Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yr adroddiad hwn yw'r gwerthusiad terfynol o’r elfennau o raglen Sêr Cymru II a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), a oedd yn cwmpasu'r cyfnod o fis Rhagfyr 2015 tan fis Mehefin 2023 [troednodyn 1]. Nod y rhaglen oedd cynyddu capasiti ymchwil yn gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM) yn Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) Cymru a datblygu sylfaen wyddoniaeth gryfach yng Nghymru.  Fe wnaeth hyn drwy ddenu doniau o safon fyd-eang a darparu cymorth wedi'i dargedu i helpu SAU i adeiladu capasiti ymchwil.   Ariannodd y rhaglen nifer o wahanol wobrau wedi’u targedu at ymchwilwyr ar wahanol gamau yn eu gyrfa, gan gynnwys:

  • 30 o Gymrodyr Ymchwil: wedi'u hanelu at ymgeiswyr 3-5 mlynedd ar ôl iddynt gwblhau Doethuriaeth
  • 4 Cymrawd Meddygaeth Fanwl: tebyg i Gymrodyr Ymchwil ond wedi'u hanelu'n benodol at ymchwil sy'n ymwneud â meddygaeth fanwl
  • 10 o Sêr y Dyfodol: gwobrau cystadleuol o fri, wedi'u cynllunio i ddenu 'sêr y dyfodol' gorau'r byd ymchwil academaidd
  • 3 Cymrodoriaeth Adfeddiannu Doniau: roedd y rhain yn darparu cymorth i ymchwilwyr disglair a oedd yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant gyrfa
  • 5 pecyn Cadair Ymchwil: nod y rhain oedd denu’r uwch ymchwilwyr academaidd gorau i Gymru a sefydlu grwpiau ymchwil newydd

Ym mis Medi 2019, llwyddodd Llywodraeth Cymru i gael cyllid ychwanegol i ehangu Sêr Cymru II. Roedd y cyfleoedd cyllido newydd hyn yn cynnwys Cadair Ymchwil ychwanegol ym Mhrifysgol Aberystwyth, pum Cymrodoriaeth Ddiwydiannol gyda’r nod o gryfhau’r berthynas rhwng ymchwilwyr academaidd Cymru a phartneriaid diwydiannol [troednodyn 2], 19 o Wobrau Cyflymu yn canolbwyntio ar adeiladu capasiti ymchwil mewn meysydd strategol (e.e. staff ymchwil neu gyfarpar cyfalaf) neu greu partneriaethau â phrifysgolion eraill, a chyllid ychwanegol i gefnogi tri Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Cymru, a ariannwyd yn wreiddiol drwy Rwydwaith Sêr Cymru (Gwyddorau Bywyd), Rhwydwaith Ynni a'r Amgylchedd Carbon Isel, a'r Rhwydwaith Peirianneg a Deunyddiau Uwch).

Nodau a Methodoleg yr Ymchwil

Nodau'r gwerthusiad hwn oedd:

  • adolygu cydweddiad strategol y rhaglen a’r angen am raglenni yn y dyfodol sy’n adeiladu ar ganlyniadau Sêr Cymru II ac yn eu gwella 
  • asesu a gyflawnodd Sêr Cymru II ddangosyddion, nodau ac amcanion ERDF a nodir yn y cynllun busnes
  • asesu effeithiolrwydd prosesau rheoli, cyflawni a monitro'r rhaglen
  • asesu llwyddiant Sêr Cymru II o ran cyflawni’r amcanion a osodwyd ar gyfer Themâu Trawsbynciol WEFO
  • asesu effeithiau’r rhaglen ar ansawdd a chapasiti ymchwil yng Nghymru, gan gynnwys dadansoddiad gwrthffeithiol
  • darparu argymhellion ar gyfer rhaglenni'r dyfodol

Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau ymchwil gan gynnwys adolygu dogfennau, dadansoddi data monitro ac adroddiadau cynnydd, dau arolwg o dderbynyddion grantiau (arolwg o gyrchfannau a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ac arolwg ar-lein a gynhaliwyd gan Hatch), ymgyngoriadau lled-strwythuredig gyda 30 o randdeiliaid a 32 o dderbynyddion grantiau, a dadansoddiad gwrthffeithiol o effaith Sêr Cymru II ar incwm ymchwil, cyhoeddiadau ymchwil a chyfeiriadau at waith ymchwil.

