Mae'r gwerthusiad yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd ac effaith Learntrain, yn ogystal â'r angen fydd yn y dyfodol am gronfa e-ddysgu a'i chynaliadwyedd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Bwriad y gwerthusiad yw sicrhau y bydd modd dod o hyd i'r deunyddiau yn y dyfodol trwy borth cyrchu. Mae'r gwerthusiad hefyd yn mynd i'r afael â'r defnydd a wneir ar hyn o bryd o'r gronfa a pha mor addas yw'r gronfa ar gyfer y prif sector o randdeiliaid: Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith, Dysgu i Oedolion a Dysgu Cymunedol ac Ysgolion sydd â chweched dosbarth.
