Neidio i'r prif gynnwy

1. Crynodeb gweithredol

Bydd canfyddiadau'r gwerthusiad annibynnol hwn o Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru 2020-2023 yn llywio strwythur a ffocws y dull gweithredu strategol yn uniongyrchol o fis Mai 2026, i sicrhau bod y broses penodiadau cyhoeddus a reoleiddir ledled Cymru yn adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth y genedl yn well. Mae'n archwilio'r cynnydd a wnaed ers cyhoeddi fframwaith gwreiddiol 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru', mae'n nodi rhwystrau parhaol i gynrychiolaeth ac yn amlygu cyfleoedd ar gyfer newid systemig a'r camau nesaf.

Mae'r gwerthusiad yn defnyddio dulliau cymysg, gan gynnwys cyfweliadau gydag arweinwyr polisi, dadansoddi data ac edrych ar astudiaethau achos ar draws sectorau. Mae'n canolbwyntio ar gynrychiolaeth ar draws nodweddion gwarchodedig, cefndir economaidd-gymdeithasol a'r Gymraeg, gan roi sylw penodol i'r daith hyd yma a'r uchelgais ar ôl mis Mai 2026.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (PAPA) ei Adroddiad ar Benodiadau Cyhoeddus a'i Adroddiad Atodol ar 27 Mawrth 2025. Roedd yr adroddiadau'n hynod feirniadol o gyflawniadau hanesyddol mewn penodiadau cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig o ran:

  • diwedd strategaeth Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru a'r ffaith na chynhaliwyd gwerthusiad ohoni.
  • llywodraethiant a data anghyson
  • prinder arweinwyr
  • y fframwaith rheoleiddiol, gyda galwad am Gomisiynydd Penodiadau Cyhoeddus dynodedig yng Nghymru.

Cyflwynwyd ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i'r adroddiad i'r Pwyllgor ar 9 Mehefin 2025 a gellir ei ganfod yma.

Mae'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys

  • Cynnydd ac Ymrwymiad: Mae ymwybyddiaeth ac ymrwymiad cynyddol ymhlith cyrff cyhoeddus i wella cynrychiolaeth, gyda sawl sefydliad yn ymgorffori amrywiaeth a chynhwysiant mewn cynlluniau strategol.
  • Bylchau mewn data: Mae diffyg data cyson, wedi'u dadgyfuno yn cyfyngu ar y gallu i olrhain cynnydd a thargedu ymyriadau yn effeithiol. Mae hyn hefyd yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i ystyried croestoriadedd mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig.
  • Rhwystr Strwythurol: Sicrhau mynediad hawdd i gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ar wefan Academi Wales, rhagfarn ddiarwybod wrth recriwtio, a thangynrychiolaeth siaradwyr Cymraeg o gefndiroedd amrywiol.
  • Arferion Da: Mae dulliau arloesol, fel cynlluniau mentora wedi'u targedu, arferion recriwtio cynhwysol ac ymgysylltu â'r gymuned, yn dangos canlyniadau addawol mewn rhai sefydliadau

Roedd yr argymhellion yn cynnwys y canlynol

  • Cynnal gwerthusiad annibynnol ar gyflawni arferion presennol menter 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru'
  • mwy o ffocws ar gryfhau atebolrwydd 
  • gwella gwaith casglu data a thryloywder
  • buddsoddi mewn arweinwyr, a meithrin diwylliannau sefydliadol cynhwysol.

Mae'r adroddiad hefyd yn galw am ymrwymiad o'r newydd ar draws sectorau i egwyddorion 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru', gan sicrhau bod arweinyddiaeth yng Nghymru yn gwbl gynrychioliadol o'i phobl. 

Mae'r gwerthusiad hwn yn crynhoi'r daith o gefnogi uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru hyd yma ar gyfer cydraddoldeb, cynhwysiant a Chymru ffyniannus a dwyieithog. Er bod y gwerthusiad hwn yn edrych ar yr heriau wrth roi'r strategaeth hon ar waith ar ddechrau tymor y Senedd hon, mae'r gwerthusiad hefyd yn canolbwyntio ar y camau nesaf a sut i adeiladu ar yr holl gamau cadarnhaol a gyflawnwyd yn ystod 2024-2025. Y weledigaeth yw cryfhau ein byrddau sector cyhoeddus trwy gael aelodaeth fwy cynhwysol ac amrywiol a bod y mentrau i gyflawni hyn yn cael eu hymgorffori fel arfer gorau dros y cyfnod nesaf.

2. Cyflwyniad

Cysyniad 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru'

Bydd y gwerthusiad hwn yn edrych ar y canlynol:

  • y pryderon a godwyd gan Bwyllgor PAPA ar strategaeth 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru'
  • asesu beth sydd eisoes wedi'i roi ar waith i fynd i'r afael â'r diffygion a amlygwyd gan y pwyllgor.

