Neidio i'r prif gynnwy

Nod y rhaglen Cymraeg i Blant yw cynyddu nifer y plant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

Ei hamcanion yw cefnogi rhieni, darpar rieni ac aelodau teulu eraill wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y cartref, trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant, a chefnogi datblygiad ieithyddol plant, mewn cyd-destun cymdeithasol ac addysgol.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnig trosolwg o’r canfyddiadau cychwynnol o ran gweithredu’r rhaglen.

Cyflwynir y canfyddiadau hyn, sy’n seiliedig ar waith maes a gwblhawyd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2018, dan chwe thema:

  • nodau ac amcanion y rhaglen
  • y gynulleidfa darged
  • gweithgareddau’r rhaglen
  • ardaloedd daearyddol
  • strwythurau a phrosesau
  • cynllunio strategol.

Mae cynulleidfa darged y rhaglen yn eang, ac yn cynnwys pob math o deuluoedd, waeth beth fo’u cefndir ieithyddol a’u bwriadau o ran trosglwyddo a defnyddio’r Gymraeg. Yn ôl y dystiolaeth sydd wedi ei chasglu hyd yma, mae’r gynulleidfa a gyrhaeddwyd yn amrywio o ardal i ardal, a gall amrywio o wythnos i wythnos wrth i deuluoedd newydd ymuno a gadael.

Mae adborth gan rieni ar y gweithgareddau a gynigir wedi bod yn gadarnhaol iawn o ran lleoliadau, amseru a natur y gweithgareddau. Mae’r adroddiad yn cynnig peth gwybodaeth ynghylch sut mae’r rhaglen yn datblygu ei waith ar y cyd gydag amrywiaeth o bartneriaid. Roedd canfyddiad ymhlith staff y rhaglen bod rhai heriau a rhwystrau’n bodoli a oedd yn cyfyngu ar weithio mewn partneriaeth mewn rhai ardaloedd – sef yr amser sydd ar gael i staff, a chapasiti a hefyd parodrwydd sefydliadau partner i weithio mewn partneriaeth.

Adroddiadau

Gwerthusiad proses o’r rhaglen Cymraeg i Blant: canfyddiadau cychwynnol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 472 KB

PDF
472 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Catrin Redknap

Rhif ffôn: 0300 025 5720

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.