Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae cynlluniau Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyflawni o dan Cymunedau Gwledig-Rhaglen Datblygu Gwledig (RC-RDP) 2014-20 (tudalen 154) sydd â’r nod hyrwyddo cystadleurwydd a chreu twf cynaliadwy a swyddi i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru.

Darparwyd pedwar cynllun cyllido o dan gynllun Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2017/18 a 2020/21:

  1. Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF): cronfa gyfalaf rhwng £25,000 a £500,000 ar gyfer mentrau'r sector preifat a'r trydydd sector ac a allai dalu hyd at 40% o gostau cymwys.
  2. Cymorth i Fuddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS): cronfa gyfalaf rhwng £25,000 a £128,000 a oedd ar gael i sefydliadau cyhoeddus a dielw i gyllido gwelliannau bach i seilwaith twristiaeth ac a allai dalu hyd at 80% o gostau cymwys.
  3. Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF): cronfa refeniw o rhwng £30,000 a £150,000 i gefnogi cydweithio rhwng partneriaid twristiaeth yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ac a allai dalu hyd at 90% o gostau cymwys.
  4. Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF): cronfa refeniw rhwng £30,000 a £150,000, a oedd yn agored i unrhyw sefydliad a fyddai’n arwain cynnig cydweithredol i hyrwyddo a datblygu cyrchfannau ymwelwyr o ansawdd uchel ac a allai dalu hyd at 90% o gostau cymwys.

Gweinyddwyd yr MSBF ar sail ceisiadau treigl a gweinyddwyd dau gylch cyllido ar gyfer y tri chynllun arall. Mabwysiadodd pob un o'r cynlluniau broses ymgeisio dau gam a oedd yn cynnwys Datganiad o Ddiddordeb [troednodyn 1] a chais llawn.

Ariannwyd cyfanswm o 140 o brosiectau ar draws y pedwar cynllun grant rhwng 2017/18 a 2020/21: roedd 50 yn brosiectau MSBF, 43 yn brosiectau TAIS, 25 yn brosiectau RTEF a 22 yn brosiectau TPIF. Dyfarnwyd cyfanswm o £13.1 miliwn o gyllid grant i'r prosiectau hyn. Cyfanswm costau'r prosiectau oedd £28 miliwn, a darparwyd £15 miliwn o arian cyfatebol [troednodyn 2].

Yn ogystal â’r cyllid grant ar lefel prosiect o £13.1 miliwn, darparwyd £5.6 miliwn arall, drwy gynlluniau RTEF a TPIF, i gyllido pedair ymgyrch thematig 'Blwyddyn' Croeso Cymru.

Nodau ac amcanion yr adolygiad

Penodwyd Ymchwil OB3 gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o gynllun Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan. 

Nod y gwerthusiad oedd adolygu'r pedwar cynllun twristiaeth a darparu asesiad annibynnol o'r ffordd y cafodd y cynlluniau eu gweithredu a'u cyflawni, gan gynnwys canlyniadau ac effaith y cynlluniau. Roedd disgwyl i’r gwerthusiad:

  • ystyried sut yr oedd y prosiectau'n cyd-fynd ag amcanion polisi strategol y Rhaglen Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru
  • adolygu pa mor effeithiol y rheolwyd y cynllun – gan gynnwys y broses hawlio, systemau monitro, cyfathrebu, a'r cymorth a oedd ar gael ar ôl i gyllid gael ei ddyfarnu
  • ystyried y ffordd y cafodd y cynlluniau eu cyflawni a'u gweithredu
  • asesu i ba raddau yr oedd y prosiectau a gefnogwyd yn gallu cyflawni'r amcanion a nodwyd yn eu cynlluniau
  • adolygu canlyniadau ac effaith y cynlluniau, lle bo modd
  • asesu pa mor ymatebol oedd yr amrywiol gynlluniau i anghenion canfyddedig y diwydiant twristiaeth, gan gynnwys sut y cynigiwyd cymorth i fusnesau o wahanol feintiau, a phrosiectau mawr neu fach
  • asesu gwerth am arian lle bynnag y bo modd
  • cynnig argymhellion a disgrifio gwersi a ddysgwyd ar gyfer grantiau tebyg yng Nghymru

Cynhaliwyd y gwerthusiad rhwng mis Medi 2022 a mis Gorffennaf 2023. Roedd yn cynnwys paratoi adroddiad ar Ddamcaniaeth Newid (heb ei gyhoeddi, Tachwedd 2022) ac adroddiad gwerthuso terfynol.

