Neidio i'r prif gynnwy

Argymhelliad 1 (diffiniad o awdurdodau cyhoeddus)

Mae angen mwy o eglurder ynghylch yr awdurdodau cyhoeddus sy'n dod o fewn cwmpas y ddyletswydd. Canfu'r adolygiad hwn enghreifftiau lle roedd awdurdodau cyhoeddus yn aneglur a oedd angen iddynt gydymffurfio â'r ddyletswydd ac wedi tybio, cyn i ni gysylltu â nhw, nad oeddent o fewn cwmpas y ddyletswydd. Mae'r diffyg ymateb gan 38 o awdurdodau cyhoeddus i'r adolygiad hwn yn golygu bod angen gwneud rhagor o waith i ganfod a yw'r awdurdodau hyn yn dod o fewn cwmpas y ddyletswydd, ac os felly, dylai Llywodraeth Cymru gyfleu hyn ar fyrder i sefydliadau unigol.

Ymateb

Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn diffinio pa awdurdodau cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd. Mae hyn yn cynnwys rhestru dosbarthiadau penodol o awdurdodau cyhoeddus a diffiniadau mwy cyffredinol, ac mae p'un a yw sefydliad yn dod o dan ei gwmpas ai peidio yn dibynnu ar sut mae'r corff hwnnw wedi'i gyfansoddi. Rydym yn ceisio cyngor cyfreithiol ar gais gan sefydliadau. Nid ydym wedi cyhoeddi rhestr hyd yma ond yn dilyn astudiaeth ddiweddar gan Archwilio Cymru ar ddyletswydd adran 6 rydym bellach yn bwriadu cyhoeddi rhestr.

Ers sefydlu'r ddyletswydd anfonwyd gohebiaeth niferus (gweler isod) at awdurdodau cyhoeddus yn eu gwneud yn ymwybodol o'r ddyletswydd a'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â hi. Yn ogystal â hynny, mae gweithgareddau codi ymwybyddiaeth eraill wedi digwydd a chynhaliwyd cyflwyniadau yn y digwyddiadau a restrir yn yr ymateb i argymhelliad 5. 

Mae yna hefyd weithgor adran 6 gydag aelodau o ystod o awdurdodau cyhoeddus gan gynnwys awdurdodau lleol, prifysgolion, cwmnïau cyfleustodau a byrddau iechyd, ynghyd â sefydliadau ymbarél fel CLlLC ac Un Llais Cymru. Mae'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, a mynychodd 22 o unigolion y cyfarfod diweddaraf. Nod y grŵp yw hyrwyddo dyletswydd adran 6 a thynnu sylw at gamau gweithredu i gynnal a gwella bioamrywiaeth trwy rannu arferion da trwy gyflwyniadau a thrafodaethau. Sefydlwyd y grŵp i ddechrau fel grŵp gorchwyl a gorffen amser cyfyngedig, ond newidiwyd ei gylch gorchwyl wedyn yn 2023 wrth iddo esblygu i'w rôl bresennol. Mae blwch post penodedig adran 6 hefyd, sydd wedi'i restru ym mhob gohebiaeth ac mewn canllawiau, a gall unrhyw sefydliad gysylltu â Llywodraeth Cymru os oes ganddynt gwestiynau ynglŷn â dyletswydd adran 6.

Rhestr o ohebiaeth adran 6 PA

  • Ebrill 2016: llythyr ar gyflwyno dyletswydd adran 6 – un ar gyfer cyrff cyhoeddus Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac un ar gyfer gweddill yr awdurdodau cyhoeddus
  • Gorffennaf 2018: gweithdy adran 6 ym Mhartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2018
  • Tachwedd 2019: llythyr y Gweinidog at yr awdurdodau cyhoeddus ynghylch canllawiau adrodd a'r rownd adrodd gyntaf
  • Tachwedd 2019: e-bost y Gweinidog at gynghorau trefn a chymuned ynglŷn â'r canllawiau adrodd a'r rownd adrodd gyntaf
  • Mawrth 2021: anfonwyd e-bost at awdurdodau cyhoeddus ynglŷn â gwerthusiad adran 6
  • Medi 2021: anfonwyd e-bost at gynghorau tref a chymuned am gyflwyno sleidiau adran 6
  • Gorffennaf 2022: llythyr y Gweinidog at awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned ac awdurdodau cyhoeddus eraill yn eu hatgoffa o'r ail rownd adrodd ac yn cynnwys taflen adran 6 ac adnoddau bioamrywiaeth
  • Medi 2022: e-bost at awdurdodau cyhoeddus ynglŷn â sesiwn adran 6 yng Nghynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2022

