Gwerthuso camau gweithredu dyletswydd bioamrywiaeth adran 6: crynodeb gweithredol 2021
Byddwn yn defnyddio'r gwerthusiad hwn i asesu gweithrediad ac effeithiolrwydd y ddyletswydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (y Ddeddf) ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau ehangach ar awdurdodau lleol, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt geisio cynnal ac ehangu bioamrywiaeth cyn belled â bod hynny’n gyson â chyflawni eu swyddogaethau’n briodol gan hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau drwy wneud hynny.
Nod y ddyletswydd yw annog awdurdodau cyhoeddus i fod yn fwy ymatebol a rhagweithiol wrth gyflawni er budd bioamrywiaeth a rhoi mwy o sylw i fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau o fewn fframwaith cynllunio corfforaethol ar draws sefydliadau. Er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd, rhaid i awdurdodau cyhoeddus ymgorffori'r angen i ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd ac yn eu polisïau, eu cynlluniau, eu rhaglenni a'u prosiectau.
Er mwyn cefnogi hyn, cyflwynodd y ddyletswydd ofyniad cynllunio ac adrodd newydd. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus, nad yw'n Weinidog y Goron nac yn un o adrannau'r llywodraeth, baratoi a chyhoeddi cynllun, ac i bob awdurdod cyhoeddus adrodd pob tair blynedd i ddangos yr hyn y mae wedi'i wneud i gydymffurfio â'r ddyletswydd. Roedd yr adroddiadau cyntaf gan bob awdurdod cyhoeddus i fod i gael eu cyhoeddi yn 2019.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau canllaw ar gyfer awdurdodau cyhoeddus gan gynnwys canllawiau ar adrodd i'w cynorthwyo i fodloni gofyniad adrodd y ddyletswydd. Mae'r canllawiau'n nodi y dylai'r ddyletswydd adrodd fod yn gymesur i faint a natur y sefydliad, y dylid caniatáu hyblygrwydd i awdurdodau cyhoeddus o ran ffurf eu hadroddiad ac y gellid ymgorffori'r adroddiad hwn mewn adroddiadau blynyddol neu ddull adrodd arall sy'n bodoli eisoes.
Ysgogwyd y gwerthusiad hwn gan Lywodraeth Cymru i asesu gweithrediad ac effeithiolrwydd y ddyletswydd. Bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio fel tystiolaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu polisi yn y dyfodol yn ogystal â'r camau y dylid eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o'r ddyletswydd ymhellach ac i ddatblygu canllawiau ychwanegol.
Nodau ac amcanion yr adolygiad
Penodwyd Ymchwil OB3, ar y cyd â Phartneriaeth BRO, gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o sut y mae dyletswydd bioamrywiaeth adran 6 yn cael ei gweithredu.
Nodau cyffredinol y gwerthusiad oedd:
- sefydlu i ba raddau y mae dyletswydd adran 6 wedi'i gweithredu/y cydymffurfiwyd â hi yn ystod y tair blynedd gyntaf, drwy gynhyrchu cynlluniau ac adroddiadau, a/neu drwy brif ffrydio camau gweithredu ar draws sefydliadau
- ymchwilio i'r galluogwyr a'r rhwystrau i'w gweithredu
- sefydlu i ba raddau y mae'r canllawiau a ddarparwyd wedi bod yn ddefnyddiol, wedi'u dilyn, a pha ganllawiau a/neu gefnogaeth bellach y gellid eu darparu
Dull
Roedd yr adolygiad, a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021, yn cynnwys:
- cam cychwynnol, a oedd yn cynnwys cyfarfod cychwynnol rhithiol gydag un o swyddogion Llywodraeth Cymru
- paratoi offerynnau ymchwil, gan gynnwys arolwg ar-lein dwyieithog a chanllaw trafod ar gyfer cyfweld â chynrychiolwyr awdurdodau cyhoeddus
- adolygiad o ddogfennau polisi a dogfennaeth berthnasol Llywodraeth Cymru
- dosbarthu'r arolwg ar-lein i bob awdurdod cyhoeddus sydd ar gronfa ddata Llywodraeth Cymru a derbyn cyfanswm o 52 o ymatebion i'r arolwg