Canfyddiadau allweddol

Yr angen am y rhaglen Sêr Cymru

Canfu'r gwerthusiad fod yr heriau yr oedd y rhaglen Sêr Cymru II wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â nhw (h.y. y gyfran gymharol isel o incwm ymchwil y DU a staff ymchwil sy'n cael eu denu gan SAU Cymru) yn parhau. Dengys y data diweddaraf fod Cymru dal ond yn cyfrif am 3.6% o incwm ymchwil STEMM y DU a 3.9% o staff ymchwil STEMM; mae'r ddau ffigur hwn yn is na'r targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru (5%).

Er nad yw Sêr Cymru II wedi cau’r bwlch cyffredinol mewn cyllid ymchwil, ni fu hynny erioed yn ganlyniad realistig (neu ddisgwyliedig) ar gyfer y rhaglen o ystyried maint y buddsoddiad.  Pan fydd y gwaith dadansoddi'n canolbwyntio mwy ar y meysydd pwnc sydd wedi cael cymorth drwy’r rhaglen, ceir tystiolaeth bod hyn wedi eu helpu i gynyddu eu hincwm ymchwil yn gyflymach na sefydliadau cymaradwy a chynyddu eu cyfran o incwm ymchwil y DU [troednodyn 3].

Fodd bynnag, mae amrywiad sylweddol yn swm yr incwm ymchwil a sicrhawyd ar draws y rhaglen, ac mae'r perfformiad cyffredinol cryf i'w briodoli i nifer bach o wobrau.  O ystyried bod llai o gyllid yn debygol o fod ar gael, awgryma y bydd angen i rowndiau’r rhaglen yn y dyfodol fod yn fwy dethol nag ar gyfer Sêr Cymru II a chanolbwyntio ar nifer llai o fuddsoddiadau sy’n cynnig y potensial mwyaf i gael effaith gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.

Cydweddiad strategol Sêr Cymru II

Mae’r cyd-destun polisi yng Nghymru a’r DU yn parhau i fod yn gefnogol iawn i nodau Sêr Cymru II, gan gynnwys cyfeiriadau penodol at y rhaglen yn Strategaeth Arloesi ddiweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyson â pholisi Llywodraeth y DU i gynyddu buddsoddiad yn y maes Ymchwil, Datblygu ac Arloesi y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr.

Mae'r polisïau diweddar yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i fuddsoddiad cyhoeddus mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesi fod yn fwy strategol, meddu ar fwy o ffocws masnachol a chanolbwyntio mwy ar nodau. Os yw Cymru am barhau i fod yn gystadleuol mewn perthynas â chyfleoedd cyllido'r DU, wrth fuddsoddi, bydd angen canolbwyntio felly ar feysydd lle mae Cymru’n gystadleuol yn rhyngwladol, lle y gall gyfrannu at flaenoriaethau cenedlaethol, a lle mae potensial amlwg i sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol. Er y rhoddwyd rhywfaint o ystyriaeth i’r ffactorau hyn yn Sêr Cymru II, ariannodd y rhaglen ystod eang o wobrau nad oedd cyfatebiaeth glir rhwng llawer ohonynt a grwpiau ymchwil presennol ac nid oeddent ychwaith yn adeiladu ar gryfderau cydnabyddedig. Mae hyn hefyd yn awgrymu y bydd angen i rowndiau Sêr Cymru yn y dyfodol fod yn fwy dethol a strategol na Sêr Cymru II.

Perfformiad yn erbyn targedau'r cynllun busnes

Dengys y gwerthusiad hwn fod Sêr Cymru II wedi cyrraedd bron pob un o’r targedau yn y cynllun busnes yn llwyddiannus, ac wedi rhagori'n sylweddol arnynt mewn sawl achos. Mae hyn yn cynnwys y targed ar gyfer incwm ymchwil (£78.8 miliwn [troednodyn 4] o gymharu â tharged o £45 miliwn) a nifer yr ymchwilwyr newydd mewn sefydliadau a gefnogir (179 o gymharu â tharged o 102), sy'n ymwneud â phrif amcanion y rhaglen. 

Ni osododd y cynllun busnes dargedau penodol ar gyfer pob un o’r gwahanol fathau o wobrau, ond dengys y data monitro fod Cadeiriau Ymchwil wedi perfformio’n arbennig o dda ac wedi cyfrif am y rhan fwyaf o’r allbynnau a gyflawnwyd ar gyfer nifer o ddangosyddion (wedi’u hysgogi gan berfformiad cryf tri deiliad Cadair Ymchwil), gan gynnwys incwm ymchwil a phartneriaid yn cydweithio ar brosiect ymchwil. Hefyd, cynhyrchodd y Cymrodyr Ymchwil nifer sylweddol o gyhoeddiadau ymchwil a ragorodd ar ddisgwyliadau’r cynllun busnes [troednodyn 5] (er y gellid dadlau bod diffyg uchelgais o ran y disgwyliadau hyn). 