Argymhelliad 2 (gofynion adrodd)

Ar ôl llunio rhestr bendant o'r awdurdodau cyhoeddus sydd o fewn cwmpas y ddyletswydd, dylai Llywodraeth Cymru nodi (o fewn y canllawiau) sut y disgwylir i bob awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â gofynion adrodd y ddyletswydd. Byddem yn awgrymu y dylai fod yn ofynnol fel isafswm i awdurdodau cyhoeddus gyflwyno eu cynlluniau a'u hadroddiadau i Lywodraeth Cymru ac y dylid cadw un storfa o'r dogfennau hyn. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru am ystyried sut y gallai ddwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif yn fwy os nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion adrodd a nodir gan y ddyletswydd. Gallai hyn gynnwys nodi'r camau a'r camau gweithredu y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth, h.y. nodyn atgoffa ffurfiol i awdurdodau cyhoeddus.   

Ymateb

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau'n benodol ar gofyniad adrodd a anfonwyd at awdurdodau cyhoeddus, ynghyd â llythyr gweinidogol ym mis Tachwedd 2019. Ar yr un pryd, cynhyrchwyd canllawiau wedi'u teilwra ar gyfer cynghorau tref a chymuned, ac fe'u hanfonwyd atynt. Cawsant eu dosbarthu gan Un Llais Cymru, y sefydliad ymbarél ar gyfer cynghorau tref a chymuned Cymru.

Ar gyfer yr ail rownd adrodd yn 2022, ysgrifennodd y Gweinidog ar y pryd at yr awdurdodau cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2022 yn nodi bod angen cyflwyno adroddiadau erbyn diwedd y flwyddyn honno. Roedd taflen adnoddau hefyd wedi'i chynnwys gyda'r llythyr. Roedd hyn yn manylu ar y canllawiau sydd ar gael, yn darparu dolenni i adroddiadau a gyhoeddwyd yn flaenorol, ynghyd â gwybodaeth am brosiectau a mentrau gan gynnwys y cyllid sydd ar gael. Unwaith eto, cynhyrchwyd taflen adnoddau ar wahân ar gyfer cynghorau tref a chymuned. Mae yna hefyd ddogfen cwestiynau cyffredin sy'n darparu mwy o ganllawiau am y ddyletswydd.

Gyda'r rownd nesaf o adroddiadau i fod i gael eu cyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn yma, cynigir bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ysgrifennu at awdurdodau cyhoeddus i'w hatgoffa bod angen iddynt gyflwyno eu hadroddiad adran 6. 

Mae Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) sydd ar ddod yn cynnwys sefydlu corff goruchwylio amgylcheddol, Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru (OEGW) y bydd ei rôl yn cynnwys goruchwylio cydymffurfiaeth awdurdodau cyhoeddus â deddfwriaeth amgylcheddol.   

Argymhelliad 3 (manylion cyswllt)

Mae angen i Lywodraeth Cymru wella'r manylion cyswllt sydd ganddi ar gyfer awdurdodau cyhoeddus at ddibenion cyfleu gwybodaeth iddynt am y ddyletswydd. O ran yr awdurdodau cyhoeddus a gynhwyswyd ar y gronfa ddata a oedd ar gael i'r tîm ymchwil, nid oedd manylion cyswllt ar gael ar gyfer llawer ohonynt neu roedd angen diweddaru'r manylion. Yn ddelfrydol, dylai'r gronfa ddata hon gynnwys manylion ar gyfer prif swyddogion gweithredu yn ogystal ag unigolion sydd wedi bod yn ymwneud â'r ddyletswydd e.e., swyddog bioamrywiaeth/amgylcheddol neu swyddog cydymffurfiaeth/polisi. Casglwyd manylion cyswllt wedi'u diweddaru ar gyfer llawer o'r awdurdodau cyhoeddus fel rhan o'r adolygiad a dylid eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer y gwaith hwn. 