- darllen dogfennau (boed yn gynllun a/neu adroddiad, wedi'u cyhoeddi neu heb eu cyhoeddi) cyfanswm o 58 o awdurdodau a dadansoddi cynlluniau/adroddiadau o ran eu hansawdd, pa mor gynhwysfawr yr oeddent, ac i ba raddau yr oeddent yn dilyn y canllawiau ac yn cyd-fynd ag amcanion y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP)
- cyfweld â 31 o gynrychiolwyr o gyfanswm o 29 o awdurdodau cyhoeddus a derbyn datganiad neu wybodaeth ysgrifenedig drwy e-bost gan dri awdurdod (nad oeddent wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd arall at yr adolygiad)
- cyfweld â chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Un Llais Cymru
- hwyluso tair trafodaeth mewn grwpiau ffocws gyda Rhwydwaith Partneriaethau Natur Lleol (LNP) Cymru, Rhwydwaith Cydlynwyr Datblygu Cynaliadwy Cymru a Mwy (CDCC+) ac un Bartneriaeth Natur Lleol
Canfyddiadau allweddol
Canfu'r gwerthusiad y canlynol o rancydymffurfiaeth â'r ddyletswydd:
- mae 56 y cant o awdurdodau cyhoeddus (62 o'r 110 a oedd o fewn cwmpas yr astudiaeth) yn cydymffurfio â gofynion y ddyletswydd, yn yr ystyr eu bod wedi paratoi o leiaf un ddogfen (cynllun neu adroddiad). O blith y rhain, roedd 26 o awdurdodau cyhoeddus wedi paratoi cynllun yn ogystal ag adroddiad. Mae'r canfyddiad hwn yn awgrymu bod angen rhagor o waith i wella cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd a gwella ei gweithrediad
- mae'r rhan fwyaf o'r cynlluniau/adroddiadau a adolygwyd yn ddogfennau ar wahân’ . Ychydig iawn o gynlluniau/adroddiadau sydd wedi'u hymgorffori mewn dogfennau corfforaethol er bod y canllawiau yn awgrymu y dylid gwneud hyn fel mater o arfer da
- mae'r awdurdodau cyhoeddus hynny a gymerodd ran yn yr adolygiad yn ymwybodol iawn o'r ddyletswydd ac yn ymwneud yn sylweddol â hi. Mae proffil y rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth yn gogwyddo tuag at y rhai sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf
- mae'r broses o lunio a chymeradwyo cynlluniau ac adroddiadau wedi amrywio ar draws awdurdodau cyhoeddus, gydag un swyddog yn aml yn cymryd y cyfrifoldeb hwn
- canfuwyd bod y rhan fwyaf o'r cynlluniau a'r adroddiadau yn gynhwysfawr iawn neu'n weddol gynhwysfawr a chanfuwyd bod rhyw dri chwarter yr adroddiadau yn dilyn y canllawiau a ddarparwyd
- mae'r cynlluniau/adroddiadau cryf wedi eu pwyso a'u mesur yn dda, yn seiliedig ar dystiolaeth glir, yn hawdd eu darllen, wedi'u cynllunio'n dda, yn hynod weledol, yn cyfeirio'n glir at amcanion y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) ac yn cynnwys camau gweithredu a chyflawniadau penodol a mesuradwy
- mae'r cynlluniau/adroddiadau gwannach yn tueddu i fod yn fyrrach a llai o ôl meddwl arnynt, yn debycach i ddatganiad polisi na chynllun gweithredu, ac yn canolbwyntio'n ormodol ar gamau gweithredu amgylcheddol ehangach yn hytrach na chamau penodol yn ymwneud â bioamrywiaeth
Canfu'r gwerthusiad, o ran cyfatebiaeth â chanllawiau a'r defnydd o amcanion y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP):
- fod cynlluniau ac adroddiadau adran 6 yn cyd-fynd yn dda â gofynion y canllawiau ac amcanion NRAP yn gyffredinol
- bod ymwybyddiaeth gref ar y cyfan o'r canllawiau ymhlith y rhai a oedd wedi paratoi cynllun neu adroddiad ac roedd y mwyafrif o awdurdodau cyhoeddus wedi defnyddio'r canllawiau i baratoi eu cynlluniau a'u hadroddiadau ac wedi eu cael yn ddefnyddiol o ran darparu fframwaith a strwythur iddynt
- nad oedd y rhai nad oeddent wedi paratoi cynllun neu adroddiad hyd yma yn ymwybodol iawn o'r canllawiau nes i rywun gysylltu â nhw mewn perthynas â'r ymchwil
- yn gyffredinol byddai awdurdodau cyhoeddus yn croesawu cynnwys/gweld mwy o astudiaethau achos ac enghreifftiau o arferion gorau yn y canllawiau
- gallai Llywodraeth Cymru gyfathrebu'n fwy rheolaidd ag awdurdodau cyhoeddus, yn arbennig i godi ymwybyddiaeth ar lefel uwch o bwysigrwydd cydymffurfio â'r ddyletswydd er mwyn gwella a chynnal bioamrywiaeth.
