Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Sicrhawyd cyllid ERDF gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Weithredol (OP) ERDF Gorllewin Cymru a’r Cymoedd 2014-20 [troednodyn 1] i gyflawni gwelliannau i ddwy ffordd brifwythiennol yng Nghymru: yr A55 a’r A40. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwerthusiad terfynol o’r gwelliannau i’r A55 rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion yng Ngogledd Cymru.

Mae’r rhesymeg strategol ar gyfer buddsoddiad ERDF wedi’i nodi yn yr OP. Mae hwn yn cynnwys amcan i fuddsoddi yn y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) [troednodyn 2]. Economaidd yw’r rhesymeg buddsoddi craidd a nodir yn yr OP ac mae’n dweud y dylai buddsoddiadau fod â’r nod o liniaru ymyloldeb a dangos eu bod yn mynd i’r afael â thagfeydd o ran mynediad at gyflogaeth neu ddatgloi cyfleoedd ar gyfer twf economaidd rhanbarthol [troednodyn 3]. Disgwylir i weithrediadau hefyd wneud cyfraniad cadarnhaol at opsiynau teithio cynaliadwy, gan gynnwys trwy ddarparu llwybrau beicio, llwybrau troed ac ati yn ogystal â’r briffordd well.

Mae gweithrediad Abergwyngregyn i Dai’r Meibion wedi’i leoli rhwng Conwy a Bangor. Yn benodol, roedd y gwaith yn cynnwys:

  • lledu darn 2.2km o gefnffordd ddeuol i fodloni safonau ffordd ddeuol fodern
  • cau bylchau yn y llain ganol a’r nifer o fynedfeydd preifat i gaeau sy’n ymuno â’r A55
  • ailadeiladu neu greu 2km o lwybr troed neu lwybr beicio
  • darparu llwybr troed i wella mynediad cerddwyr at wasanaethau bws lleol
  • ymestyn y tanffyrdd gwartheg presennol
  • creu trac mynediad amaethyddol
  • gweithredu system ddraenio well ar yr A55

Cyfanswm cost y gweithrediad (gan gynnwys risg ac arian wrth gefn), fel y nodwyd ar adeg yr ailwerthusiad terfynol ym mis Rhagfyr 2022, oedd £21.70 miliwn. O hyn, ariannwyd £20.01 miliwn gan ERDF, a’r £1.69 miliwn sy’n weddill gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, cafwyd costau pellach wrth gyflawni’r gweithrediad a oedd yn anghymwys ar gyfer gwariant ERDF.

Diffiniodd yr OP gyfres o ddangosyddion canlyniad ac allbwn y disgwylid i weithrediadau a ariennir gan ERDF eu cyflawni. Yn achos gweithrediad Abergwyngregyn i Dai’r Meibion: 

  • Dangosydd Canlyniad ERDF oedd cynnydd gan 5-10% mewn cyflymder cyfartalog ar hyd yr A55 (o gyfartaledd llinell sylfaen o 86kph, a ddiffinnir yn yr OP [troednodyn 4]). 
  • Dangosyddion Allbwn ERDF oedd: 
    • cyfanswm hyd ffordd wedi’i ailadeiladu neu ei huwchraddio (gan gynnwys TEN-T): 2.2km
    • llwybr troed neu lwybr beicio wedi’i greu neu ei ail-adeiladu: 2km

Rhaid i bob gweithrediad a ariennir drwy ERDF hefyd integreiddio cyfres o Themâu Trawsbynciol (CCT) yn ei ddyluniad a’i gyflawniad, sy’n gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Mae’r rhain yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, trechu tlodi a chynhwysiant cymdeithasol, cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd, a’r Gymraeg.

Methodoleg

Defnyddiodd y gwerthusiad ddull cymysg. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad pen desg o ddogfennau polisi a strategaeth, ymgynghoriadau â rhanddeiliaid a dadansoddiad data monitro rhaglenni. Roedd y rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â hwy yn cynnwys cynrychiolwyr o’r timau cyflawni prosiect (20), cynrychiolwyr rhanbarthol o Lywodraeth Cymru (6), cynrychiolwyr awdurdod lleol (9), a sefydliadau cymunedol a busnes (9).

Canfyddiadau allweddol

Asesiad o gydweddiad strategol parhaus

Er gwaethaf newidiadau i’r cyd-destun polisi ers datblygu’r cynllun, yn enwedig mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, cadarnhaodd adolygiad o bolisïau a strategaethau lleol a chenedlaethol fod gweithrediad yr A55 Abergwyngregyn yn parhau i gyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd rhanbarthol a’r seilwaith trafnidiaeth presennol drwy fuddsoddiad i gefnogi datblygiad economaidd a lles gwell. Er y bu newid sylweddol, yn genedlaethol ac yn lleol, mewn blaenoriaethau o ran nodau a thargedau carbon isel ac amgylcheddol, roedd ymgyngoreion strategol o Lywodraeth Cymru o’r farn bod y gweithrediad yn dal yn berthnasol. Yn benodol, roedd gan y gweithrediad uchelgais i warchod bioamrywiaeth a hyrwyddo teithio llesol.

