Neidio i'r prif gynnwy

Canfyddiadau gwerthusiad o'r Siarter Iaith (ysgolion cynradd ac uwchradd), Cymraeg Campus a Cymraeg Bob Dydd.

Canfu’r gwerthusiad fod cefnogaeth i’r pedair rhaglen ymhlith yr holl randdeiliaid allweddol sydd yn ymwneud â’u gweithredu.

Roedd swyddogion consortia addysg yn croesawu’r egwyddor o ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer y Siarter Iaith. Fodd bynnag, canfu’r gwerthusiad hefyd fod angen mwy o eglurder ynghylch sut y bwriedir i’r fframwaith weithio yn ymarferol.

Cafwyd enghreifftiau o ysgolion yn gweithio ar y cyd i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau anffurfiol. Cafwyd tystiolaeth hefyd o ddyblygu wrth ddatblygu adnoddau ac wrth ddatblygu cysylltiadau gyda phartneriaid allanol.

Mae’r adroddiad yn adnabod y potensial i gryfhau’r aliniad rhwng nodau’r Siarter Iaith a nodau sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd yn gweithio i hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn gymunedol.

Mae’r canfyddiadau hefyd yn amlygu angen i archwilio a mynegi mewn mwy o ddyfnder y llwybrau rhwng gweithgareddau’r Siarter Iaith a’u deilliannau disgwyliedig.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Siarter Iaith , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o’r Siarter Iaith: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 445 KB

PDF
445 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Catrin Redknap

Rhif ffôn: 0300 025 5720

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.