Dull

Roedd y gwerthusiad yn cynnwys:

  • adolygiad pen desg o ddogfennau polisi a dogfennau strategol perthnasol, dogfennaeth cynlluniau, a data ar dwristiaeth ac ymwelwyr
  • cyfweld ag wyth o swyddogion Llywodraeth Cymru a oedd yn ymwneud â dylunio a datblygu cynllun Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan a hwyluso gweithdy ar Ddamcaniaeth Newid gyda’r swyddogion hyn
  • datblygu a dosbarthu arolwg dwyieithog ar-lein i'r rhai a dderbyniodd gyllid grant a derbyn 61 o ymatebion i'r arolwg
  • dewis sampl cynrychioliadol a chynnal cyfweliadau manwl gyda 24 o brosiectau a ariannwyd; gwnaed gwaith maes pellach gyda defnyddwyr ac ymwelwyr o bedwar o'r prosiectau hyn
  • cyfweld â thri rhanddeiliad allweddol arall a derbyn cyflwyniad ysgrifenedig gan bedwerydd sefydliad
  • cyfuno canfyddiadau'r ymchwil desg, gwaith maes a data o'r arolwg a pharatoi adroddiad gwerthuso terfynol

Canfyddiadau allweddol

O ran y graddau yr oedd y prosiectau'n cyd-fynd ag amcanion polisi strategol y Rhaglen Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, canfu’r gwerthusiad:

  • y bu cyd-destun polisi cefnogol hirsefydlog ar gyfer cynllun Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan ac atgyfnerthwyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r sector twristiaeth yn dilyn y pandemig COVID-19
  • cefnogodd cynllun Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan y gwaith o gyflawni polisïau Llywodraeth Cymru wrth i fuddsoddiad cyfalaf a refeniw gael ei wneud mewn prosiectau a oedd yn gwella’r cynnyrch twristiaeth, yn annog mwy o gydweithio, yn hyrwyddo’r cynnig twristiaeth, yn denu mwy o ymwelwyr, yn gwella boddhad ymwelwyr ac yn ehangu’r sector
  • roedd y prosiectau a ariannwyd yn cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau Croeso Cymru; roedd cyfatebiaeth gref hefyd â themâu marchnata blynyddol diweddaraf Croeso Cymru sef ‘Blwyddyn Darganfod’ a ‘Blwyddyn Awyr Agored’, ond efallai bod llai o brosiectau a ariannwyd wedi cefnogi'r themâu cynharach, sef ‘Blwyddyn Chwedlau’ a ‘Blwyddyn y Môr’
  • nid oedd yn bosibl dod i gasgliad ynghylch effaith cynllun Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan ar y sector twristiaeth yng Nghymru oherwydd nid yw data ar dwristiaeth ar gael ar gyfer ardaloedd gwledig yn unig a byddai’r data wedi cael eu heffeithio gan ffactorau allanol megis y pandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw presennol

O ran pa mor effeithiol y rheolwyd y cynlluniau, canfu'r gwerthusiad y canlynol:

  • rheolwyd y pedwar cynllun yn briodol ac yn effeithiol. Roedd y prosesau ymgeisio am grant yn drwyadl, a dyrannwyd y cyllid mewn modd teg a thryloyw
  • roedd mabwysiadu proses ymgeisio dau gam yn briodol ac roedd y canllawiau ymgeisio yn addas at y diben
  • roedd yr amser a gymerwyd i asesu ceisiadau yn rhesymol ac yn dderbyniol i'r sector
  • mae lle yn y dyfodol i symleiddio'r prosesau ymgeisio a gweinyddu ar gyfer y rhai sy'n cael symiau llai o gyllid grant
  • un o gryfderau allweddol y broses rheoli grantiau oedd y rôl a chwaraewyd gan swyddogion Croeso Cymru a oedd yn cefnogi ymgeiswyr a deiliaid grantiau, a dylai hyn barhau yn y dyfodol
  • dros amser, roedd rheolwyr y cynlluniau yn gallu ymgorffori gwersi a ddysgwyd yn eu darpariaeth, ac mae mantais i fabwysiadu dull hyblyg o reoli grantiau mewn unrhyw gynllun yn y dyfodol
  • paratoi hawliadau ariannol oedd yr elfen fwyaf beichus o weinyddu’r cynllun i ddeiliaid grantiau a gellid symleiddio prosesau hawliadau ariannol yn y dyfodol, yn enwedig ar gyfer grantiau llai
  • roedd y gofynion yn ymwneud ag adrodd a dangos tystiolaeth o allbynnau yn rhesymol a chymesur ond mae peth awgrym nad oedd yr allbynnau ar lefel cynllun wedi'u cofnodi'n llawn oherwydd diffyg ymweliadau monitro dilynol.