Asesiad o drefniadau rheoli a monitro prosiect

Teimlwyd bod y trefniadau rheoli prosiect yn effeithiol ac yn gweithio’n dda. Roedd hyn oherwydd gwybodaeth a phrofiad tîm cyflawni’r prosiect, llif gwybodaeth effeithiol a’r trefniadau partneriaeth gyda rhanddeiliaid lleol.

Roedd y systemau monitro ar lefel cyflawni prosiectau yn gadarn, a rhoddwyd digon o wybodaeth i Lywodraeth Cymru i alluogi rheolaeth a throsolwg effeithiol. Mae adroddiadau monitro i WEFO wedi bod yn gynhwysfawr gyda deialog rheolaidd yn cael ei sefydlu rhwng Is-adran Cyflenwi Seilwaith Llywodraeth Cymru a WEFO a’r tîm cyflawni ehangach.

Ar y cyfan, roedd adborth gan ymgyngoreion lleol yn gadarnhaol o ran lefel y cyfathrebu ac ymgysylltu ar y gweithrediad, yn enwedig yn ymwneud â rôl y Swyddog Cyswllt â’r Cyhoedd. Fodd bynnag, roedd rhai rhanddeiliaid ehangach (yn enwedig mewn awdurdodau lleol) o’r farn mai gwybodaeth gyfyngedig oedd ganddynt am y gweithrediad ac y byddent wedi elwa gan ragor o wybodaeth am y gweithgareddau allweddol ac amserlenni wedi’u diweddaru.

Themâu Trawsbynciol

Gwnaed cynnydd da yn erbyn y themâu trawsbynciol (CCT), yn enwedig ers i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle. Rhoddwyd mesurau ar waith i sicrhau y rhoddwyd ystyriaethau i faterion amgylcheddol, bod perthynas gadarnhaol yn cael ei datblygu gyda thrigolion lleol, a bod y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo trwy’r deunydd a gynhyrchwyd a digwyddiadau gyrfaoedd. Gweithredwyd gwelliannau Teithio Llesol fel rhan o’r cynllun a sefydlwyd fforwm Teithio Llesol i hwyluso mewnbwn gan randaliad perthnasol. Cefnogwyd nifer o fentrau cymunedol yn ystod y gwaith adeiladu, a chafodd y rhain dderbyniad cadarnhaol.

O ran gwreiddio’r CCT mewn prosiectau yn y dyfodol, y prif awgrym oedd sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y dogfennau tendro a chontract, fel yr oeddent ar gyfer gweithrediad yr A55, er mwyn sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol o’r gofynion yn gynnar. Roedd ymgyngoreion o’r farn y byddai’n ddefnyddiol parhau â’r dull hwn.

Cynnydd yn erbyn allbynnau a chanlyniadau

Ers i weithrediad yr A55 Abergwyngregyn gael ei gymeradwyo ar gyfer cyllid yn 2016, mae wedi symud ymlaen i raddau helaeth yn unol â’r disgwyl yn erbyn yr amserlen wreiddiol. Fodd bynnag, ym mis Mawrth/Ebrill 2020 bu oedi o tua chwe mis yn y cyfnod adeiladu, oherwydd problemau capasiti o ganlyniad i COVID-19. Llwyddodd y tîm cyflawni i symud ymlaen â’r gwaith dylunio manwl yn y cyfamser a dechreuodd y gwaith adeiladu yn nhymor yr hydref 2020. Cafwyd oedi pellach yn ystod y gwaith adeiladu oherwydd effeithiau pellach pandemig COVID-19 a phroblemau’r gadwyn gyflenwi, gyda’r gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2023.

Ar ddechrau’r prosiect, cyfanswm y costau a gymeradwywyd oedd £22.4m, gyda chyllid ERDF yn cyfrif am 66% o hyn. Erbyn diwedd y cynllun, cyfanswm y costau cymwys oedd £21.7m, gyda chyllid ERDF yn cyfrif am £20m. Roedd y cynnydd yn y gyfradd ymyrryd o 66% i 92% o ganlyniad i ailddyrannu cyllid o fewn y rhaglen ehangach o weithrediadau ERDF i wneud y mwyaf o wariant y portffolio. Er bod y prosiect wedi’i ohirio’n sylweddol, roedd gwariant o fewn y swm a gymeradwywyd yn wreiddiol ar gyfer y cynllun.

