Mae'r undebau mewn sefyllfa unigryw i feithrin diddordeb y cyflogwyr hynny sy'n gwybod amdanynt, gan fod ganddynt berthynas naturiol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Drwy uwchsgilio a chefnogi'r undebau, mae TUC Cymru wedi cyfrannu at y ffaith fod dysgu yn ganolog i weithgareddau'r undebau llafur yng Nghymru.
Yn ogystal â hynny, mae TUC Cymru'n sicrhau bod cyflogwyr yng Nghymru'n gallu defnyddio'r fframwaith strategol eang a ddarperir drwy fodel dysgu dan arweiniad yr undebau - a'u bod yn cael budd o'r fframwaith hwnnw. Mae'r fframwaith yn cyfrannu at raddfa a chwmpas dysgu i oedolion yng Nghymru.
