Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad terfynol sy'n crynhoi'r canlyniadau i unigolion a chymunedau o ganlyniad i'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a'r rheswm dros y canlyniadau hyn.

Canlyniadau'r rhaglen: agweddau ac ymddygiadau

Fe wnaeth gwaith maes dynnu sylw at sut roedd cymryd rhan yn y rhaglen yn atgyfnerthu neu'n cryfhau agweddau cadarnhaol presennol tuag at natur i raddau helaeth.

Roedd y rhai a gymerodd ran eisoes yn ymgysylltu â mannau gwyrdd cyn iddynt gymryd rhan yn y rhaglen. O ganlyniad, nid oedd fawr o newid yn lefelau ymgysylltu'r rhai a gymerodd ran. Fodd bynnag, adroddwyd am gynnydd mewn ymddygiadau ecogyfeillgar cyffredinol o ganlyniad i ymwneud â'r rhaglen.

Canlyniadau'r rhaglen: manteision personol

Adroddwyd am ystod o fuddion personol o ganlyniad i ymwneud â'r rhaglen. Ymhlith y manteision a adroddwyd yr oedd llesiant gwell, meithrin  gwybodaeth neu sgiliau, cwrdd â phobl newydd ac iechyd corfforol gwell.

Canlyniadau'r rhaglen: pobl sydd â  mynediad cyfyngedig at fyd natur

Nododd y rhai a gymerodd ran mewn prosiectau wedi'u hanelu at y rhai sydd â mynediad cyfyngedig i natur eu bod yn teimlo'n gysylltiedig ag eraill a bod eu hiechyd wedi gwella.

Dulliau: sut a pham y cyflawnodd prosiectau ganlyniadau

Tynnodd y gwerthusiad sylw at y dulliau canlynol a oedd yn sail i'r canlyniadau a nodwyd:

  • roedd alinio nodau'r prosiect â chymhelliant i gymryd rhan yn fwy tebygol o arwain at bobl yn cymryd rhan yn y prosiect
  • deall pwy y mae'r prosiectau yn eu targedu a theilwra dulliau ymgysylltu yn unol â hynny
  • cynnig hyblygrwydd i grwpiau a sefydliadau gyflawni prosiectau mewn ffyrdd sy'n cefnogi anghenion lleol
  • cyfuno gweithgarwch ymarferol â chyfleoedd dysgu i annog rhagor o gyfrifoldeb ymhlith gwirfoddolwyr
  • defnyddio gwybodaeth a phrofiad presennol grwpiau cymunedol a chefnogi'r rhai sy'n cyflawni prosiectau i feithrin capasiti
  • sicrhau bod gweithgarwch ar y safle yn cael ei gynnal i sicrhau canlyniadau a gyflawnwyd

Adroddiadau

Adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 845 KB

PDF
845 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Tîm Ymchwil Hinsawdd a'r Amgylchedd

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.