Ymateb

Rydym yn cadw rhestr o awdurdodau cyhoeddus a phob tro y bydd gohebiaeth yn cael ei hanfon allan, lle bo hynny'n bosibl, mae'n cael ei hanfon ar e-bost at Brif Swyddog Gweithredol/uwch swyddogion yr awdurdod. Bob tro mae cyfathrebiad yn cael ei anfon mae’r manylion cyswllt yn cael eu gwirio, ond mae’n anodd cael gafael ar rai cyfeiriadau e-byst unigol, felly defnyddir cyfeiriad e-bost generig. Rydyn ni’n archwilio sut gellir defnyddio sefydliadau ambarél ar gyfer grwpiau o awdurdodau cyhoeddus i wella’r broses hon. 

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ac Un Llais Cymru wedi darparu cymorth gyda hyn, ac rydym yn archwilio opsiynau eraill fel defnyddio sefydliadau ymbarél eraill i helpu i gylchredeg gohebiaeth yn y dyfodol.

Wrth gyfathrebu ag awdurdodau parciau lleol a chenedlaethol rydym yn anfon copi at y swyddog bioamrywiaeth/ecoleg. 

Argymhelliad 4 (codi ymwybyddiaeth a’r 2il rownd adrodd)

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i godi ymwybyddiaeth o'r ddyletswydd ar draws awdurdodau cyhoeddus, gan sicrhau bod gohebiaeth ysgrifenedig yn cael ei dargedu at gynrychiolwyr ar lefel uwch o fewn awdurdodau cyhoeddus yn ogystal â staff gweithredol sy'n ymwneud â chynllunio ac adrodd yn erbyn y ddyletswydd. Bydd hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod cyn y bydd yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gynhyrchu eu hail adroddiad ar y ddyletswydd, erbyn diwedd 2022. Mae angen atgyfnerthu'r cyfathrebu â phrif swyddogion gweithredu ar lefel Weinidogol er mwyn cynyddu'r statws a'r amlygrwydd a roddir i'r ddyletswydd. 

Ymateb

Ers sefydlu'r ddyletswydd yn 2016 mae nifer o lythyrau a negeseuon e-bost wedi cael eu hanfon at awdurdodau cyhoeddus. Mae gohebiaeth flaenorol ag awdurdodau cyhoeddus yn aml wedi bod trwy lythyrau gweinidogol/negeseuon e-bost at Brif Swyddogion Gweithredol/uwch swyddogion. Gweler yr ohebiaeth a restrir yn yr ymatebion i Argymhelliad 2 ac Argymhelliad 5 sy'n manylu ar y camau a gymerwyd i godi ymwybyddiaeth o'r ddyletswydd. Mae'r rhain yn cynnwys gweithdy gydag arweinwyr cynghorau lleol ac arweinwyr y pwyllgorau newid hinsawdd ac amgylcheddol, a chyflwyniadau ym Mhartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ac i gynghorau tref a chymuned.

Argymhelliad 5 (gweminar)

Gallai Llywodraeth Cymru ystyried cynnal digwyddiad neu weminar ar ddiwedd 2021/dechrau 2022 i hyrwyddo'r ddyletswydd a lansio unrhyw ganllawiau newydd i'r sector. Gellid defnyddio'r digwyddiad hwn i nodi amserlenni ar gyfer paratoi ail adroddiad ar y ddyletswydd erbyn diwedd 2022, i glywed gan awdurdodau cyhoeddus o bob un o'r tri grŵp sydd wedi cydymffurfio'n effeithiol â'r ddyletswydd ac i helpu i hwyluso rhwydweithio rhwng awdurdodau cyhoeddus er mwyn rhannu profiadau ac arfer da. 

