Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Cyngor wedi cyflawni gwaith i atal eithafiaeth dreisgar rhwng 2009 a 2012.

Roedd y gwaith yn cynnwys hyfforddiant llywodraethu ac amddiffyn plant ar gyfer mosgiau, madrassahs a sefydiadau Mwslimaidd. Hyfforddiant 'Radical Middle Way' ar fynd i’r afael ag ideoleg eithafol, a phrosiectau arwain ar ddatblygu pobl ifanc.

Roedd y bobl gafodd eu cyfweld ac oedd wedi mynd ar yr hyfforddiant llywodraethu ac amddiffyn plant yn dweud eu bod wedi’u gweld yn ddefnyddiol iawn. Roeddent yn gallu rhoi llawer o enghreifftiau o sut roedd yr hyfforddiant wedi’u cymell hwy i wella arferion gweithredu sefydliadau Mwslimaidd.

Roedd y rhai fu ar yr hyfforddiant  Radical Middle Way hefyd yn teimlo bod yr hyfforddiant wedi’u paratoi hwy’n well i ddiogelu’r cymunedau roeddent yn eu gwasanaethu, yn enwedig pobl ifanc, yn erbyn dadleuon yr eithafwyr.

Argymhellion

  • Yn y dyfodol, dylai LlC gomisiynu rhaglenni trwy broses dendro agored sy’n cynnwys amcanion eglur ar gyfer y deilliannau, sut bydd y rhain yn cael eu mesur, gofynion adrodd tynnach ac eglurder am recriwtio a gwariant ar y prosiect.
  • Mae angen i raglenni yn y dyfodol sy’n cael eu hariannu gyda’r nod o atal pobl rhag cymryd rhan mewn eithafiaeth dreisiol fod yn canolbwyntio’n eglur ar daclo’r unigolion hynny mae risg iddynt ac sy’n agored i gael eu denu tuag at eithafiaeth dreisiol.

Adroddiadau

Gwerthuso Gwaith 'Atal' Cyngor Mwslemiaid Cymru , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthuso Gwaith 'Atal' Cyngor Mwslemiaid Cymru: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 413 KB

PDF
413 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.