Nid yw'r adroddiad yn ceisio ailedrych ar y materion a godwyd gan adroddiad Pwyllgor PAPA ond yn hytrach, bydd yn canolbwyntio ar yr argymhellion a'r camau a gymerwyd yn erbyn yr argymhellion hynny hyd yma. Roedd y Pwyllgor yn fodlon ar y strategaeth ei hun, ond yn feirniadol o ran y diffyg cyflymder ac ymrwymiad i'w chyflawni mewn modd amserol.

Bydd yr adroddiad hefyd yn ystyried unrhyw fylchau ac yn gwneud argymhellion ar gyflawni Cam 2 ar ôl mis Mai 2026.

Cwmpas

Yn ei hymateb i Argymhelliad 7 ac 8 o adroddiad Pwyllgor PAPA, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad annibynnol o'r strategaeth. Bydd y dystiolaeth o'r gwerthusiad hwn yn ffurfio'r dull gweithredu i'r dyfodol ac yn sicrhau bod camau gweithredu yn seiliedig ar yr hyn sy'n gweithio.

Bydd y gwerthusiad yn ystyried p'un ai i adfer neu adnewyddu 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' yn ffurfiol fel strategaeth sy'n sefyll ar ei phen ei hun y tu hwnt i 2026. Nid oes amheuaeth y bydd amrywiaeth a chynhwysiant yn parhau i fod yn rhan ganolog a gweladwy o'r rhaglen diwygio penodiadau cyhoeddus drwy weddill tymor y Senedd hon, sy'n darparu llwyfan cryf i adeiladu ohono.

Bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru'r Pwyllgor ar y gwerthusiad a'r camau nesaf ym Mhwyllgor nesaf PAPA a heb fod yn hwyrach na dechrau 2026.

Mae'r gwerthusiad hwn yn canolbwyntio ar benodiadau cyhoeddus rheoleiddiedig, sy'n cael eu goruchwylio gan Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus o dan y Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus i sicrhau tegwch, tryloywder a dewis ar sail teilyngdod. Yn nodweddiadol, mae'r rolau hyn yn cael dylanwad sylweddol ar bolisïau'r llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus neu lywodraethiant.

Mae penodiadau heb eu rheoleiddio a wnaed neu a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i gyrff sydd heb gael eu rhestru yn y Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor (nad ydynt yn ddarostyngedig i'r Cod Llywodraethiant) yn parhau i fod ag atebolrwydd cyhoeddus a dylent ddilyn prosesau cadarn, tryloyw yn unol â'r safonau ar gyfer penodiadau rheoleiddiedig. Er nad oes rhwymedigaeth i benodiadau heb eu rheoleiddio ddilyn y broses reoleiddio lawn, fe'u hanogir yn gryf i wneud hynny lle y bo'n bosibl.

Ni chaiff targedau penodol ar gyfer penodiadau cyhoeddus eu darparu gan eu bod yn amrywio yn flynyddol ac maent yn cynnwys penodiadau newydd ac ailbenodiadau.

3. Cefndir a chyd-destun

Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru - Nodau Strategaeth (2020–2023)

Mae'r strategaeth yn nodi pum nod trawsnewidiol:

  1. Casglu a rhannu data – data amrywiaeth cyson, dibynadwy ar draws penodiadau cyhoeddus.
  2. Sicrhau cyflenwad cyson, cadarn– allgymorth, mentora a datblygu i ddenu doniau amrywiol.
  3. Sicrhau arferion recriwtio agored a thryloyw - prosesau cynhwysol gyda meini prawf clir.
  4. Cefnogi byrddau amrywiol – hyfforddiant i Gadeiryddion ac aelodau i harneisio amrywiaeth.
  5. Cynnal newid diwylliannol – ymrwymiad gan arweinwyr i ymgorffori cynhwysiant a thegwch. 

Yn dilyn sesiwn graffu ar 17 Hydref 2024 ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru i benodiadau cyhoeddus o dan strategaeth Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (PAPA) ei Adroddiad ar Benodiadau Cyhoeddus ac Adroddiad Atodol ar 27 Mawrth 2025. Roedd yr adroddiadau'n hynod feirniadol o gyflawniadau hanesyddol mewn penodiadau cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig o ran:

  • diwedd strategaeth Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru a'r ffaith na chynhaliwyd gwerthusiad ohoni
  • llywodraethiant a data anghyson
  • prinder arweinwyr
  • y fframwaith rheoleiddiol, gyda galwad am Gomisiynydd Penodiadau Cyhoeddus dynodedig yng Nghymru

Yn ogystal, cododd Pwyllgor PAPA bryderon difrifol hefyd am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru i benodiadau cyhoeddus, gan gynnwys:

  • Diffyg tryloywder wrth recriwtio a gwneud penderfyniadau.
  • Methu casglu a chyhoeddi data ar amrywiaeth, er gwaethaf yr ymrwymiadau blaenorol
  • Prosesau nad ydynt ar gael i ymgeiswyr anabl a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli
  • Atebolrwydd annigonol
  • Iaith ofalus mewn ymateb i argymhellion
  • Cynnydd cyfyngedig ar asesiad a chynhwysiant iaith Gymraeg.

