Neidio i'r prif gynnwy

Diben y gwerthusiad oedd ystyried canlyniadau’r gwobrau hyn mewn perthynas â: absenoldebau salwch; gwella’r gallu i gadw staff; gwella’r gallu i ennyn diddordeb staff; a gwella proffil cwmnïau.

Adroddiad terfynol

Dyddiad rhyddhau: 13 Rhagfyr 2013

  • Ni chafodd y Gwobrau effaith amlwg hyd yn hyn ar ganlyniadau’r sefydliadau o ran lefelau absenoldeb staff, cadw staff, ymgysylltiad a phroffil y cwmni, gan fod y sefydliadau sy’n cymryd rhan ac yn ymgeisio am y Gwobrau ar hyn o bryd yn rhai sy’n dechrau o sylfaen dda felly nid oes llawer o le i adeiladu arni.
  • Dangosodd yr ymchwil fod o leiaf rhai gweithwyr yn elwa o gymryd rhan mewn gweithgareddau iachach, er ei bod yn anodd dweud ai’r Wobr ei hun sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu a fyddai’r sefydliadau wedi rhoi’r mentrau hyn ar waith beth bynnag.
  • Serch hynny, roedd cyfranogwyr yn hynod o bositif ynghylch effaith y Gwobrau ar y modd yr oeddent yn rheoli iechyd a lles staff a sut ‘roedd y fframwaith yn annog mwy o waith cydgysylltiedig yn y sefydliad a chyfathrebu’n well gyda’r staff.
  • Dywedodd bron pawb y byddent yn argymell y Wobr i sefydliadau eraill.

Adroddiad interim

Dyddiad rhyddhau: 28 Chwefror 2013

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau interim sy’n seiliedig ar gyfweliadau ar y ffôn a gynhaliwyd hyd at ddiwedd mis Gorffennaf 2012. Mae hyn yn cynnwys cyfweliadau ag 16 o ymgeiswyr newydd ar gyfer y Gwobrau, a 15 o gyflogwyr a oedd wedi ennill y Gwobrau hyn o’r blaen. Yr unigolion a gafodd eu cyfweld oedd y rhai hynny a oedd yn gyfrifol am gymhwyso’r gwobrau hyn yn y gwahanol sefydliadau.

Adroddiadau

Evaluation of the outcomes for employers participating in the Corporate Health Standard and Small Workplace Health Award (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 889 KB

PDF
889 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthuso'r Canlyniadau ar gyfer Cyflogwyr yn Cymryd Rhan yng Ngwobr Gweithle Bach y Safon Iechyd Gorfforaethol - Crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 245 KB

PDF
245 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Evaluation of the outcomes for employers participating in the Corporate Health Standard and Small Workplace Health Award: Interim report (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 236 KB

PDF
236 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.