Awgryma'r data monitro fod gwobrau SCII+ hefyd wedi perfformio'n dda er gwaethaf yr heriau a gododd yn sgil y pandemig Covid. Mae rhywfaint o ansicrwydd ynghylch faint o incwm ymchwil a phrosiectau cydweithredol â phartneriaid a sicrhawyd drwy'r gwobrau hyn, oherwydd canfuwyd bod nifer fawr yn anghymwys neu nid oedd ganddynt y dystiolaeth sy’n ofynnol gan WEFO ac felly ni chawsant eu hawlio. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion ymddengys fod hyn i'w briodoli i resymau gweinyddol ac mae tystiolaeth dda i awgrymu bod yr allbynnau a hawliwyd drwy WEFO yn tangofnodi cyflawniadau'r gwobrau hyn.

Effeithiau Sêr Cymru II

Mae’r gwerthusiad wedi asesu effeithiau Sêr Cymru II gan ddefnyddio’r fethodoleg a argymhellwyd yn y gwerthusiad cychwynnol.  Defnyddiwyd dulliau gwahanol i asesu canlyniadau gwahanol. Roedd hyn yn cynnwys y canlynol.

  • Defnyddiwyd ymarfer meincnodi i asesu effeithiau gwobrau gwreiddiol Sêr Cymru II ar incwm ymchwil a staff ymchwil.  Roedd hyn yn cymharu’r newid yn nifer y staff ymchwil/incwm ymchwil yn y meysydd pwnc hynny sydd wedi cael cymorth drwy Sêr Cymru II â’r newid yn yr un maes pwnc mewn sefydliadau tebyg [troednodyn 6]. Nodwyd sefydliadau tebyg ar sail eu safle yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ac incwm ymchwil llinell sylfaen ar gyfer y maes pwnc perthnasol. Nid yw hwn yn ddull gwrthffeithiol cadarn ond ystyriwyd mai hwn oedd yr un mwyaf ymarferol o ystyried y data sydd ar gael.  Yna cafodd y canfyddiadau eu triongli â chanfyddiadau o feysydd ymchwil eraill gan gynnwys dadansoddiad o ddata monitro a chyfweliadau â derbynyddion grantiau a rhanddeiliaid.
  • Defnyddiwyd dadansoddiad gwrthffeithiol o effaith i asesu effeithiau Sêr Cymru II ar faint, ehangder ac ansawdd yr ymchwil a wneir gan gymrodyr [troednodyn 7]. Nodwyd grŵp rheoli o ymchwilwyr tebyg ar sail eu nodweddion (gan gynnwys eu rhyw, eu profiad, eu diddordebau ymchwil a nifer y cyhoeddiadau ymchwil cyn i Sêr Cymru II ddechrau). Yna cymharwyd perfformiad cymrodyr Sêr Cymru II yn erbyn nifer o newidynnau o ran y canlyniadau â'r grŵp rheoli dros amser. Mesurodd hyn y gwahaniaeth rhwng y cyfartaleddau ar gyfer dau gyfnod amser; y cyfartaledd cyn y driniaeth ar gyfer y cyfnod 2012-2015 a’r cyfartaledd ar ôl y driniaeth ar gyfer 2016-2022.  Os yw'r gwahaniaeth rhwng y cyfartaledd cyn y driniaeth a'r cyfartaledd ar ôl y driniaeth yn uwch ar gyfer y grŵp triniaeth na'r grŵp rheoli, a bod y gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol, gellir tybio bod modd priodoli'r gwahaniaeth i Sêr Cymru II.
  • Defnyddiwyd dulliau'n seiliedig ar ddamcaniaeth i asesu'r effeithiau ar ddatblygiad personol a datblygiad gyrfa ymchwilwyr a holl effeithiau gwobrau SCII+. Defnyddiwyd amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth gan gynnwys data monitro, arolygon a chyfweliadau â derbynyddion grantiau. Defnyddiwyd y rhain i asesu a yw’r canlyniadau disgwyliedig a nodir yn y ddamcaniaeth newid wedi cael eu gwireddu, ac i ba raddau y gellir priodoli’r rhain i Sêr Cymru II.

Canfu'r gwerthusiad fod Sêr Cymru II wedi cael nifer o effeithiau cadarnhaol.