Crynodeb o fylchau dynodedig

Nod y StrategaethYmateb Llywodraeth CymruBwlch / Camleoli
1. Casglu DataWedi honni anallu i gynhyrchu data amrywiaeth (Argymhelliad 11)Mae'n gwrth-ddweud ymrwymiad y strategaeth i gasglu data cyson
2. Y Cyflenwad TalentDim camau gweithredu clir ar allgymorth na mentoraYn colli cyfleoedd i adeiladu arweinyddiaeth amrywiol i'r dyfodol
3. Recriwtio TryloywDisgrifiwyd prosesau fel anhryloyw ac anhygyrchYn methu cyrraedd nod cynhwysol, recriwtio agored y strategaeth
4. Cefnogi ByrddauDim sôn am hyfforddiant i Gadeiryddion na ByrddauMae'n anwybyddu pwyslais y strategaeth ar alluogi arweinyddiaeth gynhwysol
5. Newid DiwylliannolCywair amddiffynnol, ymrwymiadau amwysCeir diffyg trawsnewid diwylliannol wedi'i gymell gan arweinyddiaeth a oedd wedi'i addo yn y strategaeth

Ystyriaethau eraill

  • Y Gymraeg: Mae'r strategaeth yn hyrwyddo cynhwysiant dwyieithog; ceir diffyg eglurder ar asesiad aelodau'r Bwrdd o ran yr iaith Gymraeg
  • Croestoriadedd: Mae'r strategaeth yn cofleidio cynhwysiant croestoriadol; nid yw'r ymateb yn ymdrin â'r rhwystrau niferus y mae ymgeiswyr yn eu hwynebu
  • Atebolrwydd Arweinyddiaeth: Mae'r strategaeth yn galw am arweinyddiaeth weinidogol; mae'r ymateb yn osgoi ymrwymiadau gweinidogol uniongyrchol

Er mai ychydig iawn y gwnaeth y broses graffu ei ganfod i'w ddathlu yng nghyflawniad cychwynnol strategaeth Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru, sef ffocws penodol Pwyllgor PAPA, roedd llawer o gamau pwysig wedi'u cymryd ers 2024 i roi'r gwaith yn ôl ar y trywydd cywir. Mae'r data diweddar yn dangos bod cynnydd wedi'i wneud ond mae mwy i'w wneud o hyd. Mae Pwynt 7 isod yn nodi'r cynnydd hyd yma.

Cyfleoedd i gysoni

Er mwyn ailgysoni â'r strategaeth, gallai Llywodraeth Cymru wneud y canlynold:

  • Sefydlu Gweithgor i oruchwylio Cam 2, gan nodi cenhadaeth ac amserlen glir gyda chanlyniadau gwerthuso a mesuradwy cadarn
  • Ymrwymo i lunio adroddiadau blynyddol ar fetrigau amrywiaeth
  • Lansio rhaglenni allgymorth a mentora wedi'u targedu.
  • Darparu hyfforddiant gorfodol ar gyfer Cadeiryddion a Byrddau ar lywodraethiant cynhwysol
  • Ymgorffori Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant drwy'r broses benodi. 

4. Methodoleg y gwerthusiad

Dull gweithredu

Gwerthusiad pen desg yw hwn gan mwyaf i ymchwilio i gynnydd hyd yma. Yn ogystal ag edrych ar ddogfennau allweddol, gan gynnwys adroddiadau Pwyllgor PAPA a gwrando ar recordiadau o'r gwrandawiadau, rwyf hefyd wedi cyfweld ag arweinwyr polisi er mwyn cyd-destunoli adroddiadau a dogfennau ysgrifenedig gydag ymarfer. Rhoddodd hyn gyfle am drafodaethau didwyll yn ymwneud â'r cynnydd hyd yma, yn ogystal â thrafodaethau ar sut i adeiladu ar gyfer y dyfodol. Un thema gyffredin oedd derbyn bod diffyg eglurder yn ymwneud ag atebolrwydd ac roedd strwythur llywodraethiant gwan i gefnogi cyflawniad pan gafodd 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' ei lansio yn gyntaf. Roedd y diffyg adnoddau dynodedig yn golygu bod diffyg goruchwyliaeth wedi'i strwythuro a oedd yn golygu bod y cynnydd monitro yn wan. Fodd bynnag, o dan y Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd newydd, mae cynnydd da yn cael ei wneud ac mae ymrwymiad clir i gyflawni'r nodau a bennwyd yn 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru'.

Mae gan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Safonau'r Gymraeg strwythur i fonitro penodiadau cyhoeddus trwy Grŵp Arweinyddiaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Mae'n llai eglur sut mae meysydd eraill sy'n cynrychioli nodweddion gwarchodedig wedi cysylltu â'r weledigaeth a osodwyd yn 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru'.

