Ein fframwaith ar gyfer adfywio yw Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Cafodd gwerthusiad ei gynnal o’r ffordd mae’r fframwaith yn cael ei weithredu drwy gynnal ymchwil ansoddol â rhanddeiliaid.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod y gwerthusiad hwn oedd:
- adolygu cynllun y rhaglen
- adolygu’r ffordd y bydd y rhaglen yn cael ei sefydlu a’i gweithredu
- adolygu strwythurau a modelau cyflenwi prosiectau
- dysgu gwersi i ddylanwadu ar waith datblygu rhaglenni yn y dyfodol.
Roedd y gwerthusiad hwn yn cynnwys adolygiad o ddogfennau allweddol a chyfweliadau â staff Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sy’n ymwneud â’r polisi.