O ran y ffordd y cafodd y cynlluniau eu cyflawni a'u gweithredu:

  • cefnogwyd ystod ddaearyddol eang o brosiectau, ac roedd yn rhesymegol bod gogledd Cymru yn cyfrif am gyfran uwch o brosiectau a chyllid o gymharu â rhanbarthau eraill oherwydd y nifer fawr o awdurdodau lleol a gafodd gyllid TAIS a phwysigrwydd twristiaeth ledled y rhanbarth hwn
  • roedd y perfformiad yn erbyn targedau ar lefel cynllun yn gymysg iawn, gydag achosion o ragori'n sylweddol ar y targedau a thangyflawni sylweddol fel ei gilydd, er i rai targedau gael eu hadolygu a'u gostwng; roedd rhai targedau yn rhy isel ac ni chyflawnwyd eraill oherwydd ffactorau allanol megis y pandemig; mae'n anodd cynnig barn ar ba mor dda y perfformiodd y cynlluniau yn erbyn y targedau a ariannwyd, gan nad oedd y targedau a osodwyd yn realistig
  • cyfrifwyd yr allbynnau a adroddwyd ar gyfer y targedau hynny sy’n gysylltiedig â gweithgareddau marchnata Croeso Cymru gan ddefnyddio dulliau safonol priodol y diwydiant ac maent yn dangos bod yr ymgyrch wedi helpu i gynnal ymwybyddiaeth o Gymru fel cyrchfan bosibl ymhlith trigolion y DU a thrwy hynny ddylanwadu ar wariant ymwelwyr, ac fe wnaeth hynny yn ei dro gefnogi’r economi ymwelwyr a chyflogaeth; fodd bynnag, mae'r dull hwn yn gyfyngedig gan nad yw'n ystyried effaith ffactorau eraill
  • byddai cynlluniau cyllido yn y dyfodol yn elwa o fabwysiadu targedau sy'n cyd-fynd yn well â chanlyniadau uniongyrchol gweithgareddau a ariennir.

O ran i ba raddau yr oedd y prosiectau a gefnogwyd yn gallu cyflawni eu hamcanion:  

  • perfformiodd y prosiectau a ariannwyd yn dda yn erbyn eu nodau a'u hamcanion
  • prif alluogwyr perfformiad cryf oedd gwaith cynllunio manwl ymlaen llaw, cydweithio effeithiol, timau cyflawni medrus a phrofiadol, a threfniadau caffael gofalus; roedd hyblygrwydd ar ran y cyllidwr a derbynnydd y grant hefyd yn hanfodol i weithredu’r prosiectau yn llwyddiannus
  • bu'r pandemig COVID-19 yn gyfrifol am lawer o’r heriau'n ymwneud â chyflawni prosiectau a brofwyd gan ddeiliaid grantiau o 2020 ymlaen ac roedd yn cyfrif am lawer o’r tanberfformiad yn erbyn y targedau a ariannwyd; ymysg yr heriau eraill yn ymwneud â chyflawni a brofwyd gan ddeiliaid grantiau roedd costau uwch, problemau staffio, a gweithio mewn partneriaeth
  • o ran themâu trawsbynciol roedd tystiolaeth dda bod prosiectau a ariannwyd yn cyfrannu'n gadarnhaol at amcanion yn ymwneud ag arloesi, cyfle cyfartal, datblygu cynaliadwy, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r Gymraeg; roedd llai o dystiolaeth bod prosiectau a ariannwyd yn cyfrannu at drechu tlodi ac allgau cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig

O ran canlyniadau ac effaith y cynlluniau:

  • defnyddiwyd cyllid MSBF yn briodol i ymestyn a gwella ansawdd y cyfleusterau i ymwelwyr, ac yn absenoldeb y cymorth byddai llawer o'r datblygiadau wedi bod yn llai uchelgeisiol o ran eu maint a’u hansawdd. Mae tystiolaeth argyhoeddiadol na fyddai prosiectau cyfalaf ar raddfa fawr wedi symud ymlaen o gwbl yn absenoldeb cyllid grant. Er bod y newidiadau yn y galw gan ymwelwyr am brosiectau a ariannwyd gan yr MSBF yn gadarnhaol, ni ellir eu gwahanu oddi wrth effeithiau ehangach ffactorau allanol megis y pandemig a'r cynnydd presennol mewn costau byw. Lle y cynyddodd y galw, mae busnesau'n credu bod cyllid ar gyfer prosiectau wedi cyfrannu'n gadarnhaol at y newid. Soniodd busnesau'r MSBF am newidiadau mwy cymedrol yn y galw gan ymwelwyr yn ystod y tymhorau tawelach a thymhorau ysgwydd, gan awgrymu bod y buddsoddiad wedi cael llai o effaith ar gyflawni’r amcan polisi hwn
  • defnyddiwyd cyllid TAIS yn effeithiol i wneud gwelliannau sylfaenol i seilwaith ar draws ardaloedd twristiaeth poblogaidd a disgwylir i'r rhain arwain at brofiadau gwell i ymwelwyr mewn cyrchfannau allweddol. Yn absenoldeb y gronfa, ni fyddai'r gwelliannau hyn wedi digwydd. Mae peth tystiolaeth i ddangos y cynnydd yn y defnydd o gyfleusterau a ariannwyd gan TAIS, ond byddai cynlluniau tebyg yn y dyfodol yn elwa o fabwysiadu a chasglu data mwy cynhwysfawr ar niferoedd a phrofiadau ymwelwyr
  • helpodd prosiectau RTEF i gryfhau cydweithio ar draws y sector twristiaeth ac mae'r trefniadau cydweithredol hyn yn parhau ar ôl i'r cyllid ddod i ben. Mae llai o dystiolaeth bod prosiectau cydweithredol a ariannwyd gan TPIF yn parhau
  • daeth darlun cymysg i’r amlwg o ran a oedd adnoddau hyrwyddo a marchnata RTEF a TPIF yn cael eu defnyddio ar ôl i'r cyllid ddod i ben, a llai o dystiolaeth o brosiectau TPIF yn gwneud hynny
  • daeth darlun cymysg i'r amlwg hefyd o ran y gwahaniaeth a wneir gan brosiectau RTEF a TPIF, a neges allweddol yw mai ychydig iawn o ddata a oedd ar gael i ddangos tystiolaeth o'r cynnydd anecdotaidd a nodwyd gan ddeiliaid grantiau

O ran pa mor ymatebol yw'r cynlluniau amrywiol i anghenion canfyddedig y diwydiant twristiaeth:

  • cafodd y pedwar cynllun cyllido eu croesawu'n frwd gan y sector twristiaeth ac un o’r cryfderau allweddol oedd y dull cydlynol o fuddsoddi a mynd i’r afael â bylchau cyllido
  • canolbwyntiodd y cynlluniau ar wella ansawdd cyfleusterau twristiaeth yng nghefn gwlad Cymru a thrwy hynny gyfrannu at bolisïau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector

O ran asesu gwerth am arian, ar draws yr MSBF:

  • roedd y gost fesul swydd a grëwyd neu a ddiogelwyd yn uwch na’r disgwyl (£13,468 o gymharu â’r targed o £10,000 fesul swydd a grëwyd neu a ddiogelwyd)
  • cyfrannodd cyllid grant o £4.5 miliwn at dwf mewn trosiant o tua £12.7 miliwn y flwyddyn ar draws y busnesau a gefnogwyd
  • byddai gwerth am arian wedi bod yn uwch pe na bai’r pandemig wedi cael effaith negyddol ar berfformiad busnesau

O ran y gwersi a ddysgwyd ar gyfer cynlluniau grant tebyg yn y dyfodol:

  • bwlch allweddol yn y cymorth buddsoddi yw cyllid grant cyfalaf ar raddfa fach ar gyfer y sector preifat a’r trydydd sector. Os caiff ei gyflwyno, dylid ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn datblygiadau twristiaeth adfywiol sy'n cefnogi cymunedau lleol; mentrau cynaliadwyedd amgylcheddol a chefnogi busnesau i ddod yn sero net; a gwella hygyrchedd o fewn darparwyr yn y sector preifat

Argymhellion

Mae'r gwerthusiad yn cynnig yr argymhellion canlynol i Lywodraeth Cymru eu hystyried.