  • Mae incwm ymchwil mewn meysydd pwnc a gafodd gymorth drwy Sêr Cymru II (e.e. biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe a pheirianneg ym Mhrifysgol Bangor) wedi tyfu’n gyflymach na’r un meysydd pwnc mewn sefydliadau tebyg ac yn gyflymach na chyfartaledd y DU. Er bod rhai cyfyngiadau i’r dadansoddiad hwn, awgryma fod Sêr Cymru II wedi cael effaith ychwanegol ar incwm ymchwil na fyddai wedi digwydd yn absenoldeb y rhaglen. Ategir hyn gan dystiolaeth o'r ymgynghoriad, yn enwedig o ran Cadeiriau Ymchwil a rhanddeiliaid o’r sefydliadau a wnaeth eu lletya, a dywedodd pob un ohonynt na fyddai’r cynnydd mewn incwm ymchwil wedi bod yn bosibl heb gyllid Sêr Cymru II.
  • Cafodd Sêr Cymru II effaith ychwanegol sylweddol a chadarnhaol ar nifer y cyhoeddiadau ymchwil gan gymrodyr a gefnogwyd [troednodyn 8].  Cynyddodd nifer cyfartalog y cyhoeddiadau blynyddol gan gymrodyr Sêr Cymru II o 1.5 cyn y rhaglen i 2.8 ar ôl y rhaglen, sef cynnydd o 1.3.  Roedd hyn yn sylweddol uwch na'r cynnydd ar gyfer y grŵp rheoli (+0.1).  Awgryma hyn mai effaith ychwanegol Sêr Cymru II oedd 1.2 cyhoeddiad y flwyddyn fesul ymchwilydd (1.3-0.1).
  • Ceir rhywfaint o dystiolaeth bod y rhaglen wedi cynyddu ehangder y meysydd pwnc a gwmpesir gan waith ymchwil cymrodyr (gan awgrymu bod mwy o drefniadau gweithio rhyngddisgyblaethol). Aseswyd hyn drwy fesur nifer cyfartalog y meysydd pwnc y mae cyhoeddiadau cymrodyr wedi ymddangos ynddynt ar gyfer y cyfnodau cyn ac ar ôl y driniaeth a chyfrifo'r gwahaniaeth. O ran cymrodyr Sêr Cymru II, y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfnod oedd +2.6, sy'n golygu bod eu cyhoeddiadau'n ymdrin ag ystod ehangach o bynciau ar ôl Sêr Cymru II na chyn y rhaglen.  Fodd bynnag, o ran y grŵp rheoli, y gwahaniaeth oedd -0.2, sy'n golygu bod ehangder eu hymchwil wedi aros yr un fath yn gyffredinol. Amcangyfrifwyd mai effaith ychwanegol y rhaglen oedd +2.8 maes pwnc fesul ymchwilydd (2.6 - (-0.2)). Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus gyda'r canfyddiad hwn gan fod nifer y meysydd pwnc a gwmpesir gan gyhoeddiadau ymchwil cymrodyr Sêr Cymru II eisoes yn cynyddu'n gyflymach na'r grŵp rheoli cyn i'r rhaglen ddechrau, ac felly gellid ei esbonio gan ffactorau eraill. 
  • Ceir tystiolaeth gymysg am effaith y rhaglen ar ansawdd ymchwil y cymrodyr.  Cafodd y rhaglen effaith sylweddol a chadarnhaol ar nifer y cyhoeddiadau mewn cyfnodolion sydd yn y 10% uchaf yn ôl CiteScore. Er bod y cynnydd yn nifer yr erthyglau a oedd yn y chwartel uchaf ar gyfer cyfeiriadau hefyd yn fwy na'r grŵp rheoli, nid oedd y gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol.  Yn yr un modd, nid oedd unrhyw wahaniaeth arwyddocaol yn y newid yng nghyfran yr allbynnau yn y cyfnodolion gorau na'r allbynnau yn y chwartel uchaf ar gyfer cyfeiriadau. 

Canfu'r gwerthusiad mai effaith gymedrol yn unig a gafodd Sêr Cymru II ar gapasiti ymchwil.  Er bod 180 o ymchwilwyr newydd wedi’u recriwtio fel rhan o’r rhaglen, ym mis Rhagfyr 2023, dim ond 74 oedd dal i gael eu cyflogi gan y sefydliad a fu'n eu lletya (cyfradd gadw o 41%). Roedd y gyfradd gadw ar ei hisaf ym Mhrifysgol Abertawe (22%) ac ar ei huchaf ym Mhrifysgol Aberystwyth (78%).  Mae’r ansicrwydd ynghylch y rhesymau dros yr amrywiad, ond mae’n debygol o gael ei esbonio gan y graddau yr oedd ymchwilwyr yn cyd-fynd â grwpiau ymchwil â ffrydiau incwm cynaliadwy ac wedi’u hintegreiddio iddynt.  Nododd ymgyngoreion o Brifysgol Abertawe fod gormod o gymrodyr nad oeddent wedi cael eu hintegreiddio'n dda ac, o'r herwydd, nad oedd neb yn eu goruchwylio ac nad oedd ganddynt rwydwaith cefnogol. Gadawodd llawer o'r rhain ar ôl i gyfnod y grant ddod i ben. 