Yr her wrth symud ymlaen yw sicrhau bod pob agwedd ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cael eu cynrychioli ac yr eir i'r afael â chroestoriadedd yn gyfan gwbl. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i wella amrywiaeth byrddau cyhoeddus ar draws pob nodwedd, sy'n cynnwys hil, rhywedd, anabledd, LHDTC+, y Gymraeg, cefndir economaidd-gymdeithasol a daearyddiaeth. 

Rhannwyd yr adroddiad gwerthuso hwn â dau adolygydd cymheiriaid annibynnol.

Ffynonellau data

Nid oedd olrhain data canolog wedi'i sefydlu pan lansiwyd Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru yn y lle cyntaf. Felly roedd hi'n anodd mesur cynnydd.

Mae tair ffynhonnell yn darparu'r gwaelodlin amrywiaeth bresennol: CAIS 2023–24; Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd; ac Adolygiad o Amrywiaeth yng Ngweithlu ac ar Fyrddau’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2025. Ceir cynnydd cadarnhaol ar amrywiaeth ar benodiadau a wnaed rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025.

Cyfyngiadau a heriau

Mae'r gwerthusiad hwn yn myfyrio ar ganfyddiadau Pwyllgor PAPA a'i farn nad oedd 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' yn cael ei berchenogi, ei gyflawni na'i flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n edrych ar pam ddigwyddodd hyn fel bod Cam 2 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' yn dechrau ei waith o linell sylfaen mwy cadarn. Ni fydd yn ailedrych ar dir y mae Pwyllgor PAPA eisoes wedi ymdrin ag ef.

5. Rhoi rhaglen ar waith

Perchenogaeth

Am resymau hanesyddol a phwysau ar staff oherwydd iddynt gael eu hadleoli i helpu gyda phandemig COVID-19, ni chafodd unrhyw un ei enwebu i fod yn atebol am sicrhau bod 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' yn cael ei gyflawni'n effeithiol. Er bod uchelgais a nodau clir, nid oedd cynllunio o ran adnoddau nac amserlen wedi'i llunio – dim ond disgwyliad lefel uchel a bennwyd erbyn 2023.   

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi enwebu'r Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd i arwain agenda 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' o dymor yr hydref 2024. Nid oes amheuaeth fod yr unigolyn hwn wedi newid cyflymder y gwaith, wedi darparu ffocws cryf a mwy o dryloywder ar draws Grwpiau, ac wedi rhoi eglurder ac arweinyddiaeth ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Llinell amser a cherrig milltir

Er bod 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' yn gosod uchelgais a nodau clir, nid oedd llinellau amser clir ar wahân i ddisgwyliad cyffredinol i gyflawni erbyn 2023. Fel y nodwyd uchod, ni ddatblygwyd cynllun gweithredu ac roedd y trefniadau llywodraethu cychwynnol yn wan. Fodd bynnag, nawr bod atebolrwydd a pherchenogaeth glir, mae ymrwymiad i ymdrin â'r diffygion fel y nodwyd yn adroddiad Pwyllgor PAPA ac ymrwymiad i barhau â'r gwaith a gwneud cynnydd erbyn mis Mai 26.

Strwythurau llywodraethiant a rheoli

Nid oedd strwythurau llywodraethiant ffurfiol wedi'u sefydlu pan lansiwyd 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' i oruchwylio'r gwaith o gyflawni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn.

Roedd diffyg adnoddau dynodedig i yrru'r strategaeth yn ei blaen adeg ei sefydlu. Roedd aflonyddwch y pandemig a cholli parhad hefyd yn ffactorau allweddol a rwystrodd y gwaith o gyflawni ar ôl iddi gael ei lansio.

Mae llywodraethiant cryfach bellach ar waith, gan gynnwys ymrwymiadau i gyhoeddi diweddariadau cynnydd a chynnal ymgysylltiad â Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Ceir hefyd adnoddau dynodedig, gyda rhwydwaith rhanddeiliaid wedi'i fapio ledled Cymru.

Mae llawer o argymhellion y Pwyllgor yn ymwneud â strwythurau gweinyddol mewnol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr argymhellion hynny a fydd yn cyflawni buddiannau gweladwy i ymgeiswyr a byrddau dros amser, gan weithredu a dylanwadu hefyd ar y gwaith o'u cyflawni ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r tîm Penodiadau Cyhoeddus newydd benodi aelod dynodedig o'r staff i oruchwylio'r gwaith.

6. Canfyddiadau

Adborth a chanfyddiadau cyffredinol

Mae'r adborth gan y rhai sydd ynghlwm yn uniongyrchol â'r broses, yn awgrymu rhwystredigaeth na chafodd 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' ei chyflawni o fewn yr amserlen wreiddiol, ond mae ymrwymiad yr aelodau staff presennol a'r cyfeiriad clir o ran yr hyn fydd yn cael ei gyflawni erbyn diwedd tymor y Senedd hon bellach yn cael ei ddeall yn glir gan y sawl sy'n gyfrifol. Ceir newid amlwg mewn cyflymder ac atebolrwydd clir.