Erbyn adeg y gwerthusiad terfynol, roedd y rhan fwyaf o’r allbynnau wedi’u cyflawni, gan gynnwys y ddau allbwn ERDF. Cwblhawyd y gwaith ar y brif gerbytffordd ac roedd yn agored i ddefnyddwyr. Gor-gyflawnodd y cynllun ar faint o droedffordd neu lwybr beicio a grëwyd, gyda 4km o lwybrau newydd neu wedi’u hailadeiladu ar gyfer defnyddwyr Teithio Llesol, yn erbyn targed o 2km. Roedd hyn yn rhannol o ganlyniad i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Roedd canlyniadau gweithrediad yr A55 Abergwyngregyn yn ddibynnol ar gwblhau’r cynllun a chyfnod o fonitro ar ôl ei gwblhau, ac felly nid oedd tystiolaeth gadarn ar gael ar adeg y gwerthusiad terfynol. Fodd bynnag, roedd ymgyngoreion o’r tîm cyflawni yn hyderus y byddent yn cael eu cyflawni maes o law. Rhagwelwyd nifer o ganlyniadau ehangach gan ymgyngoreion, gan gynnwys gwelliannau i ddibynadwyedd amser teithio, gwell gwytnwch rhwydwaith, gostyngiad yn nifer y gwrthdrawiadau, gwell profiad gan ddefnyddwyr Teithio Llesol, a gwell bioamrywiaeth.

Asesiad gwerth am arian

Roedd y gymhareb cost a budd wreiddiol, a gyfrifwyd yn 2008, yn amrywio o 0.221 i 1.7. Yn nodweddiadol, byddai cymhareb o 1.7 yn cael ei ystyried fel cynnig gwerth canolig am arian. Mae cost derfynol y cynllun a’r canlyniadau disgwyliedig yn awgrymu y byddai’r ffigur gwreiddiol hwn yn cael ei gyrraedd pe bai’r dadansoddiad yn cael ei ail-gynnal, ond byddai gwerthusiad cymhareb budd a chost wedi’i diweddaru unwaith y bydd digon o dystiolaeth ar gael yn gallu cadarnhau hyn. O safbwynt ansoddol, roedd ymgyngoreion yn cytuno bod y cynllun ar y cyfan yn rhoi gwerth cyhoeddus. Roedd y rhesymau am hyn yn cynnwys y gwelliannau diogelwch a’r gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

Edrych ymlaen

Gan edrych i’r dyfodol, ni fydd unrhyw arian Ewropeaidd pellach ar gyfer cynlluniau ffyrdd gan fod Prydain wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae canlyniad yr Adolygiad Ffyrdd yn awgrymu hefyd y bydd lefelau is o gyllid cyfalaf ar gyfer cynlluniau ffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae rhai canfyddiadau allweddol o’r adroddiad hwn a allai lywio prosiectau tebyg yn y dyfodol:

  • roedd rôl Swyddog Cyswllt â’r Cyhoedd y contractwr yn werthfawr iawn o ran meithrin perthynas dda â thrigolion a busnesau lleol, ac o ran cyflwyno buddion cymunedol fel rhan o’r prosiect
  • cymerodd tîm cyflawni’r prosiect agwedd greadigol ac uchelgeisiol at gyflwyno’r CCT, gyda’u gweithredoedd yn rhagori ar y targedau gwreiddiol; er bod y CCT wedi’u hintegreiddio’n gryf i gyllid Ewropeaidd, maent yn berthnasol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gellid mabwysiadu dull tebyg yn y dyfodol o ran eu gwreiddio yn y contract a sicrhau ymrwymiad i gyflawni yn eu herbyn gan y contractwr a’r tîm prosiect
  • esblygodd integreiddiad Teithio Llesol dros amser gyda’r cynllun yn gor-gyflawni ar ei ymrwymiadau gwreiddiol; roedd cael fforwm Teithio Llesol yn golygu bod rhanddeiliaid allweddol yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau ac yn sicrhau bod y cynllun yn diwallu anghenion defnyddwyr Teithio Llesol
  • roedd defnyddio dull rhagweithiol yn ystod y gwaith adeiladu, trwy gynnwys mwy o amser wrth gefn yn y cynllun gwaith a bod yn hyblyg i addasu i amgylchiadau sy’n newid, wedi helpu i leihau effaith oedi a defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon; dylid mabwysiadu dull tebyg ar gyfer prosiectau adeiladu yn y dyfodol

Troednodiadau

[1] Gorllewin Cymru a'r Cymoedd: rhaglen weithredol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) 2014 i 2020 crynodeb

[2] Mae'r A55 yn llunio rhan o lwybr E30 TEN-T, sy’n ymestyn o Iwerddon i Rwsia

[3] Gorllewin Cymru a'r Cymoedd: rhaglen weithredol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) 2014 i 2020 crynodeb

[4] Cyfrifwyd y llinell sylfaen wreiddiol gan ddefnyddio data Trafficmaster. Mae llinell sylfaen newydd wedi’i chyfrifo gan ddefnyddio data Inrix gan nad yw data Trafficmaster ar gael bellach. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn ym mhennod 7.

Contact details

Awduron: SQW

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 40/2026
ISBN digidol 978-1-83745-109-8

Image
GSR logo