Disgrifiodd sawl ymgynghorai yr anhawster o gadw ymchwilwyr o safon ar ôl i’r cyfnod cyllido ddod i ben, gan gyfeirio at y pwysau parhaus ar gyllid prifysgolion ar ôl y pandemig a’r ansicrwydd ynghylch dyfodol Sêr Cymru. Arweiniodd hyn at nifer o ymchwilwyr yn gadael a chyfyngiadau ar recriwtio yn y dyfodol. Nodwyd hefyd bod nifer o'r rhai sydd wedi aros yn y sefydliadau a oedd yn eu lletya wedi gwneud hynny mewn rolau darlithio neu rolau darlithio ac ymchwil cyfunol.

Effeithiolrwydd prosesau rheoli, cyflawni a monitro'r rhaglen

Er bod gwaith caled, ymroddiad a hyblygrwydd tîm cyflawni Llywodraeth Cymru wedi’u cydnabod, mae’n amlwg bod bwlch sylweddol rhwng gofynion gweinyddol y rhaglen a’r adnoddau sydd ar gael o fewn y tîm cyflawni. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid neilltuo adnoddau ar gyfer gweinyddu'r rhaglen, ac roedd hynny ar draul cynyddu effaith strategol Sêr Cymru II i'r eithaf ac ymgysylltu â’r ymchwil wyddonol a ariannwyd. Gwaethygwyd hyn gan ymadawiad y Prif Gynghorydd Gwyddonol a'r rheolwr prosiectau gwreiddiol, sef dau o'r bobl a oedd wedi chwarae rhan allweddol yn nyluniad a momentwm cynnar y rhaglen. 

Roedd y ffocws ar weinyddu’n golygu mai prin oedd y gwaith dilynol a wnaed ar adroddiadau cynnydd a chafwyd llai o gyfarfodydd gyda Sêr y Dyfodol a Chadeiriau Ymchwil ar ôl cyfnodau cynnar y rhaglen. Roedd hyn yn golygu nad oedd gan Lywodraeth Cymru drosolwg strategol o ba wobrau oedd yn perfformio’n gryf a pha rai nad oeddent yn gwneud cystal, pa gymorth pellach yr oedd ei angen a sut y gellid cynyddu'r manteision i'r eithaf. Mae hyn hefyd yn golygu ei bod yn debygol bod cyfleoedd wedi'u colli i ddathlu llwyddiannau a chyflawniadau Sêr Cymru II a chodi proffil gwyddoniaeth Cymru. 

Yn olaf, mae’n amlwg na chafodd nifer o ymchwilwyr gyrfa gynnar gefnogaeth ddigonol gan y prifysgolion a oedd yn eu lletya yn ystod eu cymrodoriaeth Sêr Cymru a oedd yn golygu bod llawer yn teimlo’n ynysig. Yn gyffredinol, ymddengys fod y cymrodyr hynny a oedd wedi'u hintegreiddio i grwpiau ymchwil presennol wedi cael gwell cefnogaeth na'r rhai nad oeddent yn y sefyllfa honno. Bydd angen i rowndiau Sêr Cymru yn y dyfodol roi mwy o ystyriaeth i sut y caiff ymchwilwyr gyrfa gynnar eu hintegreiddio a’u cefnogi.

Cyfraniadau at y Themâu Trawsbynciol

Roedd prif gyfraniad Sêr Cymru II at y Themâu Trawsbynciol fel a ganlyn.

  • Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd: Cynlluniwyd y cymrodoriaethau Adfeddiannu Doniau i helpu ymchwilwyr disglair i ailddechrau eu gyrfaoedd yn y byd academaidd ar ôl seibiant gyrfa. Roeddent felly'n addas ar gyfer menywod a oedd yn dymuno ailymuno â'r byd academaidd ar ôl cyfnod o beidio â bod y rhan o'r gweithlu (e.e. yn dechrau teulu/magu teulu). Hefyd, cymerodd y rhaglen nifer o gamau i sicrhau nad oedd ymgeiswyr dan anfantais oherwydd eu nodweddion gan gynnwys rhyw, cefndir ethnig, cyfeiriadedd rhywiol neu gefndir economaidd-gymdeithasol. Er na chyrhaeddodd y rhaglen ei tharged ar gyfer cymrodoriaethau Adfeddiannu Doniau, fe gyrhaeddodd ei tharged ar gyfer sicrhau bod o leiaf 40% o'r ymchwilwyr yn fenywaidd. 
  • Cynaliadwyedd: Gwnaed y prif gyfraniadau at gynaliadwyedd drwy'r ymchwil a ariannwyd gan y rhaglen. Mae tua hanner y gwobrau wedi ymwneud â'r maes her fawr carbon isel, ynni a'r amgylchedd ac felly maent wedi cyfrannu at y thema hon. 

