Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen a sefydlwyd i ddatblygu capasiti ymchwil yng Nghymru yw Sêr Cymru II.

Mae’n cwmpasu’r meysydd ymchwil canlynol:

  • gwyddorau bywyd ac iechyd
  • peirianneg a deunyddiau uwch
  • carbon isel, ynni a’r amgylchedd.

Mae'r gwerthusiad canol tymor yn dod i'r casgliad ei bod yn dal yn rhy gynnar i gael darlun pendant o lwyddiant y rhaglen. Dim ond yn y tymor hir y bydd effeithiau'r rhaglen yn dod i'r amlwg. Mae'r amserlenni ar gyfer hyn yn dibynnu ar ba bryd y bydd yr academyddion a ariennir o dan y rhaglen yn dechrau ar yr ymchwil dan sylw.

Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer y cyfnod cyflawni sy'n weddill o dan y rhaglen.

Casgliadau allweddol

Daeth y gwerthusiad i'r casgliad bod y rhaglen yn parhau'n angenrheidiol. Mae'r rhaglen yn parhau i weithio tuag at gyflawni'r nod o unioni'r diffyg yn y capasiti ymchwil yng Nghymru. 

Gweithredu

  • Roedd y rhan fwyaf o academyddion a oedd wedi cael eu hariannu yn credu bod y broses ymgeisio yn dderbyniol ac yn rhesymol. Roedd Llywodraeth Cymru a'r brifysgol berthnasol yn rheoli'r rhaglen yn effeithiol.

Cynnydd yn erbyn amcanion

  • Ar ganol ei chyfnod, mae'r rhaglen, wedi llwyddo'n foddhaol i fodloni ei nodau a'i hamcanion. 
  • Mae cyllid yn cael ei ddyfarnu i brosiectau ymchwil sy'n gydnaws â nodau ac amcanion cyffredinol y rhaglen. 

Cynnydd yn erbyn targedau

Mae'r rhaglen wedi gwneud cynnydd rhesymol yn erbyn ei dangosyddion. Ar ôl pedwar cylch ariannu, mae'r rhaglen wedi gwneud y canlynol:

  • wedi rhagori ar y targed o ran nifer y Cymrodorion Ymchwil yn y Gorllewin a'r Cymoedd, a'r Dwyrain.
  • wedi rhagori ar y targed o ran nifer y Cadeiriau yn y Gorllewin a'r Cymoedd, a chyrraedd ei tharged yn y Dwyrain.
  • bron wedi cyrraedd ei tharged ar gyfer recriwtio Sêr Disglair ar draws y Gorllewin a'r Cymoedd, a'r Dwyrain.  
  • heb gyrraedd ei tharged ar gyfer recriwtio ymchwilwyr Adennill Talent yn y Gorllewin a'r Cymoedd, a'r Dwyrain. 
  • gwnaeth y rhaglen gynnydd gwell yn erbyn pob un o'i thargedau a oedd yn ymwneud ag allbynnau yn y Gorllewin a'r Cymoedd, nag a wnaeth yn y Dwyrain. Roedd hynny oherwydd bod mwy o ddyraniadau wedi cael eu rhoi yn y Gorllewin a'r Cymoedd nag yn y Dwyrain, yn ystod y cylchoedd ariannu cynharach. 

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r rhaglen Sêr Cymru II: gwerthusiad canol tymor , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 513 KB

PDF
513 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o'r rhaglen Sêr Cymru II: gwerthusiad canol tymor (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 513 KB

PDF
513 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Richard Self

Rhif ffôn: 0300 025 6132

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.