Er bod y fenter wedi cymryd amser i ddechrau, ceir bellach ymrwymiad clir i'r nodau a osodwyd yn 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' ac mae cynnydd ac ymrwymiad clir gan yr Uned Penodiadau Cyhoeddus ac arweinwyr y Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae'n wir i ddweud bod y newid mewn personél allweddol, ac efallai dim digon o amlygrwydd mewnol/allanol i'r fenter pan gafodd ei lansio yn 2020, a chapasiti wedi'i ymestyn oherwydd pandemig COVID-19 wedi cyflwyno heriau wrth ddechrau ar y fenter. Nid oes amheuaeth y bydd aelod o staff dynodedig newydd ei benodi o fewn yr uned cyrff cyhoeddus yn gallu cefnogi a rhoi cyngor i swyddogion polisi a rhoi arweiniad a chymorth ar benodiadau cyhoeddus ac ar sut i wella cynrychiolaeth ar y Bwrdd mewn penodiadau yn y dyfodol i sicrhau cydymffurfiaeth ac ystyriaeth.

Er mwyn i'r fenter o ran penodi aelodau'r Bwrdd weithio, mae angen i'r holl fentrau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant unigol adrodd i un pwynt canolog. Bydd hyn yn gwella ffocws ac yn dangos ymrwymiad clir i fyrddau cynhwysol sy'n adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli yn well, ac yn ei dro, bydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus.

7. Cynnydd hyd yma

Crynodeb o gynnydd hyd yma yw'r rhestr ganlynol:

  • Mae fersiwn benodol i Gymru o'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus yn cael ei datblygu gyda Swyddfa'r Cabinet, gan sicrhau ei bod yn adlewyrchu anghenion datganoledig, gan gynnwys y Gymraeg ac uchelgeisiau diwygio.
  • Bydd un o uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru yn aelod o'r panel i benodi Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus nesaf y DU.
  • Mae tudalennau gwe newydd i'r cyhoedd wedi cael eu lansio yn ddiweddar, sy'n darparu arweiniad cliriach i ymgeiswyr, gan gynnwys deunyddiau newydd ar sgiliau trosglwyddadwy a chymorth i ymgeiswyr tro cyntaf sydd wedi'u cyhoeddi ar y tudalennau gwe newydd. Proses iteraidd yw hon, gyda rhagor o welliannau a chynnwys wedi'i ehangu wedi'i gynllunio yn ystod y misoedd nesaf.
  • Mae'r broses newydd ar gyfer craffu ar benodiadau cyhoeddus arwyddocaol wedi'i chadarnhau, gan sicrhau eglurder mewn gwrandawiadau cyn y penodiad.
  • Mae Grŵp Cyfeirio Cyrff Cyhoeddus a chyfarfodydd rheolaidd â thimau partneriaeth yn cryfhau cydweithredu mewnol.
  • Mae cylchlythyr y Tîm Partneriaeth yn fyw, gyda chyfarfodydd chwarterol yn ymgorffori ymgysylltiad.
  • Mae cyfarfodydd rheolaidd a drefnwyd gan y tîm Arweinyddiaeth a Llywodraethiant gyda Phrif Weithredwyr a Chadeiryddion wedi cryfhau cydweithredu allanol.
  • Mae canllawiau newydd ar greu byrddau cynhwysol mewn ymarfer wedi'u datblygu a'u rhannu gyda Chadeiryddion y Bwrdd. Mae'n darparu camau ymarferol ar gyfer gwerthfawrogi talent, lleihau rhagfarn ddiarwybod mewn penodiadau bwrdd a datblygu diwylliant bwrdd cynhwysol.
  • Penodi grŵp amrywiol o uwch-aelodau panel annibynnol
  • darparwyd hyfforddiant i oddeutu 22-24 o arweinwyr y dyfodol, lle cafodd gwybodaeth am aelodau'r bwrdd ei rhannu ac anogwyd darpar ymgeiswyr i gysylltu â'r tîm i drafod unrhyw addasiadau neu gymorth y gallai fod eu hangen arnynt drwy'r broses recriwtio.
  • Mae ymarfer mapio i randdeiliaid wedi'i gwblhau i hysbysu gweithgareddau allgymorth wedi'u targedu.
  • Mae'r rhaglen darpar aelodau bwrdd ym myd iechyd yn cael ei threialu cyn iddi gael ei mireinio a'i chyflwyno ar raddfa ehangach a chyn cysgodi swydd.
  • Hysbysebwyd swydd Allgymorth Penodiadau Cyhoeddus dynodedig, gyda phwyslais ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a chyrraedd ein cynulleidfaoedd targed, a nhw fydd yn gyrru cam nesaf y gwaith hwn
  • Mae tudalennau gwe cyhoeddus newydd wedi mynd yn fyw yn ddiweddar, gan ddarparu canllawiau clir i ymgeiswyr a gwybodaeth am hygyrchedd.
  • Bydd ffilmiau hyrwyddo ac astudiaethau achos llafar yn cefnogi ymgysylltiad a chyfranogiad ehangach.
  • Bydd adnoddau mewnol gan gynnwys tudalennau'r fewnrwyd, arweiniad gwell, pecynnau cymorth recriwtio a siartiau llif yn cefnogi cyflawniad cyson. 