Dim ond cyfraniad cyfyngedig a wnaeth y rhaglen at fynd i'r afael â thlodi ac allgau cymdeithasol. Fodd bynnag, gallai hyn fod yn ganlyniad tymor hwy os caiff rhywfaint o'r ymchwil a ariennir gan Sêr Cymru II ei fasnacheiddio a'i fod yn arwain at greu swyddi yng Nghymru. Mae yna hefyd nifer o enghreifftiau lle mae ymchwilwyr a ariannwyd gan Sêr Cymru II wedi ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddoli ac allgymorth sy'n berthnasol i'r thema hon.

Ceir nifer bach o enghreifftiau lle mae prosiectau wedi cyfrannu at hyrwyddo'r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau allgymorth mewn ysgolion, areithiau mewn digwyddiadau a sesiynau ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Fodd bynnag, dim ond mewn achosion ble roedd y cymrawd neu aelod o'r tîm ymchwil yn gallu siarad Cymraeg ac yn eiriolwr cryf dros hyrwyddo'r iaith y digwyddodd hynny'n gyffredinol. 

Roedd dau ffactor a gyfyngodd ar y potensial i gynyddu a monitro'r cyfraniadau at y Themâu Trawsbynciol:

  1. Capasiti cyfyngedig a throsiant staff uchel yn nhîm cyflawni Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y rôl Hyrwyddwr Themâu Trawsbynciol wedi newid dwylo sawl gwaith ac wedi bod yn wag am gyfnod hir.
  2. Ni chafodd y disgwyliadau ynghylch y Themâu Trawsbynciol eu gwneud yn glir i dderbynyddion grantiau o'r cychwyn cyntaf ac ni wnaethant ddarparu unrhyw adborth ar y wybodaeth honno yn yr adroddiadau cynnydd chwarterol.

Canfu'r gwerthusiad fod Sêr Cymru II yn cyfrannu at y rhan fwyaf o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a’r unig eithriad yw ‘Cymru o Gymunedau Cydlynus’ gan fod hyn yn llai perthnasol i’r rhaglen hon gan nad oes cysylltiadau clir rhwng gweithgareddau ymchwil a’r nod o greu “cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da”.

Argymhellion

Sail resymegol a dyluniad rowndiau Sêr Cymru yn y dyfodol

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi a chyflawni'r rhaglen Sêr Cymru. Mae tystiolaeth glir o hyd o'r angen am Sêr Cymru er mwyn adeiladu capasiti ymchwil a rhagoriaeth ymchwil o'r radd flaenaf yn SAU Cymru. Fodd bynnag, o ystyried ei bod yn debygol y bydd llawer llai o arian ar gael ar gyfer rowndiau o'r rhaglen yn y dyfodol, bydd angen i hyn fod yn fwy strategol a dethol na Sêr Cymru II. Hefyd, dylid gosod targedau penodol sy'n adlewyrchu'n well y canlyniadau a'r effeithiau y mae modd eu cyflawni. 

Dylai dyfodol Sêr Cymru gael ei lywio gan weledigaeth a strategaeth glir, hirdymor. Mae natur stopio-a-chychwyn Sêr Cymru wedi creu ansicrwydd mawr i SAU Cymru. Mae hyn wedi'i gwneud yn anodd i'r Cadeiriau Ymchwil a'u grwpiau gynllunio ar gyfer y dyfodol ac adeiladu ar eu llwyddiannau. Blaenoriaeth frys felly yw i Lywodraeth Cymru weithio gyda’r prifysgolion i gytuno ar weledigaeth ar gyfer Sêr Cymru a’i blaenoriaethau hirdymor ar gyfer y deng mlynedd nesaf. 

Wrth fuddsoddi, canolbwyntio ar ymchwil o safon ryngwladol sy'n adeiladu ar gryfderau Cymru ac yn mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol. Bydd angen i rowndiau Sêr Cymru yn y dyfodol osgoi gwasgaru adnoddau yn rhy denau. Er mwyn cael yr effaith fwyaf, dylid canolbwyntio ar nifer bach o fuddsoddiadau lle mae cyfle strategol ac economaidd cymhellol, yn gysylltiedig â blaenoriaethau cenedlaethol Cymru, cryfderau presennol prifysgolion ac asedau, cryfderau a chyfleoedd unigryw Cymru fel gwlad. 