- byddai llawer o awdurdodau cyhoeddus yn croesawu mwy o adborth gan Lywodraeth Cymru ar gynnwys eu hadroddiadau adran 6
Mae tair thema i'r rhwystrau a'r galluogwyr allweddol i weithredu dyletswydd adran 6: a) adnoddau, b) gwybodaeth a hysbysrwydd, a c) blaenoriaethau a dylanwadau. Canfu'r gwerthusiad y canlynol:
- diffyg adnoddau oedd y prif rwystr a nodwyd, yn enwedig gan awdurdodau lleol, oherwydd toriadau'n ymwneud â chyni, lleihad mewn timau 'gwyrdd' a newidiadau i'r ffordd y mae gwaith bioamrywiaeth yn cael ei ariannu
- mae diffyg gwybodaeth a hysbysrwydd am fioamrywiaeth ymysg awdurdodau cyhoeddus nad oes ganddynt staff penodedig ar gyfer adnoddau naturiol
- mae'r ddyletswydd yn aml yn cael ei hyrwyddo gan unigolion ymroddedig a chanddynt arbenigedd ecolegol/amgylcheddol priodol a sgiliau cyfathrebu cryf
- galluogydd allweddol i awdurdodau cyhoeddus Grŵp 3 fu penodi aelodau etholedig yn hyrwyddwyr bioamrywiaeth ar draws y sefydliad
- mae awdurdodau llai heb dir wedi ei chael hi'n anodd nodi camau gweithredu y gallant eu cymryd
- cafwyd anhawster i roi lle amlwg i'r ddyletswydd gan fod blaenoriaethau eraill wedi ei bwrw i'r cysgod, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a'r agenda newid yn yr hinsawdd
- mae sawl rheswm pam nad yw awdurdodau cyhoeddus wedi paratoi na chyhoeddi cynllun/adroddiad gan gynnwys oedi gyda phrosesau cymeradwyo ffurfiol (yn aml oherwydd COVID-19), diffyg ymwybyddiaeth o'r angen i lunio adroddiad, a diffyg amser ac adnoddau i wneud hynny
- un o'r prif resymau pam nad yw cynghorau cymunedol a thref wedi paratoi na chyhoeddi cynllun nac adroddiad yw'r ffaith eu bod wedi cael gwybod yn hwyr iawn yn y dydd bod angen iddynt wneud hynny yn ogystal â diffyg adnoddau gwybodaeth
Canfu’r gwerthusiad, o ran y gwahaniaeth y mae’r ddyletswydd wedi’i wneud i ffordd awdurdodau cyhoeddus o weithio a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth:
- mai prif effaith y ddyletswydd fu cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fioamrywiaeth ar draws awdurdodau cyhoeddus
- ei bod wedi cyfrannu'n gadarnhaol, ond i raddau llai, at ymgorffori bioamrywiaeth yn fwy ym mhenderfyniadau awdurdodau cyhoeddus a'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt
- bod y gwahaniaeth a wneir i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn amrywio yn ôl y math o sefydliad - roedd llawer o awdurdodau lleol eisoes yn weithredol yn y maes hwn cyn cyflwyno'r ddyletswydd ond mae'r ddyletswydd wedi helpu i roi mwy o amlygrwydd a phwysigrwydd i'r agenda
- bod llawer o awdurdodau cyhoeddus yn adrodd eu bod bellach yn torri gwair yn llai aml nag o'r blaen ac yn ei reoli'n well er budd peillwyr a bywyd gwyllt arall. Ymhlith y newidiadau eraill a gyflwynwyd mae gerddi bywyd gwyllt a llesiant, blychau adar ac ystlumod, a chreu pentyrrau o logiau pan fydd coed yn cael eu torri
