Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg o rieni a gofalwyr am eu profiadau o'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae'r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau arolwg o rieni a gofalwyr a gynhaliwyd fel rhan o werthusiad 4 blynedd o'r system ADY. Cynhaliwyd yr arolwg ym mis Mawrth ac Ebrill 2025, gan archwilio barn rhieni a gofalwyr ar nifer o bynciau, gan gynnwys:
- cynlluniau datblygu unigol
- gwybodaeth ac arweiniad ar y system ADY
- adnabod ADY
- cyfarfodydd cynllunio sy'n canolbwyntio ar y person
- darpariaeth ddysgu ychwanegol
- boddhad gyda'r system ADY