Cynnydd yn erbyn y data sydd ar gael

Mae data CAIS yn dangos cynnydd cynaledig a sylweddol ar draws ystod o nodweddion:

  • Roedd 20.5% o'r rhai a benodwyd o gefndiroedd ethnig leiafrifol - O gymharu â chyfartaledd poblogaeth Cymru o 6.1%
  • Roedd 61.5% o'r rhai a benodwyd yn fenywod - Sy'n fwy na chyfartaledd poblogaeth Cymru o 50.1%
  • Nodwyd bod 12.8% o'r rhai a benodwyd yn anabl, sy'n welliant ar y ffigur diwethaf o 6.1% y rhoddwyd gwybod amdano.
  • Roedd 5.4% yn nodi eu bod yn LHDTC+ - sydd ychydig islaw'r ffigur o 9.4% o'r flwyddyn flaenorol – gall yr amrywiadau adlewyrchu cyfraddau hunanddatgelu.
  • Roedd gan 25.6% sgiliau Cymraeg lefel 4 neu 5 sy'n gyson ag uchelgeisiau Cymraeg 2050
  • Dywedodd 28.5% eu bod yn dod o gefndir economaidd-gymdeithasol is – dangosydd pwysig o gynhwysiant ehangach y tu hwnt i nodweddion gwarchodedig.

Mae'r data hyn yn dangos cynnydd wrth wella cynhwysiant penodiadau cyhoeddus. Mae'r cynnydd sylweddol mewn cynrychiolaeth ymhlith ymgeiswyr ethnig leiafrifol ac anabl, dau faes ffocws allweddol yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau cydraddoldeb ehangach yn rhoi anogaeth benodol i ni. Mae gallu'r iaith Gymraeg hefyd yn adlewyrchu disgwyliadau diwylliannol a dinesig llywodraethiant datganoledig.

Nid yw systemau casglu data presennol yn galluogi ar gyfer olrhain data ar ôl penodi, mae hyn yn gyfyngiad cydnabyddedig a bydd yr opsiynau i fynd i'r afael ag yn cael eu harchwilio fel rhan o'r diwygiadau i'r dyfodol, yn amodol ar alluedd a chost.

Mae estyn strategaeth 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' i fis Mai 2026 yn cynnig parhad wrth fynd i'r afael â'r bylchau hyn.

8. Casgliad a'r camau nesaf

Mae strategaeth 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' wedi'i hymestyn i fis Mai 2026, gan gynnal ymrwymiad clir i amrywiaeth a chynhwysiant wrth i ddull gweithredu a chapasiti'r dyfodol gael eu cwmpasu.

Er bod yr adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd yn erbyn yr adroddiad gwreiddiol a'r cynnydd a wnaed mewn perthynas ag adroddiad Pwyllgor PAPA, bydd y ffocws bellach yn troi ar yr hyn fydd yn digwydd o fis Mai 2026 ymlaen i sicrhau na chaiff arfer da a momentwm eu colli.

Y ffordd ymlaen a gynigir

Sefydlu Gweithgor i oruchwylio'r gwaith ar ôl mis Mai 2026

Nid oes amheuaeth bod adroddiad 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' wedi tynnu sylw at yr angen am fwy o amrywiaeth yn ein byrddau. Mae'r Adroddiad yn ystyried penodiadau a reoleiddir, ond dylai'r un egwyddorion fod yn gymwys hefyd i benodiadau cyhoeddus heb eu rheoleiddio.

Mae'r broses diwygio wedi cyflymu dros y chwe mis diwethaf. Mae gwelliannau amlwg eisoes yn cael eu cyflawni, sy'n cynnwys tudalennau gwe newydd, ffilmiau, adnoddau mewnol a thueddiadau amrywiaeth cadarnhaol.

Bydd yn bwysig cynnal y momentwm hwn ar ôl mis Mai 2026 ac adeiladu ar y gwaith da diweddar, a cheir trawsnewid di-dor i'r cam nesaf.

Felly, rwy'n argymell y dylid sefydlu Gweithgor o fis Ionawr 2026. Tasg gyntaf y Gweithgor fyddai goruchwylio'r trawsnewid cyn/ar ôl mis Mai 2026 i sicrhau bod egwyddorion 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' yn cael eu cyflawni mewn modd di-dor a'u monitro. Byddai'r rhain yn cael eu trosglwyddo i'r gweithgor er mwyn sicrhau goruchwyliaeth a monitro agos wrth symud ymlaen.