- bod awdurdodau cyhoeddus heb dir wedi ei chael hi'n anoddach rhoi camau ar waith sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at fioamrywiaeth ac mae eu hystod o gamau gweithredu yn fwy cyfyngedig
Argymhellion
Mae'r adroddiad yn cynnig wyth argymhelliad i Lywodraeth Cymru eu hystyried ar gyfer y dyfodol. Mae'r rhain yn ymdrin â dwy thema allweddol: sut i wella cydymffurfiaeth ar draws awdurdodau cyhoeddus; a'r canllawiau, y cymorth a'r hyfforddiant pellach sydd eu hangen:
Argymhelliad 1
Mae angen mwy o eglurder ynghylch yr awdurdodau cyhoeddus sy'n dod o fewn cwmpas y ddyletswydd. Canfu'r adolygiad hwn enghreifftiau lle roedd awdurdodau cyhoeddus yn aneglur a oedd angen iddynt gydymffurfio â'r ddyletswydd ac wedi tybio, cyn i ni gysylltu â nhw, nad oeddent o fewn cwmpas y ddyletswydd. Mae'r diffyg ymateb gan 38 o awdurdodau cyhoeddus i'r adolygiad hwn yn golygu bod angen gwneud rhagor o waith i ganfod a yw'r awdurdodau hyn yn dod o fewn cwmpas y ddyletswydd, ac os felly, dylai Llywodraeth Cymru gyfleu hyn ar fyrder i sefydliadau unigol
Argymhelliad 2
Ar ôl llunio rhestr bendant o'r awdurdodau cyhoeddus sydd o fewn cwmpas y ddyletswydd, dylai Llywodraeth Cymru nodi (o fewn y canllawiau) sut y disgwylir i bob awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â gofynion adrodd y ddyletswydd. Byddem yn awgrymu y dylai fod yn ofynnol fel isafswm i awdurdodau cyhoeddus gyflwyno eu cynlluniau a'u hadroddiadau i Lywodraeth Cymru ac y dylid cadw un storfa o'r dogfennau hyn. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru am ystyried sut y gallai ddwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif yn fwy os nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion adrodd a nodir gan y ddyletswydd. Gallai hyn gynnwys nodi'r camau a'r camau gweithredu y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth, h.y. nodyn atgoffa ffurfiol i awdurdodau cyhoeddus
Argymhelliad 3
Mae angen i Lywodraeth Cymru wella'r manylion cyswllt sydd ganddi ar gyfer awdurdodau cyhoeddus at ddibenion cyfleu gwybodaeth iddynt am y ddyletswydd. O ran yr awdurdodau cyhoeddus a gynhwyswyd ar y gronfa ddata a oedd ar gael i'r tîm ymchwil, nid oedd manylion cyswllt ar gael ar gyfer llawer ohonynt neu roedd angen diweddaru'r manylion. Yn ddelfrydol, dylai'r gronfa ddata hon gynnwys manylion ar gyfer prif swyddogion gweithredu yn ogystal ag unigolion sydd wedi bod yn ymwneud â'r ddyletswydd e.e., swyddog bioamrywiaeth/amgylcheddol neu swyddog cydymffurfiaeth/polisi. Casglwyd manylion cyswllt wedi'u diweddaru ar gyfer llawer o'r awdurdodau cyhoeddus fel rhan o'r adolygiad a dylid eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer y gwaith hwn
Argymhelliad 4