Sicrhau bod diwydiant yn rhan o'r broses o bennu blaenoriaethau. Yn gysylltiedig â’r uchod, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â diwydiant ac yn cynnig cyfle i randdeiliaid mewn diwydiant ddylanwadu ar y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi. Roedd hwn ar goll o Sêr Cymru II a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar ragoriaeth wyddonol ac a ariannodd rywfaint o ymchwil a oedd yn llai perthnasol i anghenion diwydiant. 

Darparu mwy o hyblygrwydd a strwythuro cyllid mewn ffordd sy'n galluogi prifysgolion i ddenu cyllid o ffynonellau eraill. Dylai rowndiau’r rhaglen yn y dyfodol anelu at gynnig mwy o hyblygrwydd, gan gynnwys cyllid ar gyfer ysgoloriaethau ymchwil ar lefel Doethuriaeth na chaniatawyd ar gyfer buddsoddiadau a ariannwyd gan ERDF. Mae hefyd yn bwysig bod cyllid yn y dyfodol yn cael ei strwythuro yn y fath fodd fel ei fod yn galluogi prifysgolion i fanteisio ar gyfleoedd cyllido eraill. Er enghraifft, gellid defnyddio cyllid Sêr Cymru i ddenu cyllid ar gyfer rhaglenni newydd fel Canolfannau Hyfforddiant Doethurol sy’n cynnig llwybr arall i recriwtio mwy o fyfyrwyr Doethuriaeth i Gymru. Byddai strwythuro'r cyllid yn y fath fodd yn caniatáu i SAU Cymru gael mantais gystadleuol er mwyn sefydlu'r rhaglenni hyn. 

Dylid craffu’n drylwyr ar ganlyniadau a chynnydd. O ystyried y cyfyngiadau cyllido a'r angen i ganolbwyntio ar nifer bach o fuddsoddiadau mawr eu heffaith mae'n hanfodol bod y cynnydd a'r canlyniadau yn cael eu monitro'n fanwl. Gallai Llywodraeth Cymru a phrifysgolion gytuno ar nifer o gerrig milltir a dangosyddion canlyniadau ar gyfer pob buddsoddiad a monitro cynnydd yn erbyn y rhain. Os canfyddir nad yw prosiectau’n cyflawni eu hamcanion, ni ddylai Llywodraeth Cymru ofni eu dirwyn i ben yn gynnar. 

Bydd angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda phrifysgolion a phenaethiaid adrannau i sicrhau bod grwpiau ymchwil yn cael eu diogelu. Mae pryderon y bydd rhai o’r enillion a wnaed gan y grwpiau ymchwil a gefnogwyd drwy Sêr Cymru II yn cael eu colli. Mae’n amlwg bod cyfyngiadau ariannol eisoes wedi arwain at golli nifer o ymchwilwyr o safon a recriwtiwyd drwy’r rhaglen, hyd yn oed yn y grwpiau hynny sydd wedi sicrhau swm mawr o incwm ymchwil newydd, oherwydd cyfyngiadau ariannol ehangach yn y sefydliadau hyn a'r pwysau i ganolbwyntio ar addysgu. Mae’n bwysig felly bod polisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a phrifysgolion yn cael eu cysoni cyn belled ag y bo modd (gan gydnabod y pwysau ariannol sy’n wynebu prifysgolion a’r effaith a gaiff hyn ar ymchwil), a gweithio gyda Dirprwy Is-gangellorion a phenaethiaid adrannau i sicrhau eu bod darparu amgylchedd i'r grwpiau ymchwil hyn ffynnu.

Arwain, rheoli a chyflawni'r rhaglen

Mae angen i Lywodraeth Cymru feithrin perthynas agos â phrifysgolion a bod yn llais pwerus dros wyddoniaeth Cymru. Mae angen i'r weledigaeth a'r strategaeth hirdymor y cyfeirir atynt uchod ennyn cefnogaeth SAU Cymru i gael cymaint o ddylanwad â phosibl ac i nodi meysydd lle y gall prifysgolion gydweithio ar flaenoriaethau cenedlaethol cyffredin. O ystyried ymrwymiad llywodraeth y DU i gynyddu buddsoddiad mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesi y tu allan i Dde-ddwyrain Lloegr, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn barod i eirioli’n rymus o fewn cylchoedd llywodraeth y DU ar ran gwyddoniaeth Cymru ac i lunio naratif cymhellol am ei gyflawniadau a’r hyn y gall y prifysgolion ei gynnig. Dylai dathlu llwyddiannau Sêr Cymru II a chodi proffil ei 'sêr' fod yn rhan allweddol o hyn. Yn gyfnewid am hynny, mae angen i SAU Cymru ddarparu tystiolaeth gymhellol i Lywodraeth Cymru o waith ymchwil sy'n arwain y byd. 

