Neidio i'r prif gynnwy

Strwythurwyd y Strategaeth gan ddeg thema llorweddol a deg grŵp blaenoriaeth, sydd o anghenraid yn diffinio’r prif fannau ymyrraeth a’r buddiolwyr y bwriedir iddynt elwa o’r Strategaeth.

Er fod rhai o’r Grwpiau Blaenoriaeth yn cael eu diffinio yn nhermau ystod oedran, (er enghraifft, blynyddoedd cynnar, addysg oedolion), mae eraill yn draws doriad ac, mewn rhai achosion, yn fwy anodd i’w diffinio (e.e. grwpiau eraill mewn perygl o amddifadedd cymdeithasol). Cyflenwir y Strategaeth yng Nghymru gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol (ASS), sydd ar hyn o bryd dan gytundeb tan 2008. Cyhoedda’r ASS Gynllun Cyflenwi blynyddol, sy’n gosod y gweithgareddau a fwriedir ar gyfer y flwyddyn i gefnogi’r Strategaeth. Cyflenwir y gweithgareddau gan yr ASS, Awdurdodau Lleol ac isgontractwyr penodedig. Gosodwyd nifer o Brosiectau Cynnal Cenedlaethol (NSP) i gefnogi nifer o ardaloedd o weithgarwch. Mae cyllideb gyflenwi o £12.8m ar gael i gyflenwi Sgiliau Sylfaenol yn 2006-07.

Ym Mis Mehefin 2006, comisiynodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gonsortiwm dan arweiniad Miller Research (UK) Cyf i werthuso effaith Strategaeth Sgiliau Sylfaenol i Gymru, hyd at 2010. Bwriedir i’r gwerthusiad: “ymchwilio’r Strategaeth yn gadarn ac yn annibynnol er mwyn gwerthuso ei effaith” a chomisiynwyd y prosiect mewn dau gam: Astudiaeth gwmpasu i ddarparu fframwaith gwerthuso; a Gwerthuso effaith y Strategaeth hyd at 2009-10.

Mae Cam 1 yr adroddiad yn gosod canlyniadau a chasgliadau’r cyfnod cwmpasu ac yn darparu fframwaith gwerthuso, dull o asesu effaith a rhaglen waith gychwynnol i’r prosiect.

Adroddiadau

Gwerthuso effaith Strategaeth Sgiliau Sylfaenol ar gyfer Cymru - Cam i terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.