Dylai Llywodraeth Cymru barhau i godi ymwybyddiaeth o'r ddyletswydd ar draws awdurdodau cyhoeddus, gan sicrhau bod gohebiaeth ysgrifenedig yn cael ei dargedu at gynrychiolwyr ar lefel uwch o fewn awdurdodau cyhoeddus yn ogystal â staff gweithredol sy'n ymwneud â chynllunio ac adrodd yn erbyn y ddyletswydd. Bydd hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod cyn y bydd yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gynhyrchu eu hail adroddiad ar y ddyletswydd, erbyn diwedd 2022. Mae angen atgyfnerthu'r cyfathrebu â phrif swyddogion gweithredu ar lefel Weinidogol er mwyn cynyddu'r statws a'r amlygrwydd a roddir i'r ddyletswydd
Argymhelliad 5
Gallai Llywodraeth Cymru ystyried cynnal digwyddiad neu weminar ar ddiwedd 2021/dechrau 2022 i hyrwyddo'r ddyletswydd a lansio unrhyw ganllawiau newydd i'r sector. Gellid defnyddio'r digwyddiad hwn i nodi amserlenni ar gyfer paratoi ail adroddiad ar y ddyletswydd erbyn diwedd 2022, i glywed gan awdurdodau cyhoeddus o bob un o'r tri grŵp sydd wedi cydymffurfio'n effeithiol â'r ddyletswydd ac i helpu i hwyluso rhwydweithio rhwng awdurdodau cyhoeddus er mwyn rhannu profiadau ac arfer da
Argymhelliad 6
Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gall ddarparu cydnabyddiaeth ac adborth gwell i awdurdodau cyhoeddus sy'n rhannu eu hadroddiadau cyhoeddedig. Mae angen adnoddau priodol ar gyfer y gwaith hwn fel y gall helpu i wella cynllunio a chyflawni dyletswyddau bioamrywiaeth ar draws awdurdodau cyhoeddus. Heb roi'r rôl hon ar waith i fonitro ac adolygu gwaith awdurdodau cyhoeddus, mae perygl na fydd awdurdodau yn cynnal y ddyletswydd fel blaenoriaeth
Argymhelliad 7
Efallai yr hoffai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gallai awdurdodau cyhoeddus Grŵp 1, yn ogystal â chynghorau tref a chymuned, gael eu cefnogi’n well o ran mynediad at gyngor ac arweiniad arbenigol o ystyried nad yw’r garfan hon yn tueddu i feddu ar arbenigedd mewnol ar fioamrywiaeth i helpu i ddatblygu eu cynlluniau bioamrywiaeth
Argymhelliad 8
Mae lle i wella'r canllawiau cyhoeddedig ar gyfer y ddyletswydd drwy gynnwys:
- enghreifftiau o arferion gorau megis astudiaethau achos
- dolenni i gynlluniau ac adroddiadau o ansawdd da a luniwyd gan awdurdodau cyhoeddus eraill, gan nodi'r hyn a ystyrir yn gryfderau
- awgrymiadau ar sut y gallai gweithio mewn partneriaeth helpu awdurdodau cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion bioamrywiaeth
- cyngor ar sut y gall y ddyletswydd gyfateb yn well â blaenoriaethau eraill, gan gynnwys datganiadau ardal, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a'r agenda argyfwng hinsawdd
- camau ac enghreifftiau penodol y gall awdurdodau cyhoeddus Grŵp 1, heb dir, eu dilyn er mwyn gwella bioamrywiaeth
Diolchgarwch
Ymchwil OB3
Bryer, N; Bebb, H; Owen, R; a Reis, S; (2021). Gwerthuso'r modd y mae Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 yn cael ei gweithredu. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i'r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Mae’r ddogfen yma hefyd ar gael yn Saesneg.
This document is also available in English.
© Hawlfraint y Goron