Sicrhau bod digon o gapasiti ac arbenigedd gwyddonol i oruchwylio’r ddarpariaeth. Mae’n amlwg na pharhawyd â'r prosesau rheoli a chyflawni effeithiol a oedd ar waith ar ddechrau’r rhaglen ar ôl y cyfnod cyn dyfarnu'r gwobrau, a bod diffyg arbenigedd a chapasiti gwyddonol i reoli a monitro’r rhaglen yn effeithiol. Mae'n hanfodol mynd i'r afael â hyn yn rowndiau Sêr Cymru yn y dyfodol a bod trylwyredd gwyddonol yn cael ei gymhwyso yn y cyfnod ar ôl dyfarnu'r cyllid yn ogystal â'r cyfnod chyn ei ddyfarnu. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried defnyddio panel rhyngwladol o arbenigwyr gwyddonol i fonitro cynnydd prosiectau ar ôl iddynt gael eu cyflawni yn ogystal ag yn y cyfnod cyn dyfarnu. Fel arall, gellid is-gontractio'r broses ddyfarnu a monitro i sefydliad allanol y gellir ymddiried ynddo sydd â phrosesau cadarn, sefydledig ar gyfer dyfarnu cyllid ymchwil a monitro cynnydd. 

Sicrhau bod ymchwilwyr gyrfa gynnar yn cael eu cefnogi a’u hintegreiddio i dimau ymchwil presennol. Os bydd buddsoddiadau yn y dyfodol yn cynnwys recriwtio ymchwilwyr newydd, dylai’r broses ddethol roi llawer mwy o ystyriaeth i sut y cânt eu cefnogi a’u hintegreiddio i dimau ymchwil presennol neu newydd, a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi’n barhaus gan y sefydliadau sy’n eu lletya. 

Symleiddio prosesau adrodd a hawlio. Dylid symleiddio adroddiadau monitro chwarterol yn unol â normau cynghorau ymchwil a dylid symleiddio’r broses hawlio er mwyn lleihau’r baich gweinyddol a’r gofynion o ran adnoddau i brifysgolion, derbynyddion grantiau a Llywodraeth Cymru.

Troednodiadau

[1] Roedd rhaglen Sêr Cymru II hefyd yn cynnwys gweithgaredd a ariannwyd gan Marie Skłodowska-Curie COFUND, nad yw wedi’i gynnwys yn y gwerthusiad hwn.

[2] Darparodd y rhain gyllid i academyddion dreulio amser yn gweithio mewn sefydliad masnachol neu i rywun o sefydliad masnachol dreulio amser mewn amgylchedd academaidd.

[3] Mae cynyddu llwyddiant SAU Cymru o ran denu cyllid ymchwil yn flaenoriaeth hirsefydlog i Lywodraeth Cymru ac yn un o amcanion penodol Rhaglenni Gweithredol ERDF ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a Dwyrain Cymru, a ariannodd Sêr Cymru II. Y rhesymeg sy’n sail i’r amcan penodol hwn oedd y bydd datblygu'r sylfaen ymchwil “yn helpu i annog mewnfuddsoddi, gwariant busnes ar ymchwil, a datblygu clystyrau arloesol sy’n canolbwyntio ar ymchwil”. 

[4] Heb gynnwys yr incwm ymchwil a hawliwyd gan SAU ond na chafodd ei gynnwys mewn hawliadau i WEFO gan yr ystyriwyd ei fod yn anghymwys neu na chafodd ei ategu gan dystiolaeth

[5] Nid oedd y cynllun busnes yn gosod targed ar gyfer cyhoeddiadau gan gymrodyr ymchwil ond nododd ei bod yn bosibl y bydd y cymrodyr yn ysgrifennu ac yn cyflwyno erthyglau i gyfnodolion ar ryw adeg yn ystod eu cymrodoriaeth.

[6] Gan ddefnyddio data yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

[7] Gan ddefnyddio data Scopus, cronfa ddata Elsevier sy'n cynnwys gwybodaeth lyfryddol fanwl am ymchwilwyr, cyhoeddiadau a chyfeiriadau.

[8] Heb gynnwys Cadeiriau Ymchwil.

Manylion cyswllt

Awduron: Oliver Chapman

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Gwerthuso a Ymchwil
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 45/2026
ISBN digidol 978-1-83745-080-0

Image
GSR logo