Ymateb

Cafwyd cyflwyniad ar ddyletswydd adran 6 gyda ffocws ar y gofyniad adrodd yng Nghynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ym mis Hydref 2022. Anfonwyd neges e-bost at awdurdodau cyhoeddus o flaen llaw yn hyrwyddo'r digwyddiad hwn. Yn ogystal â hynny, cynhaliwyd y cyflwyniadau a'r gweithdai canlynol:

  • Medi 2021: cyflwyniad i gynghorau tref a chymuned yng nghynhadledd Un Llais Cymru
  • Tachwedd 2021: llywio'r dirwedd bolisi a chynllunio. Gweithdy ar gyfer ymgynghorwyr ecoleg ar bolisi bioamrywiaeth a'r drefn gynllunio
  • Hydref 2022: cyflwyniad yng Nghynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Cyn y cyflwyniad anfonwyd e-bost at awdurdodau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o'r digwyddiad
  • Cyflwyniad Tachwedd 2022 yng Nghynhadledd Dathlu 50 Mlynedd Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC) ar gyfer cynghorau tref a chymuned
  • Tachwedd 2022: cyflwyniad a thrafodaeth gydag arweinwyr cynghorau awdurdodau lleol ac arweinwyr pwyllgorau newid hinsawdd ac amgylcheddol awdurdodau lleol Cymru fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru 2022. Roedd hyn yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth a pholisi bioamrywiaeth, gan gynnwys dyletswydd adran 6. Siaradodd Carolyn Thomas, AS Gogledd Cymru, hefyd i dynnu sylw at y newidiadau y gellir eu gwneud i reoli ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd er budd bioamrywiaeth, ac i hyrwyddo'r ymgyrch “Iddyn Nhw
  • Mawrth 2023: llywio'r dirwedd polisi a chynllunio. Gweithdy ar gyfer ymgynghorwyr ecoleg ar bolisi bioamrywiaeth a'r drefn gynllunio
  • Mehefin 2023: cyflwyniad ar fioamrywiaeth a dyletswydd adran 6 ac yna sesiwn holi ac ateb yn Nigwyddiad yr Amgylchedd a Natur Cynghorau Tref a Chymuned Powys
  • Chwefror 2024: cyflwyniad a gweithdy yng nghynhadledd Dysgu ar y Cyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 

Roedd y daflen adnoddau a gynhwyswyd gyda'r llythyr gweinidogol a anfonwyd at awdurdodau cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2022 yn cynnwys dolenni at adroddiadau da a gyhoeddwyd ar gyfer y rownd adrodd gyntaf yn 2019.

Argymhelliad 6 (adborth)

Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gall ddarparu cydnabyddiaeth ac adborth gwell i awdurdodau cyhoeddus sy'n rhannu eu hadroddiadau cyhoeddedig. Mae angen adnoddau priodol ar gyfer y gwaith hwn fel y gall helpu i wella cynllunio a chyflawni dyletswyddau bioamrywiaeth ar draws awdurdodau cyhoeddus. Heb roi'r rôl hon ar waith i fonitro ac adolygu gwaith awdurdodau cyhoeddus, mae perygl na fydd awdurdodau yn cynnal y ddyletswydd fel blaenoriaeth. 

Ymateb

Darperir adborth os yw awdurdod cyhoeddus yn cyflwyno cynllun neu adroddiad ar gyfer sylwadau ac mae swyddogion yn cwrdd ag awdurdodau cyhoeddus os gofynnir amdanynt. Wrth edrych ymlaen, bydd Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yn cyflwyno darpariaethau i gryfhau'r gofynion monitro, gwerthuso ac adrodd ar gyfer adran 6 a bydd yr argymhelliad hwn yn cael ei ystyried fel rhan o'r gwaith sydd ei angen i ddatblygu ein dull o fonitro, gwerthuso ac adrodd.

Argymhelliad 7 (grŵp 1, cynghorau tref a chymuned)

Efallai yr hoffai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gallai awdurdodau cyhoeddus Grŵp 1, yn ogystal â chynghorau tref a chymuned, gael eu cefnogi’n well o ran mynediad at gyngor ac arweiniad arbenigol o ystyried nad yw’r garfan hon yn tueddu i feddu ar arbenigedd mewnol ar fioamrywiaeth i helpu i ddatblygu eu cynlluniau bioamrywiaeth.