  1. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i’r angen am gyllid grant cyfalaf ar raddfa fach ar gyfer y sector preifat a’r trydydd sector fel cronfa i olynu'r MSBF
  2. Dylid cadw’r meini prawf a fabwysiadwyd i ddyfarnu cyllid drwy’r MSBF ar y sail eu bod yn cyd-fynd yn dda ag amcanion polisi Llywodraeth Cymru
  3. Pe bai cynllun i olynu'r MSBF yn cael ei gyflwyno, dylid ei ddefnyddio i gefnogi’r tair blaenoriaeth allweddol, sef twristiaeth adfywiol, cynaliadwyedd amgylcheddol a gwella hygyrchedd
  4. Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i'r angen am gyllid refeniw parhaus i gefnogi gweithgareddau marchnata twristiaeth cydweithredol fel cronfa i olynu RTEF a TPIF
  5. Pe bai cronfa refeniw olynol yn cael ei chyflwyno, dylid adolygu’r meini prawf a fabwysiadwyd ar gyfer dyfarnu cyllid er mwyn sicrhau bod y gronfa'n cefnogi (i) gweithgareddau cydweithredol ystyrlon sy’n cyfrannu at gynlluniau rheoli cyrchfannau rhanbarthol a lleol a (ii) adnoddau y gellir eu cynnal a’u defnyddio ar ôl i'r cyllid dod i ben. Ni ddylai cronfa refeniw yn y dyfodol gael ei chyfyngu'n ddaearyddol i ardaloedd gwledig
  6. Dylai cynlluniau cyllido yn y dyfodol barhau i fabwysiadu proses ymgeisio dau gam, gan ddefnyddio Datganiad o Ddiddordeb cychwynnol i wirio cymhwysedd a chais llawn ar gyfer y rhai yr ystyrir eu bod yn gymwys i symud ymlaen ymhellach
  7. Dylid symleiddio’r prosesau ymgeisio a gweinyddu grantiau, gan gynnwys prosesau hawlio ariannol, ar gyfer y rhai sy’n dymuno cael symiau bach o gyllid
  8. Dylai cynlluniau cyllido yn y dyfodol gadw rôl swyddog cyswllt penodedig i gefnogi ymgeiswyr am grantiau a deiliaid grantiau
  9. Dylai cynlluniau cyllido yn y dyfodol gael eu dylunio mewn ffordd sy'n ddigon hyblyg i ymateb i anghenion deiliaid grantiau, yn enwedig o ran y cyfnod cyflawni sydd ar gael ar gyfer prosiectau
  10. Dylai cynlluniau cyllido yn y dyfodol fabwysiadu targedau mwy realistig y gellir eu cyflawni'n uniongyrchol. Mae angen neilltuo mwy o amser ac ystyriaeth ymlaen llaw wrth ddatblygu targedau er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'n well ganlyniadau uniongyrchol gweithgareddau a ariennir ac y gellir eu monitro ac adrodd arnynt
  11. Dylid rhoi mwy o ystyriaeth i'r dull a fabwysiadwyd ar gyfer monitro ac adrodd ar unrhyw dargedau a osodwyd ar gyfer cynlluniau cyllido yn y dyfodol. Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu canllawiau manwl i ddeiliaid cronfeydd ar ddangosyddion monitro a dulliau casglu data y maent yn disgwyl iddynt eu mabwysiadu, er mwyn cofnodi'n well effaith prosiectau a ariennir o ran y newidiadau i niferoedd yr ymwelwyr a'u profiadau
  12. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ymweliadau monitro dilynol â phrosiectau a gefnogir yn cael eu cynnal er mwyn cofnodi'r holl allbynnau a gyflawnir o fewn unrhyw gynlluniau cyllido yn y dyfodol.

Troednodiadau

[1] Defnyddiwyd y term Holiadur Rhagarweiniol (IQ) hefyd gan Lywodraeth Cymru i ddisgrifio’r ffurflen gychwynnol hon, a defnyddiwyd y ddau derm yn gyfnewidiol ar draws y cynlluniau cyllido. At ei gilydd, mae'r adroddiad gwerthuso yn cyfeirio at Ddatganiadau o Ddiddordeb.

[2] Mae’r data a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos na ddarparwyd unrhyw arian cyfatebol ar gyfer 21 o’r prosiectau a ariannwyd yn ystod ail gylch cyllido RTEF a TPIF.

Manylion cyswllt

Awduron: Bryer, N a Bebb, H

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Siân Hughes
Ebost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 81/2023
ISBN digidol 978-1-83504-571-8

Image
GSR logo