Byddai atebolrwydd ar gyfer y Gweithgor yn aros gyda'r Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd. Byddai gan y grŵp drawstoriad o gynrychiolwyr i sicrhau bod yr holl faterion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cael eu cynrychioli gan y gweithgor. Er y byddai'r grŵp yn canolbwyntio ar benodiadau cyhoeddus a reoleiddir, byddai penodiadau heb eu rheoleiddio'n dod o fewn ei gylch gorchwyl hefyd.

Gan fod nifer y penodiadau a reoleiddir yn gyfyngedig, gallai'r Gweithgor oruchwylio rhaglen gymorth ar gyfer penodiadau cyhoeddus, yn ogystal â rhaglen arweinyddiaeth i sicrhau cyflenwad o ymgeiswyr i'r dyfodol.

Byddai'r gweithgor yn cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru er mwyn trafod cynnydd, ac yn rhannu cynnydd gyda Gweinidogion, er mwyn cydnabod perchenogaeth y Gweinidogion a Llywodraeth Cymru yn ffurfiol.

Cyd-greu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid

Er mwyn llywio cam nesaf 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru', galwodd tîm Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru Ddigwyddiad Cyd-greu cenedlaethol yn Stadiwm y Principality, Caerdydd ym mis Tachwedd 2025. Daeth y digwyddiad â mwy na 60 o gynrychiolwyr ynghyd, gan gynnwys darpar aelodau a chadeiryddion bwrdd ac aelodau a chadeiryddion presennol, sefydliadau cydraddoldeb a chynhwysiant, rhanddeiliaid, arweinwyr cymunedol, arweinwyr cyrff cyhoeddus a swyddogion Llywodraeth Cymru. Ei ddiben oedd nodi rhwystrau yn gydweithredol, rhannu profiadau bywyd, a llunio datrysiadau ymarferol i wneud y broses penodiadau cyhoeddus yn fwy cynhwysol, tryloyw a chynrychioliadol o gymunedau Cymru.

Er bod yr adborth llawn o'r sesiynau grŵp yn parhau i gael ei ddadansoddi, mae myfyrdodau cynnar yn dangos consensws cryf o ran yr angen am gyfathrebu cliriach, hygyrchedd gwell a phroses recriwtio fwy tryloyw, sy'n canolbwyntio ar y defnyddwyr. Gwnaeth y cynrychiolwyr hefyd dynnu sylw at bwysigrwydd datblygu cyflenwad cynaliadwy o dalent, gan gryfhau'r cymorth i ymgeiswyr tro cyntaf, a sicrhau cyflawniad dwyieithog cyson ar draws pob cam recriwtio. Bydd canfyddiadau'r digwyddiad hwn yn llywio dyluniad y cynllun strategol newydd a fydd yn olynu 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' yn uniongyrchol o fis Mai 2026, gan sicrhau y caiff ei gyd-lunio â rhanddeiliaid a'i seilio ar dystiolaeth o ran yr hyn sy'n gweithio.

Crynodeb o'r camau gweithredu allweddol

  • Penodi Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd fel UBC i oruchwylio'r gwaith ac i fod yn atebol am gyflawni strategaeth 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru'
  • Sefydlu Gweithgor o fis Ionawr 2026 ymlaen i sicrhau proses drosglwyddo esmwyth ar ôl 2026 i Gam 2 a darparu pwynt canolog i ddarparu proses lywodraethu a monitro gadarn wrth symud ymlaen
  • Archwilio opsiynau i gryfhau'r gwaith casglu a monitro data mewn systemau presennol, gan gyfrannu at ddyluniad System Olrhain Ymgeiswyr newydd Llywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn bodloni'r gofynion Penodiadau Cyhoeddus.
  • Sicrhau parhad trwy drosglwyddo camau gweithredu ac argymhellion presennol 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' i'r Gweithgor, gan ddefnyddio'r rhain fel sylfaen ar gyfer cyd-ddylunio'r cam nesaf gyda rhanddeiliaid.
  • Rhoi arweiniad i swyddogion polisi ar egwyddorion a gwersi recriwtio cynhwysol a ddysgwyd o 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru', gan sicrhau cysondeb â'r dull strategol newydd ar ôl mis Mai 2026.
  • Meithrin amrywiaeth a chynhwysiant yn niwylliant y bwrdd, gan rannu astudiaethau achos ac arferion gorau ar benodiadau cynhwysol drwy sianelau presennol (e.e., tudalennau gwe) ac annog rhwydweithiau'r Cadeiryddion i arwain trafodaethau ar ymgorffori amrywiaeth yn niwylliant byrddau.
  • Cadw croestoriadedd  fel uchelgais ar gyfer monitro a llunio adroddiadau i'r dyfodol, gan gydnabod cyfyngiadau presennol y system ac archwilio opsiynau i ymgorffori hyn yn y cam nesaf. 
  • Parhau i hyrwyddo'r canllawiau ymarferol newydd i Gadeiryddion Byrddau a ddatblygwyd i gefnogi arweinyddiaeth gynhwysol yn dilyn adborth o'r Rhwydwaith Cadeiryddion Byrddau a monitro eu heffaith, gan sicrhau bod y canllawiau yn hygyrch ac yn cael eu hyrwyddo gan Academi Wales a Thimau Partneriaeth.
  • Parhau i edrych ar ffyrdd o ehangu'r cyflenwad ar gyfer aelodaeth o fyrddau a rolau arwain ehangach.
  • Parhau i gyd-fynd ag uchelgeisiau ehangach Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol lle mae'r bennod ‘Arweinyddiaeth a Chynrychiolaeth’ yn nodi disgwyliadau clir i gyrff cyhoeddus gymell newid diwylliannol trwy benodiadau cynhwysol.