Ymateb

Yn 2022 fe wnaethom gynhyrchu a chyhoeddi cyflwyniad i ddyletswydd adran 6 yn amlinellu prif agweddau'r ddyletswydd, ynghyd ag esboniad o beth yw bioamrywiaeth, pam mae'n bwysig, ac enghreifftiau o arferion da. Mae'r cynghorau tref a chymuned yn gynulleidfa allweddol o safbwynt hyn, ac fe'i cylchredwyd i'r cynghorau drwy Un Llais Cymru. Yn ogystal â hynny, mae canllawiau gofynion adrodd wedi'u teilwra'n benodol i'r cynghorau tref a chymuned. Mae swyddogion hefyd wedi rhoi cyflwyniadau mewn nifer o ddigwyddiadau cynghorau tref a chymuned dros y blynyddoedd diwethaf fel y rhestrir yn yr ymateb i argymhelliad 5. Yn ogystal â hynny, mae gan Un Llais Cymru aelod o staff penodedig ar gyfer hyrwyddo'r ddyletswydd ymysg y cynghorau ac maent hefyd yn aelod o weithgor adran 6.

O ran awdurdodau grŵp 1, mae eu gweithredoedd nhw yn fwy tebygol o fod yn canolbwyntio ar rai sydd o fudd anuniongyrchol i fioamrywiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys camau gweithredu sy'n mynd i'r afael ag amcan 4 Cynllun Gweithredu Adfer Natur i Gymru sy'n ymwneud â mynd i'r afael â'r pwysau mwyaf ar rywogaethau a chynefinoedd, megis ailgylchu, caffael cynaliadwy a mentrau teithio. Mae enghreifftiau o'r camau gweithredu hyn wedi'u cynnwys mewn nifer o ddogfennau canllawiau adran 6 megis y canllaw arfer da (ar biodiversitywales.org.uk) sy'n cynnwys adran yn benodol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus Grŵp 1.

Argymhelliad 8 (gwella canllawiau)

Mae lle i wella'r canllawiau cyhoeddedig ar gyfer y ddyletswydd drwy gynnwys:

  • enghreifftiau o arferion gorau megis astudiaethau achos
  • dolenni i gynlluniau ac adroddiadau o ansawdd da a luniwyd gan awdurdodau cyhoeddus eraill, gan nodi'r hyn a ystyrir yn gryfderau
  • awgrymiadau ar sut y gallai gweithio mewn partneriaeth helpu awdurdodau cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion bioamrywiaeth
  • cyngor ar sut y gall y ddyletswydd gyfateb yn well â blaenoriaethau eraill, gan gynnwys datganiadau ardal, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a'r agenda argyfwng hinsawdd
  • camau ac enghreifftiau penodol y gall awdurdodau cyhoeddus Grŵp 1, heb dir, eu dilyn er mwyn gwella bioamrywiaeth

Ymateb

Ym mis Mawrth 2020 fe wnaethom gyhoeddi canllaw arfer da (ar biodiversitywales.org.uk) sy'n rhestru enghreifftiau o gamau gweithredu o sampl gynrychioliadol gan awdurdodau cyhoeddus. Mae'r canllaw yn rhestru'r gweithredoedd yn ôl math o grŵp. Hefyd, roedd y daflen adnoddau a anfonwyd gyda llythyr y gweinidog ym mis Gorffennaf 2022 yn cynnwys dolenni at nifer o adroddiadau da, ac roedd dolenni at adroddiadau enghreifftiol hefyd wedi'u cynnwys yn yr e-bost a anfonwyd at y cynghorau tref a chymuned yn 2021 yn cylchredeg y cyflwyniad i'r ddogfen am ddyletswydd adran 6.

Yn y cyflwyniadau a restrir yn Argymhelliad 5, roedd llawer o'r rhain yn cynnwys adran ar sut y bydd camau gweithredu sydd o fudd i fioamrywiaeth hefyd yn cyfrannu at fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd.

Bydd canllawiau adran 6 yn cael eu hadnewyddu i adlewyrchu Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) sydd ar ddod a bydd y broses hon yn cynnwys archwilio sut y gellir gwella'r canllawiau i wella gweithrediad dyletswydd adran 6. Bydd canllawiau newydd ac wedi'u hadnewyddu yn cael eu cyd-ddylunio a'u datblygu ar y cyd ag awdurdodau cyhoeddus.

Mae enghreifftiau o gamau y gall awdurdodau cyhoeddus eu cymryd hefyd ar wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Mae eu gwefan hefyd yn cynnwys ystod eang o wybodaeth sy'n hyrwyddo bioamrywiaeth ac maent hefyd yn cyhoeddi cylchlythyr misol sy'n cynnwys gwybodaeth am brosiectau cyfredol, y cyllid sydd ar gael a'r dystiolaeth ddiweddaraf.