymru, a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a sefydliadau eraill i gasglu eu barn am y rhaglen.

Bwriedir llunio holiadur i brentisiaid (gyda’r nod o ymgysylltu â hyd at draean o’r prentisiaid presennol) ynghyd â chyfres o gyfweliadau gyda chyflogwyr. Nod yr arolygon hyn fydd casglu cymhellion a phrofiadau’r rheiny sy’n ymwneud â’r rhaglen.

Bydd y gwaith maes, ynghyd â dadansoddiad thematig o’r prif faterion a ddaw i’r fei drwy hyn, hefyd yn llywio’r gwaith o ddatblygu fframwaith ar gyfer asesu gwerth am arian ac effaith tymor hwy gradd-brentisiaethau.

Gyda’i gilydd, bydd cyflawni’r tasgau hyn yn creu sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr ar gyfer ei dadansoddi, a hynny yn ei dro yn helpu i lunio’r adroddiad terfynol, y model gwerth am arian, a’r fframwaith ar gyfer asesu effaith tymor hwy y rhaglen.

Manylion cyswllt

Awduron: Oliver Allies, Declan Turner, Llorenc O’Prey, Duncan Melville, Lovedeep Vaid

Barn yr ymchwilydd a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid yw o reidrwydd yn farn Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Dr. Semele Mylona
E-bost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 66/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-931-5

Image
GSR logo