Gan adeiladu ar y gwerthusiad a'r mewnwelediadau sy'n dod i'r golwg o'r Digwyddiad Cyd-greu, gallai sawl cam gweithredu pellach gryfhau cyflawniad yng ngham nesaf 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru'.

  • Datblygu Fframwaith Recriwtio Penodiadau Cyhoeddus Cymru i sefydlu safonau a phrosesau clir a chyson ar gyfer pob penodiad cyhoeddus, gan ymgorffori cynhwysiant, tryloywder ac atebolrwydd ar draws adrannau.
  • Cyflwyno proses asesu newydd, modern a chynhwysol sy'n cydnabod sgiliau trosglwyddadwy, profiadau bywyd a photensial i arwain yn well. Dylid dylunio hyn i wella profiad yr ymgeisydd drwy arweiniad cliriach, fformatau hygyrch a dulliau asesu sy'n adlewyrchu ystod ehangach o gryfderau wrth gynnal trylwyredd a thegwch.
  • Hyfforddiant gorfodol i bob aelod o'r panel a phob Cadeirydd er mwyn sicrhau dull cyson, cynhwysol a thryloyw i recriwtio ac asesu ar draws pob penodiad cyhoeddus.
  • Ehangu Rhaglen Darpar Aelodau'r Bwrdd y tu hwnt i'r sector iechyd er mwyn cynnwys pob corff cyhoeddus a reoleiddir, gyda sail cynrychiolwyr ehangach a mwy cynrychioliadol, sy'n cefnogi unigolion o ystod eang o gefndiroedd, gan gynnwys pobl iau, pobl anabl, siaradwyr Cymraeg, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a phobl o gymunedau Du, Asiaidd, Ethnig Leiafrifol a Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Gweithredu System Olrhain Ymgeiswyr modern er mwyn galluogi proses casglu a dadansoddi data o un pen i'r llall, gan gynnwys croestoriadedd, gallu yn y Gymraeg, cefndir economaidd-gymdeithasol, a phrofiad yr ymgeiswyr o'r cais i'r penodiad. Dylai'r system hefyd alluogi aelodau'r bwrdd i ddiweddaru eu manylion yn ddiogel ar ôl penodi, gan sicrhau bod y data yn parhau i fod yn gyfredol a'u bod yn adlewyrchu'r aelodau sy'n gwasanaethu. Yn ogystal, dylai gefnogi'r broses o lunio rhestr fer ddienw, safonau dylunio hygyrch ac adroddiadau awtomataidd i wella tryloywder, atebolrwydd a monitro tymor hir. Bydd gwireddu'r cam gweithredu hwn yn gofyn am gyllideb ddynodedig a chymorth arbenigol i gwmpasu, caffael a rhoi'r system ar waith yn effeithiol
  • Moderneiddio deunyddiau a phecynnau ymgeiswyr i sicrhau iaith gynhwysol, dyluniad hygyrch a gwybodaeth gliriach am y broses recriwtio, y disgwyliadau a'r cymorth sydd ar gael – gan gynnwys canllawiau i ymgeiswyr tro cyntaf a'r rhai y mae angen addasiadau arnynt.
  • Natur weladwy a modelau rôl – arddangos modelau rôl byrddau amrywiol trwy astudiaethau achos dwyieithog, ffilmiau byrion a digwyddiadau rhanbarthol er mwyn normaleiddio a dyneiddio aelodaeth byrddau, gan helpu i ysbrydoli pobl eraill a chodi ymwybyddiaeth o benodiadau cyhoeddus fel cyfleoedd hygyrch a gwerth chweil.
  • Ehangu allgymorth ac ymgysylltu er mwyn gwneud cyfleoedd am benodiadau cyhoeddus yn weladwy, yn hygyrch ac yn ddibynadwy ledled Cymru. Ffocws ar fynychu digwyddiadau rhanbarthol, meithrin cydberthnasau â rhwydweithiau cymunedol, a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy'n cyrraedd cynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol. Cyd-ddylunio gweithgareddau mentora a chymorth lle y bo'n ddefnyddiol, gan sicrhau hygrededd a pherchnogaeth ar y cyd, gyda'r nod o gynyddu cyfranogiad, ymwybyddiaeth a hyder ymhlith cynulleidfaoedd newydd.