Gwerthusiad annibynnol o Gofyn a Gweithredu o ran ei roi ar waith a’i ganlyniadau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae Gofyn a Gweithredu yn broses o ymholi wedi'i dargedu i'w hymarfer ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru i adnabod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Ymhlith y cyfranogwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil roedd hyfforddwyr Gofyn a Gweithredu, dysgwyr, cydlynwyr rhanbarthol a chydweithwyr o Gymorth i Ferched Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae'r gwerthusiad yn canfod bod y rhaglen Gofyn a Gweithredu yn cael ei gweld fel un bwysig a gwerthfawr sy'n cael effaith ledled Cymru ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan, yn unigol ac ar lefel sefydliadol / sector.
Ceir tystiolaeth bod cydnabyddiaeth eang o’r angen am Gofyn a Gweithredu, a chefnogaeth eang i nodau'r rhaglen. Teimlir mai'r model Hyfforddi'r Hyfforddwr yw'r dull mwyaf priodol o ddarparu a lledaenu'r hyfforddiant.
Mae'r adroddiad yn cynnwys pymtheg argymhelliad i'w hystyried; sy'n ymwneud â chyflwyno’r rhaglen, cynnwys y cwrs a deunyddiau hyfforddi a gwerthuso.
