Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno damcaniaeth newid ar gyfer y diwygiadau, yn crynhoi canfyddiadau o synthesis o’r dystiolaeth bresennol ar weithredu’r system ADY, ac yn nodi’r cynlluniau a'r blaenoriaethau ar gyfer camau nesaf y gwerthusiad.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cam cyntaf y gwerthusiad pedair blynedd o'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae'r theori newid yn un o brif flaenoriaethau'r adroddiad.

Mae'n egluro sut y bwriedir i'r system ADY gyflawni ei nodau a'i hamcanion, drwy nodi'r mewnbynnau, y gweithgareddau, y deilliannau a'r effeithiau disgwyliedig yn glir, yn ogystal â'r cysylltiadau tybiedig rhyngddynt. Bydd y theori newid yn llywio'r dull gweithredu ar gyfer y gwerthusiad, yn cefnogi'r gwaith o ddylunio offer ymchwil, ac yn darparu pwynt cyfeirio er mwyn fframio canfyddiadau'r gwerthusiad. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi canfyddiadau’r broses mapio data, gan amlinellu'r ffynonellau data sydd ar gael ar hyn o bryd er mwyn gallu archwilio'r mewnbynnau, y gweithgareddau, y deilliannau a'r effeithiau a nodir yn y theori newid. Mae'r cyfuniad o dystiolaeth bresennol mewn perthynas â gweithredu'r system ADY yn nodi materion y mae angen rhoi sylw arbennig iddynt yn ystod gwaith maes gydag ymarferwyr, rhanddeiliaid, dysgwyr, rhieni a gofalwyr fel rhan o gamau nesaf y gwerthusiad.

I gloi, gan fanteisio ar ganfyddiadau'r cam cwmpasu, mae'r adroddiad yn nodi'r cynlluniau a'r blaenoriaethau ar gyfer camau nesaf y gwerthusiad.

Adroddiadau

Cyswllt

Laura Bloomfield

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.